Dathlu diwylliant a llwyddiant Cymru gyda Thywysog Cymru
Bydd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn dod ag arweinwyr byd a phobl leol at ei gilydd i arddangos y gorau o Gymru yn Uwchgynhadledd NATO

Celtic Manor Resort
Bydd y derbyniad, sy鈥檔 cael ei gynnal gan y Tywysog ar gais Llywodraeth Ei Mawrhydi, yn digwydd yng Ngwesty鈥檙 Celtic Manor yng Nghasnewydd ddydd Iau 4 Medi. Bydd hefyd yn gyfle i Lywodraeth Ei Mawrhydi ddiolch i bobl o bob rhan o Gymru a fydd wedi bod yn ymwneud 芒 threfnu鈥檙 cynulliad mwyaf o arweinwyr y byd a welwyd yn y DU erioed.
Bydd y Prif Weinidog, Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yn ymuno 芒鈥檙 Tywysog yn yr achlysur lle bydd y gwesteion yn cael blas ar Gymru ac adloniant gan rai o s锚r y byd cerddorol yng Nghymru.
Mae cynrychiolwyr o鈥檙 Cynghorau lleol, y byd busnes, plant ysgol a chadetiaid wedi cael eu gwahodd i fod yn rhan o鈥檙 achlysur ynghyd ag enillwyr Gwobrau 鈥楶oints of Light鈥� a Gwobrau Dewi Sant o Gymru.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Cymru yn genedl hyderus ac allblyg ac mae鈥檔 destun balchder i ni ein bod yn cynnal yr Uwchgynhadledd NATO hanesyddol hon.
Mae鈥檙 derbyniad hwn dan arweiniad Tywysog Cymru yn gyfle i ni hyrwyddo Cymru i鈥檙 byd ac i ddiolch i鈥檙 gymuned leol am eu croeso anhygoel.
Cynhelir yr Uwchgynhadledd yng Nghasnewydd, yng Ngwesty鈥檙 Celtic Manor ar 4 a 5 Medi 2014. Mae鈥檔 gyfle gwych i hoelio sylw鈥檙 byd ar Gymru sydd eisoes ag enw da iawn yn y sector masnachol 鈥� o weithgynhyrchu i arloesi, ac o wyddorau bywyd i cyber 鈥� a phrifysgolion ardderchog sy鈥檔 cyfrannu at hyn.
Gwahoddwyd chwe deg o wladweinyddion o aelod-wladwriaethau NATO, a chenhedloedd sy鈥檔 bartneriaid i NATO, i ddiwrnod agoriadol yr Uwchgynhadledd ac i鈥檙 derbyniad gyda鈥檙 nos.
Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales