Datganiad i'r wasg

Mae Cynllun Twf y Canghellor yn golygu toriadau i drethi miliwn o bobl yng Nghymru

Mae鈥檙 Canghellor yn datgelu ei Gynllun Twf i ryddhau potensial economi鈥檙 Deyrnas Unedig, mynd i鈥檙 afael 芒 chwyddiant a sicrhau cynhyrchiant a chyflogau uwch.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 Truss Conservative government
Union Jack and Growth Plan
  • Y Canghellor yn cyhoeddi cynllun twf newydd beiddgar, i gefnogi busnesau a gwella safonau byw i bawb yn y Deyrnas Unedig.
  • Cynnydd yn y dreth gorfforaeth wedi ei ganslo, gan ei gadw ar 19% wrth i鈥檙 llywodraeth osod ei golygon ar gyfradd twf o 2.5%.
  • Cyfradd sylfaenol y dreth incwm wedi ei thorri i 19% ym mis Ebrill 2023 鈥� flwyddyn yn gynharach na鈥檙 disgwyl 鈥� gyda 31 miliwn o bobl yn cael 拢170 yn rhagor y flwyddyn ar gyfartaledd a 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru yn cael toriad gwerth 拢235 mewn Yswiriant Gwladol.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn cael tua 拢70 miliwn o ganlyniad i doriadau treth mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.

Ddydd Gwener 23 Medi, cyhoeddodd y Canghellor ei Gynllun Twf i ryddhau鈥檙 potensial enfawr yn economi鈥檙 Deyrnas Unedig, gan fynd i鈥檙 afael 芒 chwyddiant a sicrhau lefelau uwch o gynhyrchiant a chyflogau.

Cyflwynodd Kwasi Kwarteng gynllun beiddgar i gefnogi busnesau a鈥檜 rhoi ar lwybr twf economaidd. Bydd cyfradd sylfaenol treth incwm yng Nghymru yn cael ei thorri i 19% o fis Ebrill 2023 ymlaen, sy鈥檔 werth 拢170 ar gyfartaledd, a bydd 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru yn gweld gostyngiad yn eu Yswiriant Gwladol, sy鈥檔 werth 拢235 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Bydd toriadau i鈥檙 Dreth Stamp yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn cael tua 拢70 miliwn dros gyfnod Adolygiad o Wariant tair blynedd 2021.

Bydd hybu twf economaidd yn galluogi cyllid sefydlog ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, cyflogau uwch a mwy o gyfleoedd ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.

Dywedodd Kwasi Kwarteng, Canghellor y Trysorlys:

Nid term academaidd heb gysylltiad 芒鈥檙 byd go iawn yw twf economaidd. Mae鈥檔 golygu mwy o swyddi, cyflogau uwch a mwy o arian i gyllido gwasanaethau cyhoeddus. Ni fydd hyn yn digwydd dros nos, ond mae鈥檙 toriadau treth a鈥檙 diwygiadau rwyf wedi eu cyhoeddi heddiw 鈥� y pecyn mwyaf ers cenedlaethau 鈥� yn rhoi arwydd clir mai twf yw ein blaenoriaeth.

Rydym eisiau i fusnesau ledled Cymru gadw mwy o鈥檜 harian eu hunain i fuddsoddi, arloesi a thyfu. Bydd ein gostyngiadau treth incwm ac yswiriant gwladol yn golygu cannoedd o bunnoedd y flwyddyn yn rhagor ym mhocedi dros filiwn o weithwyr yng Nghymru.

Ac mae ein Cynllun Rhyddhad Biliau Ynni yn gwarchod miloedd o fusnesau ledled Cymru rhag costau ynni cynyddol, gyda disgownt ar brisiau trydan a nwy cyfanwerthol.

Mae ein Cynllun Twf yn gosod y Deyrnas Unedig gyfan ar y trywydd ar gyfer twf, gan adeiladu ar gryfder cyllidol ein Hundeb a rhyddhau potensial aruthrol y wlad hon.

Dywedodd Robert Buckland, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae mesurau beiddgar heddiw yn rhoi twf economaidd wrth galon ein cynlluniau ar gyfer Cymru a鈥檙 Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi ymrwymo i ddiogelu cartrefi a busnesau Cymru rhag prisiau cynyddol drwy鈥檙 Cynllun Rhyddhad Biliau Ynni. Ond economi iach sy鈥檔 tyfu yw鈥檙 ateb tymor hir gorau i鈥檙 pwysau ariannol enfawr sy鈥檔 wynebu鈥檙 wlad gyfan.

Drwy hybu buddsoddiad, lleihau trethi a chefnogi busnesau, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn denu mwy o bobl i swyddi sy鈥檔 talu鈥檔 dda, yn galluogi gweithwyr i gadw mwy o鈥檙 arian maent yn ei gael am weithio鈥檔 galed a sicrhau bod economi Cymru鈥檔 tyfu eto.

Gan nodi鈥檙 camau cyntaf tuag at dwf heddiw, datgelodd Kwasi Kwarteng ddiwygiadau treth sylweddol i alluogi busnesau i gadw mwy o鈥檜 harian eu hunain, gan annog buddsoddiad, rhoi hwb i gynhyrchiant a chreu swyddi. Mae mesurau newydd yn cynnwys canslo鈥檙 cynnydd arfaethedig yn y dreth gorfforaeth, ei gadw ar y lefel isaf yn y G20 ar 19%, a gwrthdroi鈥檙 cynnydd o 1.25% mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol - newid a fydd yn arbed bron i 拢10,000 i 920,000 o fusnesau鈥檙 Deyrnas Unedig ar gyfartaledd y flwyddyn nesaf a chyfartaledd o 拢235 y flwyddyn i 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru.

Mae鈥檙 Canghellor hefyd wedi nodi cynlluniau i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 llyffethair mwyaf o ran twf 鈥� cost uchel ynni sy鈥檔 cael ei sbarduno gan ymosodiad Vladimir Putin ar Wcr谩in, sydd wedi codi chwyddiant. I fynd i鈥檙 afael 芒 hyn, bydd Gwarant Pris Ynni鈥檙 llywodraeth yn arbed 拢1,000 y flwyddyn i鈥檙 cartref nodweddiadol ar ei fil ynni ac yn haneru cost biliau ynni busnes, gan leihau chwyddiant brig oddeutu 5 pwynt canran.

Cadarnhawyd hefyd y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sefydlu Ardaloedd Buddsoddi mewn safleoedd penodol ledled y Deyrnas Unedig. Bydd pob Parth Buddsoddi yn cynnig toriadau treth hael wedi eu targedu ac wedi eu cyfyngu o ran amser i fusnesau, a rheolau cynllunio rhyddfrydig i ryddhau mwy o dir ar gyfer tai a datblygiadau masnachol. Bydd y rhain yn ganolbwyntiau ar gyfer twf, gan annog buddsoddiad mewn canolfannau siopa, bwytai, fflatiau a swyddfeydd newydd, a chreu cymunedau newydd ffyniannus.

Gan ddatgelu rhagor o ddiwygiadau treth, amlinellodd Kwasi Kwarteng gefnogaeth benodol i鈥檙 sector tafarndai a lletygarwch, gan rewi鈥檙 dreth ar alcohol am flwyddyn arall. Bydd diwygiadau i foderneiddio treth ar alcohol hefyd. Mae鈥檙 mesurau newydd sy鈥檔 cynorthwyo busnesau yn ychwanegol at Gynllun Rhyddhad Biliau Ynni鈥檙 llywodraeth i fusnesau er mwyn capio costau fesul uned, a fydd yn eu diogelu rhag costau ynni cynyddol y gaeaf hwn drwy roi disgownt ar brisiau nwy a thrydan cyfanwerthol.

Ailadroddodd y Canghellor hefyd yr egwyddor bwysig o bobl yn cadw mwy o鈥檙 hyn maent yn ei ennill, gan gymell gwaith a menter. Cyhoeddodd ostyngiad o geiniog yn y gyfradd dreth incwm sylfaenol flwyddyn yn gynharach na鈥檙 disgwyl. O fis Ebrill 2023 ymlaen, bydd cyfradd sylfaenol y dreth incwm yn cael ei thorri i 19%, a bydd hynny鈥檔 golygu y bydd dros 31 miliwn o bobl 拢170 y flwyddyn yn well eu byd ar gyfartaledd. Ochr yn ochr 芒 thorri鈥檙 gyfradd dreth incwm sylfaenol, diddymodd y Canghellor y gyfradd dreth ychwanegol hefyd, gyda hynny鈥檔 dod i rym ym mis Ebrill 2023. Yn ei le, bydd cyfradd dreth incwm uwch sengl o 40%. Mae鈥檙 symudiad wedi ei gynllunio i ddenu鈥檙 gorau a鈥檙 mwyaf disglair i weithlu鈥檙 Deyrnas Unedig, gan helpu busnesau i arloesi a thyfu.

Cyhoeddodd y Canghellor fwy o ryddhad i fusnesau hefyd drwy wneud y Lwfans Buddsoddi Blynyddol o 拢1 miliwn yn barhaol, yn hytrach na gadael iddo ddychwelyd i 拢200,000 ym mis Mawrth 2023. Bydd hyn yn golygu y gall busnesau dynnu 100% o gost offer a pheiriannau cymwys yn y flwyddyn gyntaf.

Cyhoeddwyd mesurau newydd hefyd i helpu pobl ar incwm isel i gael mwy o waith sy鈥檔 talu鈥檔 well. Bydd yn ofynnol i hawlwyr Credyd Cynhwysol sy鈥檔 ennill llai na鈥檙 hyn sy鈥檔 cyfateb i 15 awr yr wythnos yn y Cyflog Byw Cenedlaethol gwrdd yn rheolaidd 芒鈥檜 Hyfforddwyr Gwaith a chymryd camau gweithredol i gynyddu eu henillion neu wynebu lleihad yn eu budd-daliadau. Disgwylir i鈥檙 newid hwn ddod 芒 120,000 o bobl yn ychwanegol i mewn i鈥檙 drefn chwilio am waith mwy dwys.

Bydd ceiswyr gwaith dros 50 oed hefyd yn cael amser ychwanegol gyda hyfforddwyr gwaith mewn canolfannau gwaith, i鈥檞 helpu i ddychwelyd i鈥檙 farchnad swyddi. Mae鈥檙 cynnydd mewn anweithgarwch economaidd yn y rhai dros 50 oed yn cyfrannu at brinder yn y farchnad swyddi, gan gynyddu chwyddiant a chyfyngu ar dwf. Gallai dychwelyd at gyfraddau gweithgarwch cyn y pandemig ymysg pobl dros 50 oed gynyddu lefel y cynnyrch domestig gros rhwng 0.5 ac 1 pwynt canran.

Dros gyfnod Adolygiad Gwario tair blynedd 2021, disgwylir i Lywodraeth Cymru gael tua 拢70 miliwn o gyllid ychwanegol o ganlyniad i鈥檙 newidiadau i Dreth Dir y Dreth Stamp.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Medi 2022 show all updates
  1. Welsh version added.

  2. First published.