Datganiad i'r wasg

Y Canghellor yn addo o leiaf 拢445 miliwn o fuddsoddiad rheilffyrdd fel rhan o hwb cyllid mwyaf erioed i Gymru

Uwchraddiad trafnidiaeth mawr i sbarduno twf a datgloi potensial economaidd ar draws Cymru, wrth i Lywodraeth y DU gyflawni鈥檙 Cynllun ar gyfer Newid.

Spending Review: Investing in Wales' future.

  • Mae buddsoddiad yn rhan o becyn gwariant cynhwysfawr i fuddsoddi mewn adnewyddu鈥檙 DU, gan greu miloedd o swyddi mewn ynni gl芒n, gweithgynhyrchu ac amddiffyn.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn y setliad termau real mwyaf ers i ddatganoli ddechrau yn 1999, gyda setliad o 拢22.4 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd, gan alluogi Llywodraeth Cymru i ddarparu ar gyfer pobl sy鈥檔 gweithio yng Nghymru.

Bydd pobl sy鈥檔 gweithio ar draws Cymru yn cael budd o fynediad gwell i swyddi a chyfleoedd diolch i fuddsoddiad rheilffyrdd Cymru gwerth o leiaf 拢445 miliwn a gyhoeddwyd gan y Canghellor Rachel Reeves heddiw fel rhan o Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU fydd yn buddsoddi mewn adnewyddu鈥檙 DU.

Bydd y pecyn rheilffyrdd trawsnewidiol yn ailgysylltu perfeddwlad diwydiannol Cymru, gwella siwrneiau teithwyr ac yn sbarduno twf economaidd mewn cymunedau sydd wedi dioddef cysylltiadau trafnidiaeth gwael ers amser maith. 鈥�

Bydd y pecyn yn buddsoddi yng ngogledd a de Cymru, yn trwsio croesfannau, adeiladu gorsafoedd newydd ac yn uwchraddio llinellau presennol.鈥�

Mae鈥檙 buddsoddiad strategol hwn mewn rheilffyrdd yn ffurfio conglfaen cynllun Llywodraeth y DU i ailgysylltu, ailddiwydiannu ac adnewyddu Cymru 鈥� mynd i鈥檙 afael 芒 degawdau o danfuddsoddiad mewn isadeiledd hanfodol sydd wedi dal economi Cymru yn 么l.鈥�

Bydd uwchraddio鈥檙 rheilffyrdd yn cysylltu canolfannau rhagoriaeth gweithgynhyrchu uwch yng Ngogledd Cymru ac yn gwella cysylltiadau hanfodol rhwng Caerdydd a Bryste, gan ei gwneud yn haws i fusnesau fuddsoddi ac i weithwyr gael mynediad i gyfleoedd cyflogaeth.鈥�

Ochr yn ochr 芒鈥檙 buddsoddiad mawr hwn mewn trafnidiaeth, mae鈥檙 Adolygiad Gwariant yn darparu cefnogaeth sylweddol i sectorau diwydiannol allweddol Cymru. 鈥�

Ym Mhort Talbot, bydd buddsoddiad cyfunol o hyd at 拢580 miliwn yn sicrhau dyfodol cynhyrchu dur tra鈥檔 trawsnewid y porthladd i ganolfan ynni gl芒n. O fewn hyn, bydd 拢500 miliwn ar gyfer Ffwrnais Bwa Trydan newydd Dur Tata yn amddiffyn 5,000 o swyddi tra鈥檔 lleihau allyriadau carbon.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:鈥�

Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn nyfodol Cymru ac yn sbarduno twf economaidd ar draws y wlad.聽 鈥�

Gwnaethom addo y byddem yn delio gyda鈥檙 diffyg buddsoddi hanesyddol yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru ac mae鈥檙 cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn yr Adolygiad Gwariant hwn yn dangos ein bod yn cyflawni鈥檙 addewid hwnnw. 鈥�

Ynghyd 芒 setliad ariannol mwyaf erioed i Lywodraeth Cymru wella gwasanaethau cyhoeddus, 拢118 miliwn yn fwy i helpu i gadw tomenni glo yn ddiogel a buddsoddi mewn diwydiannau sy鈥檔 tyfu fel awyrofod, rydym yn cefnogi potensial Cymru ac yn darparu ar gyfer pobl sy鈥檔 gweithio.

Datblygu diwydiannau amddiffyn ac awyrofod domestig Cymru鈥�

Yn siarad yn Nh欧鈥檙 Cyffredin heddiw, ailgadarnhaodd y Canghellor ymrwymiad y Llywodraeth i gynyddu gwariant amddiffyn i 2.6% o GDP erbyn Ebrill 2027, cefnogi ein Lluoedd Arfog, creu swyddi Prydeinig mewn diwydiannau Prydeinig a blaenoriaethu diogelwch Prydain pan mae ei angen fwyaf. 鈥�

Cefnogwyd diwydiant Cymru gan yr Adolygiad Gwariant hefyd drwy barhau i fuddsoddi yn y diwydiant amddiffyn ar draws y DU, gan gynnwys Cymru.聽 鈥�

Bydd diwydiannau awyrofod a cherbydau Cymru, eisoes yn cyflogi dros 15,000 o bobl, hefyd yn elwa drwy gyllid y DU cyfan a gyhoeddwyd ar gyfer y sector gweithgynhyrchu uwch, gan alluogi datblygu a darparu cerbydau ac awyrennau allyriadau di-garbon ac isel iawn. 鈥�

Diogelwch tomenni glo鈥€�

Mae鈥檙 Adolygiad Gwariant hefyd yn cadarnhau 拢118 miliwn pellach rhwng 2026-27 a 2028-29 i Lywodraeth Cymru gynnal diogelwch tomenni glo nas defnyddir, yn fuan ar 么l 拢25 miliwn a ymrwymwyd yn barod yn 2025-26 yn ystod Cyllideb yr Hydref 2024.聽 Bydd yr arian yn sicrhau diogelwch tomenni, cartrefi yn cael eu diogelu a thir yn cael ei ddatgloi ar gyfer tai, diwydiant a hamdden. 鈥€�

Roedd Llywodraeth y DU hefyd yn addo cefnogaeth barhaus i Barthau Buddsoddi yng Nghymru yn Rhanbarth Dinas Caerdydd a Wrecsam a Sir y Fflint, fydd yn derbyn 拢160 miliwn yr un dros 10 mlynedd, gan sbarduno twf a swyddi. 鈥�

Cefnogi Busnesau yng Nghymru 鈥�

Bydd y Sefydliadau Cyllid Cyhoeddus a Strategaeth Ddiwydiannol newydd yn cydweithio gyda鈥檙 llywodraethau datganoledig a rhanddeiliaid lleol i sbarduno twf ar draws y DU.聽 Trwy鈥檙 rhaglen Buddsoddi Cenhedloedd a Rhanbarthau mae Banc Busnes Prydain yn darparu 拢130 miliwn ar draws Cymru i dorri lawr y rhwystrau i fynediad at gyllid a sbarduno twf economaidd.聽 鈥�

Cyllid twf lleol鈥�

Bydd cronfa dwf leol newydd a buddsoddiadau mewn hyd at 350 o gymunedau difreintiedig ar draws y DU yn cynnal yr un lefel o arian ag yn 2025-26 o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Bydd y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Swyddfa Cymru yn gweithio gyda phartneriaid lleol i sicrhau bod arian yn mynd i brosiectau sydd o bwys i bobl leol.聽 Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sbarduno twf a gwella cymunedau ar draws pob rhan o Gymru. 鈥�

Setliad ariannol mwyaf erioed i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru 鈥�

Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn y setliad mwyaf mewn termau real ers datganoli yn 1999, gyda setliad o 拢22.4 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd i ddarparu ar gyfer blaenoriaethau pobl sy鈥檔 gweithio yng Nghymru.聽 鈥�

Mae鈥檙 pecyn buddsoddiad cynhwysfawr hwn yn cyflawni addewid Llywodraeth y DU ymhellach i fuddsoddi mewn adnewyddu Prydain a sicrhau bod twf economaidd o fudd i bob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig.聽

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Mehefin 2025