Grant 拢1.4 miliwn gan Lywodraeth y DU yn rhoi hwb i blismona rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr
Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru: "Mae diogelwch yr 诺yl b锚l-droed yn hollbwysig"

Principality Stadium
Heddiw, cyhoeddodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod cyfraniad o 拢1.4 miliwn gan Lywodraeth y DU wedi rhoi hwb i鈥檙 gweithrediadau diogelu ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi heddiw (7 Ebrill) ei bod wedi cymeradwyo cais am Grant Arbennig a wnaed gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru i dalu am y costau ychwanegol sy鈥檔 gysylltiedig 芒 phlismona g锚m p锚l-droed fwyaf clybiau Ewrop ar 3 Mehefin.
Bydd Stadiwm Principality Caerdydd yn cynnal y digwyddiad nodedig a disgwylir iddo ddenu cynulleidfa fyd-eang o gannoedd o flilynau a chynhyrchu 拢45m ar gyfer economi Caerdydd.
Bydd Stadiwm Dinas Caerdydd hefyd yn cynnal rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y merched (1 Mehefin) a disgwylir i tua 250,000 o bobl ddod i鈥檙 ddinas i fwynhau pedwar diwrnod o ddigwyddiadau di-ri yn ystod yr wythnos.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Caerdydd wedi profi鈥檔 gyson bod ganddi galibr fel prifddinas i groesawu digwyddiadau proffil uchel ar lwyfan rhyngwladol. Bydd llygaid y byd arnom ni unwaith eto wrth i ni baratoi i gynnal rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr.
Mae diogelwch y cannoedd ar filoedd o bobl fydd yn heidio i鈥檙 ddinas a鈥檙 ardaloedd cyfagos ar yr adeg hon yn hollbwysig. Mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o sicrhau bod Cymru, a鈥檙 DU, yn cael eu dangos ar eu gorau posibl ar y llwyfan byd-eang a bydd plismona鈥檙 digwyddiad yn allweddol i gyflawni hyn.
Rydw i鈥檔 hynod falch ein bod wedi gallu rhoi鈥檙 arian yma i Heddlu De Cymru. Rydw i鈥檔 gwybod bod y ddinas gyfan yn edrych ymlaen at estyn croeso gwresog i鈥檙 cefnogwyr fydd yn ymweld 芒 hi ar gyfer rownd derfynol ddiogel a llwyddiannus Cynghrair y Pencampwyr yn ddiweddarach eleni鈥�.
Dywedodd Brandon Lewis, y Gweinidog dros Blismona a鈥檙 Gwasanaethau T芒n:
Mae鈥檔 bleser gen i gyhoeddi bod 拢1.4 miliwn o arian grant wedi cael ei ddyrannu i gefnogi Heddlu De Cymru yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd. Rydw i鈥檔 si诺r y bydd yn ddigwyddiad anhygoel i ddinas Caerdydd ei gynnal.
Mae Llywodraeth y DU wedi diogelu arian yr heddlu ers Adolygiad o Wariant 2015 ac mae鈥檔 briodol o dan amgylchiadau eithriadol ein bod yn darparu adnoddau ychwanegol er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein cymunedau鈥檔 ddiogel鈥�.