Datganiad i'r wasg

Y Canghellor yn Amlinellu Cynllun Economi鈥檙 Gaeaf i Gymru

Y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi cyfres o fesurau i ddiogelu swyddi ymarferol ac amddiffyn busnesau ledled Cymru a'r DU dros fisoedd y gaeaf

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Rishi Sunak making his statemernt
  • Rishi Sunak yn datgelu cynllun Llywodraeth y DU i ddiogelu swyddi a chefnogi busnesau ledled Cymru dros y misoedd nesaf
  • Mae鈥檙 Cynllun Cymorth Swyddi newydd ag ymestyn y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth yn ganolog i鈥檙 cynllun
  • Yn ogystal 芒 hyn, bydd dros filiwn o fusnesau鈥檙 DU yn cael hyblygrwydd i helpu ad-dalu benthyciadau

Amlinellodd y Canghellor Rishi Sunak gymorth ychwanegol gan y Llywodraeth i roi sicrwydd fusnesau a gweithwyr sydd wedi eu heffeithio gan effaith y coronafeirws.

Wrth gyflwyno araith yn y Senedd, cyhoeddodd y Canghellor becyn o fesuriadau a fydd yn parhau i ddiogelu swyddi a helpu busnesau drwy鈥檙 misoedd ansicr sydd o鈥檔 blaen wrth i ni barhau i fynd i鈥檙 afael ar ledaeniad y feirws.

Mae鈥檙 pecyn yn cynnwys Cynllun Cymorth Swyddi newydd i ddiogelu miliynau o weithwyr sy鈥檔 dychwelyd n么l i鈥檙 gwaith, ymestyn y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth a thorri TAW o 15% i鈥檙 sectorau twristiaeth a lletygarwch a help i fusnesau sy鈥檔 talu benthyciadau a gefnogir gan y Llywodraeth.

Daw鈥檙 cyhoeddiad yn dilyn mesurau ychwanegol i reoli lledaeniad y feirws ddod i rym ar draws y DU.

Yn 么l Canghellor y Trysorlys Rishi Sunak:

Rwy鈥檔 deall bod ail don y feirws a鈥檙 cyfyngiadau a osodir o ganlyniad i hyn yn her newydd i fusnesau a gweithwyr sydd eisoes yn ei chael hi鈥檔 anodd.

Dyna pam rwyf wedi cyflwyno mesuriadau ledled y DU i gefnogi swyddi a chwmn茂au Cymru yn uniongyrchol drwy gam nesaf yr argyfwng.

Roeddwn bob amser yn glir na fyddwn yn oedi cyn gweithredu mewn ffordd greadigol ac effeithiol i ddiogelu economi Cymru ac mae鈥檙 mesuriadau yma鈥檔 cynrychioli鈥檙 ymrwymiad hwnnw.

Yn 么l Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cefnogi mwy na 500,000 o swyddi yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws ac mae Cynllun Economi鈥檙 Gaeaf yn gosod allan y camau nesaf i fynd i鈥檙 afael ar effaith economaidd barhaol a digynsail y feirws.

Bydd y Cynllun Cymorth Swyddi newydd, ymestyn y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth yn ogystal 芒鈥檙 mesurau eraill a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn helpu i gadw pobl mewn swyddi, ymestyn cymorth hanfodol i fusnesau a rhoi鈥檙 sicrwydd sydd ei angen iddynt.

Y frwydr yn erbyn Covid-19 yw鈥檙 argyfwng fwyaf y mae Cymru a鈥檙 DU wedi ei wynebu mewn degawdau ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu swyddi a鈥檙 economi wrth gadw pobl yn ddiogel

Ers dechrau鈥檙 pandemig, mae Llywodraeth y DU wedi darparu biliynau o bunnoedd o gefnogaeth i鈥檙 llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru a hefyd yn uniongyrchol i fusnesau a gweithwyr Cymru.

Rydym wedi rhoi 拢4bn yn ychwanegol i鈥檙 llywodraeth ddatganoledig i ymdopi 芒 phwysau鈥檙 pandemig yn ogystal 芒 diogelu dros hanner miliwn o swyddi yng Nghymru drwy鈥檙 cynllun ffyrlo.

Mae鈥檙 Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth wedi helpu 110,000 o bobl hunangyflogedig yng Nghymru ac mae mwy na 41,000 o fusnesau wedi elwa o gynlluniau benthyca Llywodraeth y DU.

Cyhoeddodd y Canghellor ei Gynllun ar Gyfer Swyddi hefyd ym mis Gorffennaf a oedd yn cefnogi swyddi ledled y DU drwy ganolbwyntio ar sgiliau, pobl ifanc a rhoi hwb i鈥檙 sector lletygarwch gyda thoriad mewn TAW a鈥檙 cynllun nodedig 鈥楤wyta Allan i Helpu Allan鈥�.

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn glir yn gyson y bydda鈥檔 parhau i adolygu鈥檙 gefnogaeth i ddiogelu swyddi, busnesau a鈥檙 economi, gyda鈥檙 camau heddiw yn adlewyrchu鈥檙 amgylchiadau sy鈥檔 esblygu ag ansicrwydd y misoedd sydd i ddod.

Mae鈥檙 pecyn o fesurau sy鈥檔 berthnasol i ranbarthau a chenhedloedd y DU yn cynnwys:

Cefnogaeth i weithwyr

Bydd y Cynllun Cymorth Swyddi newydd yn cael ei gyflwyno o 1 Tachwedd i ddiogelu swyddi ymarferol mewn busnesau sy鈥檔 wynebu llai o alw dros y gaeaf yn sgil y coronafeirws.

Dan y cynllun, a fydd yn rhedeg am chwe mis ac yn helpu i gadw gweithwyr yn gysylltiedig 芒鈥檙 gweithlu, bydd Llywodraeth y DU yn cyfrannu at gyflogau鈥檙 gweithwyr sy鈥檔 gweithio llai o oriau nag arfer oherwydd y gostyngiad yn y galw.

Bydd cyflogwyr yn parhau i dalu cyflogau鈥檙 staff am yr oriau maent yn gweithio 鈥� ond am yr oriau nad ydynt yn gweithio, bydd Llywodraeth y DU a鈥檙 cyflogwr yn talu traean o鈥檜 cyflog cyfatebol.

Mae hyn yn golygu fod gweithwyr sydd ond yn gallu mynd n么l i鈥檙 gwaith am gyfnodau byr dal yn cael eu talu dau draean o鈥檙 oriau hynny na allant weithio.

Er mwyn cefnogi鈥檙 swyddi ymarferol yn unig, rhaid i weithwyr fod yn gweithio o leiaf 33% o鈥檜 horiau arferol. Cyfrifir lefel y grant yn seiliedig ar gyflog arferol gweithiwr wedi ei gapio ar 拢697.92 y mis.

Bydd y Cynllun Cymorth Swyddi ar agor i fusnesau ar draws y DU, hyd yn oed os nad ydynt wedi defnyddio鈥檙 cynllun ffyrlo a鈥檙 blaen gyda chanllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Fe鈥檌 cynlluniwyd i eistedd ochr yn ochr 芒鈥檙 Bonws Cadw Swyddi a all fod werth dros 60% ar gyfartaledd o gyflogau gweithwyr sydd ar y cynllun ffyrlo 鈥� ac sy鈥檔 cael eu cadw ymlaen tan ddechrau Chwefror 2021. Gall busnesau elwa o鈥檙 ddau gynllun i helpu diogelu swyddi.

Yn ogystal 芒 hyn, mae Llywodraeth y DU yn parhau gyda鈥檌 chefnogaeth i filiynau o unigolion hunangyflogedig drwy ymestyn Budd-dal y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth. Bydd y grant trethadwy cychwynnol yn cael ei ddarparu i鈥檙 sawl sy鈥檔 gymwys ar hyn o bryd i鈥檙 CCIH ac yn parhau i fasnachu ond yn wynebu llai o alw oherwydd y coronafeirws. Bydd y cyfandaliad cychwynnol yn cwmpasu gwerth tri mis o elw am y cyfnod rhwng Tachwedd tan ddiwedd Ionawr flwyddyn nesa. Mae hyn werth 20% o elw ar gyfartaledd, hyd at gyfanswm o 拢1,875.

Bydd ail grant, a ellir ei addasu i ymateb i鈥檙 amgylchiadau sy鈥檔 newid ar gael i unigolion hunangyflogedig i gwmpasu鈥檙 cyfnod rhwng Chwefror 2021 a diwedd mis Ebrill 鈥� gan sicrhau bod ein cymorth yn parhau hyd at ddiwedd y flwyddyn nesaf.

Mae hyn ar ben y dros 拢13 biliwn o gefnogaeth sydd wedi ei ddarparu鈥檔 barod i dros 2.6 miliwn o unigolion hunangyflogedig drwy ddau gam cyntaf y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth 鈥� un o鈥檙 rhai mwyaf haelaf yn y byd.

Toriadau treth a gohirio

Fel rhan o鈥檙 pecyn, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn ymestyn y toriad TAW dros dro ar gyfer y sectorau twristiaeth a lletygarwch hyd at ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn rhoi鈥檙 hyder i fusnesau yn y sector, sydd wedi eu heffeithio鈥檔 wael gan y pandemig, i gynnal eu staff wrth iddynt addasu i鈥檙 amgylchedd newydd o fasnachu.

Yn ogystal 芒 hyn, bydd hanner miliwn o fusnesau a ohiriodd eu biliau TAW yn cael mwy o hyblygrwydd drwy鈥檙 Cynllun Taliad Newydd. Bydd hyn yn rhoi鈥檙 opsiwn iddynt i鈥檞 dalu n么l mewn rhandaliadau llai yn hytrach na thalu鈥檙 cyfanswm yn llawn ar ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Byddant yn gallu gwneud 11 taliad di-log yn ystod blwyddyn ariannol 2021-2022.

Ar ben hyn, bydd tua 11 miliwn o drethdalwyr hunanasesu yn gallu elwa o estyniad 12 mis ychwanegol ar wah芒n gan CThEM drwy鈥檙 cyfleustr hunanwasanaeth 鈥淎mser i Dalu鈥�, sy鈥檔 golygu na fydd angen talu taliad a ohiriwyd o fis Gorffennaf 2020, a鈥檙 rhai sy鈥檔 ddyledus ym mis Ionawr 2021 tan fis Ionawr 2022.

Bydd busnesau鈥檔 cael hyblygrwydd i ad-dalu benthyciadau

Bydd y baich yn cael ei godi ar fwy na miliwn o fusnesau a gafodd Fenthyciadau Ailgydio drwy鈥檙 cynllun ad-dalu hyblyg Talu wrth Dyfu. Bydd hyn yn rhoi hyblygrwydd i gwmn茂au sy鈥檔 ad-dalu鈥檙 Benthyciad Ailgydio.

Mae hyn yn cynnwys ymestyn cyfnod y benthyciad o chwech i ddeng mlynedd a fydd yn torri鈥檙 ad-daliadau misol o bron i hanner. Bydd cyfnodau llog yn unig o hyd at chwe mis a gwyliau talu hefyd ar gael i fusnesau. Bydd y mesurau yma鈥檔 diogelu swyddi ymhellach drwy helpu busnesau i adfer yn dilyn y pandemig.

Rydym hefyd yn bwriadu rhoi鈥檙 gallu i fenthycwyr y Cynllun Benthyciadau Ymyrraeth Busnes i ymestyn cyfnod eu benthyciadau am gyfnod hyd at chwech i ddeng mlynedd os bydd hynny鈥檔 helpu鈥檙 busnesau i ad-dalu鈥檙 benthyciad.

Yn ogystal 芒 hyn, cyhoeddodd y Canghellor y bydd yn ymestyn y ceisiadau ar gyfer cynlluniau benthyciadau鈥檙 coronafeirws Llywodraeth y DU sy鈥檔 helpu dros filiwn o fusnesau tan ddiwedd mis Tachwedd. O ganlyniad i hyn, gall fwy o fusnesau ymelwa o鈥檙 Cynllun Benthyciadau Ymyrraeth Busnes Coronafeirws, y Cynllun Benthyciadau Ymyriad Coronafeirws i Fusnesau Mawr, y Benthyciadau Ailgydio a Chronfa鈥檙 Dyfodol. Mae鈥檙 newid yma鈥檔 cyd-fynd 芒 holl ddyddiadau terfynol y cynlluniau hyn, gan sicrhau bod cefnogaeth bellach ar waith i鈥檙 cwmn茂au hynny sydd eu hangen.

Ymatebion gan grwpiau busnes

Yn 么l y Fonesig Carolyn Fairbairn, Cyfarwyddwr Cyffredinol y CBI

Bydd y camau beiddgar yma gan y Trysorlys yn helpu i arbed cannoedd o filoedd o swyddi ymarferol y gaeaf hwn. Mae鈥檔 iawn i dargedu cymorth ar swyddi sydd 芒 dyfodol, ond gall hyn ond fod yn rhan-amser tra bod y galw鈥檔 parhau yn wastad. Dyma sut y gellir cadw sgiliau a swyddi i alluogi adferiad cyflym.

Bydd y cymorth cyflog, gohirio trethu a鈥檙 cymorth i鈥檙 hunangyflogedig yn lleihau effaith andwyol o golli swyddi diangen wrth i鈥檙 DU fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 feirws. Bydd cyflogwyr yn cymhwyso鈥檙 un ysbryd o greadigrwydd gan fanteisio ar bob cyfle i ailhyfforddi a gwella sgiliau eu gweithwyr.

Mae鈥檙 Canghellor wedi gwrando ar y dystiolaeth gan fusnesau ac wedi ymateb yn bendant. Bydd yr ysbryd yma o ystwythder a chydweithrediad yn helpu i wneud. 2021 yn flwyddyn o dwf ac adnewyddu.

Yn 么l Mike Cherry OBE, Cadeirydd Cenedlaethol Ffederasiwn y Busnesau Bach:

Mae busnesau bach y DU yn wynebu gaeaf anodd iawn. Y pecyn cymorth a gyhoeddwyd heddiw yw ochor arall y geiniog i gyfyngiadau busnes COVID-19 dydd Mawrth.

Mae鈥檙 ymyrraeth gyflym a sylweddol gan ymestyn benthyciadau brys i fusnesau bach a chanolig, creu cymorth newydd i gyflogau cyflogwyr bach a鈥檙 hunangyflogedig a darparu cymorth ariannol i helpu gohirio TAW ac Amser i Dalu am unrhyw filiau treth i鈥檙 CThEM.

Rydym yn croesawu鈥檙 ffaith bod y Canghellor yn sicrhau bod penderfyniadau i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn cael eu llywio gan yr angen i ddiogelu鈥檙 economi, swyddi pobl 芒鈥檙 cyfleodd i bobl ifanc yn ein hysgolion a鈥檔 gweithleoedd.

Dywedodd Adam Marshall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BCC:

Bydd y mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn rhoi hwb enfawr i fusnesau. Mae鈥檙 Siambrau Masnach wedi galw yn gyson am genhedlaeth newydd o gefnogaeth i helpu diogelu bywoliaeth a lleddfu鈥檙 pwysau ariannol y mae cwmn茂au yn ei wynebu wrth iddynt fynd i mewn i aeaf heriol ac ansicr.

Mae鈥檙 Canghellor wedi ymateb i鈥檔 pryderon gyda chamau sylweddol a fydd yn helpu cwmn茂au i ddiogelu swyddi a gweithredu drwy gydol y misoedd nesaf. Bydd y cynllun cymorth cyflog newydd yn helpu llawer o gwmn茂au i gadw eu gweithwyr gwerthfawr yn dilyn y cyfnod ffyrlo a bydd ymestyn cynlluniau benthyciadau busnes a鈥檙 amynedd dros drethu yn lleihau鈥檙 pwysau uniongyrchol yn ariannol i lawer o gwmn茂au sydd wedi eu heffeithio.

Wrth i ni edrych tu hwnt i鈥檙 her bresennol, bydd angen gwneud mwy i ailadeiladu ac adnewyddu ein heconomi. Bydd Siambrau Masnach ar draws y DU yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau manteision y cynlluniau hyn sy鈥檔 cael eu darparu i gwmn茂au ar lawr gwlad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Medi 2020