Y Canghellor i ddarparu 拢350m ychwanegol i fynd i'r afael 芒鈥檙 Coronafeirws yng Nghymru
Mae鈥檙 Canghellor wedi cadarnhau y bydd yn rhoi 拢350m pellach i helpu鈥檙 weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru i fynd i'r afael 芒鈥檙 coronafeirws

Cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i roi 拢350m ychwanegol i helpu鈥檙 weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 coronafeirws.
Oherwydd bod y gronfa ymateb i argyfwng y coronafeiwrs wedi cael hwb ariannol, bydd y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn cael 拢350 miliwn ar ben y 拢250 miliwn a neilltuwyd iddi o鈥檙 gronfa gwerth 拢5 biliwn. Bydd hyn yn codi cyfanswm yr arian a roddwyd i Gymru gan y Trysorlys i 拢600m, a fydd yn helpu鈥檙 weinyddiaeth ddatganoledig i fynd i鈥檙 afael 芒 blaenoriaethau brys yng Nghymru wrth iddi weithio gyda Llywodraeth y DU i ddelio 芒鈥檙 pandemig.
Dywedodd Canghellor y Trysorlys, Rishi Sunak:
Mae ein gwasanaethau cyhoeddus a鈥檜 staff anhygoel yn mynd ati鈥檔 benderfynol ac yn ddewr i ddefnyddio eu sgiliau arbennig er mwyn ein cadw ni鈥檔 ddiogel. Rydyn ni鈥檔 dibynnu arnyn nhw, a dyna pam rydyn ni鈥檔 darparu鈥檙 cyllid, yr offer a鈥檙 adnoddau ychwanegol sydd eu hangen arnyn nhw i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 feirws.
O鈥檙 cychwyn cyntaf, rydw i wedi bod yn glir y bydd ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael beth bynnag sydd ei angen arnyn nhw i amddiffyn y wlad hon a鈥檌 phobl rhag y Coronafeirws. Rydyn ni鈥檔 cadw at ein haddewid.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae鈥檙 Canghellor wedi addo gwneud beth bynnag mae angen ei wneud i helpu鈥檙 DU i drechu鈥檙 Coronafeirws. Mae鈥檙 拢350 miliwn o gyllid ychwanegol yn cadw at yr addewid hwnnw.
Rydyn ni鈥檔 helpu鈥檙 weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru i oresgyn yr heriau eithriadol mae鈥檔 eu hwynebu ar hyn o bryd, drwy ddarparu 拢600 miliwn o鈥檙 gronfa i helpu i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 coronafeirws. Mae hyn ar ben y cyllid sydd wedi鈥檌 neilltuo i helpu unigolion a busnesau, a byddwn yn darparu鈥檙 adnoddau sydd eu hangen ar ein staff rheng flaen i achub bywydau. Mae hyn yn golygu y bydd Cymru yn cael hwb o bron i 拢2 biliwn gan Lywodraeth y DU i鈥檞 helpu i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 Coronafeirws yng Nghymru.
Mae pobl yng Nghymru hefyd yn cael budd o amryw o fesurau sy鈥檔 helpu pobl ledled y DU. Mae Lluoedd Arfog y DU yn darparu arbenigedd a sgiliau arbenigol ychwanegol i Lywodraeth Cymru a鈥檙 GIG; mae gan fusnesau yng Nghymru fynediad at y Cynllun Cadw Swyddi a gwerth 拢330 biliwn o fenthyciadau a gefnogir gan Lywodraeth y DU; a, ddydd Gwener, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd y strategaeth PPE ar gyfer y DU gyfan. Mae hyn yn golygu y bydd ein gweithwyr dewr ar y rheng flaen yng Nghymru yn cael yr offer diogelwch sydd ei angen arnyn nhw i fynd i鈥檙 afael 芒 phandemig y coronafeirws.
Yn y Gyllideb ar 11 Mawrth, fe wnaeth y Canghellor neilltuo cronfa gwerth 拢5bn fel ymateb brys i鈥檙 pandemig. Erbyn hyn, bydd dros 拢14bn yn mynd tuag at wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG ac awdurdodau lleol.