Amseroedd agor y Llysoedd a鈥檙 Tribiwnlysoedd dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd - 2024
Manylion am amseroedd agor y llysoedd a鈥檙 tribiwnlysoedd dros gyfnod y Nadolig a鈥檙 Flwyddyn Newydd.

Bydd ein llysoedd a鈥檔 tribiwnlysoedd yn cau dros dro ar sawl dyddiad dros gyfnod y Nadolig.
Y dyddiadau cau ar gyfer y flwyddyn hon yw:
- Dydd Mercher 25 Rhagfyr 2024
- Dydd Iau 26 Rhagfyr 2024
- Dydd Gwener 27 Rhagfyr 2024
- Dydd Mercher 1 Ionawr 2025
Bydd rhai llysoedd ynadon ar agor ar 26 Rhagfyr 2024 ac 1 Ionawr 2025, ond ar gyfer gwrandawiadau remand yn unig.
Ddydd Gwener 27 Rhagfyr 2024, dim ond Llysoedd Sirol a Theulu, Llysoedd y Goron, yr Uchel Lys, y Llys Ap锚l (Y Llysoedd Barn Brenhinol a鈥檙 Adeilad Rolls) a rhai tribiwnlysoedd fydd ar gau. Bydd llysoedd ynadon a鈥檔 swyddfeydd tribiwnlysoedd yn yr Alban ar agor ar y diwrnod hwn. Yn yr Alban, bydd swyddfeydd ein tribiwnlysoedd hefyd ar gau ddydd Iau 2 Ionawr 2025.
Gall gwrandawiadau sy鈥檔 digwydd dros gyfnod y Nadolig ddigwydd wyneb yn wyneb, drwy fideo neu dros y ff么n. Bydd eich hysbysiad o wrandawiad yn cadarnhau hyn.
Efallai y bydd rhai llysoedd dibynnol/lleoliadau gwrandawiadau llai hefyd ar gau y tu allan i鈥檙 trefniadau hyn. I wirio neu