Caerdydd i gael hwb swyddi Llywodraeth y DU i sbarduno twf
Mae Caerdydd wedi cael ei enwi鈥檔 un o 13 o leoliadau y bydd mwy o swyddi鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn cael eu symud iddynt er mwyn rhoi hwb i鈥檙 economi leol.

T欧 William Morgan House, Cardiff
O dan yr ad-drefnu yma, bydd swyddi鈥檙 llywodraeth yn cael eu symud y tu allan i Lundain 鈥� i drefi a dinasoedd ym mhedair gwlad y DU, gan gyflwyno a datblygu polisi yn nes at y cymunedau y mae鈥檔 effeithio arnynt.
Rhagwelir y bydd hyn yn dod 芒 gwerth 拢729 miliwn o fudd economaidd i鈥檙 13 o ardaloedd twf erbyn 2030.
Dywedodd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Pat McFadden:
I gyflawni ein Cynllun ar gyfer Newid, rydym yn symud mwy o benderfyniadau allan o Whitehall ac yn nes at gymunedau ar hyd a lled y DU.
Drwy adleoli miloedd o swyddi鈥檙 Gwasanaeth Sifil, byddwn yn arbed arian i drethdalwyr ac yn gwneud y Llywodraeth hon yn un sy鈥檔 adlewyrchu鈥檙 wlad y mae鈥檔 ei gwasanaethu鈥檔 well. Byddwn hefyd yn sicrhau bod swyddi鈥檙 Llywodraeth yn cefnogi twf economaidd ym mhob cwr o鈥檙 wlad.
Wrth i ni ddiwygio鈥檙 wladwriaeth yn sylweddol, rydym yn mynd i鈥檞 gwneud hi鈥檔 llawer haws i bobl dalentog ym mhob man ymuno 芒鈥檙 Gwasanaeth Sifil a鈥檔 helpu ni i ailadeiladu Prydain.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae鈥檔 newyddion gwych bod Cymru鈥檔 mynd i fod yn un o brif fuddiolwyr cynlluniau Llywodraeth y DU i ddatblygu polisi yn nes at y cymunedau y mae鈥檔 effeithio arnynt.
Mae鈥檙 penderfyniad hwn yn adeiladu ar y presenoldeb cryf sydd gan Lywodraeth y DU yng Nghymru eisoes, gan sbarduno twf, rhoi hwb i swyddi, a rhoi cyfle i dalent Cymru ffynnu.
Ar hyn o bryd, mae 9,230 o swyddi鈥檙 gwasanaeth sifil wedi鈥檜 lleoli yng Nghaerdydd. Mae dros 31,500 o swyddi cyfwerth ag amser llawn wedi鈥檜 lleoli yng Nghymru, ac mae gan 14 o brif adrannau鈥檙 Llywodraeth bresenoldeb yn y wlad.聽
Bydd miloedd yn rhagor o swyddi鈥檙 llywodraeth yn cael eu symud i鈥檙 13 o drefi a dinasoedd ar hyd a lled y DU sydd wedi cael eu henwi heddiw.
Bydd adrannau鈥檙 llywodraeth nawr yn cyflwyno cynlluniau ar gyfer faint o swyddi y maent yn bwriadu eu symud i bob un o鈥檙 lleoliadau fel rhan o鈥檙 adolygiad o wariant.
Bydd newidiadau鈥檔 cael eu cyflwyno er mwyn i bobl ifanc dalentog o bob cwr o鈥檙 DU allu symud yn syth o鈥檙 ysgol neu鈥檙 brifysgol i鈥檙 Gwasanaeth Sifil, a dringo鈥檙 holl ffordd i鈥檙 swyddi uchaf, heb fod wedi gweithio yn Whitehall erioed.
Er mwyn sicrhau bod y rhai sydd wedi鈥檜 lleoli y tu allan i Lundain yn cael cyfleoedd datblygu a thwf proffesiynol cyfartal, gyda gyrfaoedd llawn o鈥檙 dechrau i鈥檙 diwedd, bydd y Llywodraeth yn lleoli 50% o Uwch Weision Sifil yn y DU mewn swyddfeydd rhanbarthol erbyn 2030.聽
Cefnogir hyn gan ymagwedd newydd at y rhaglen Llwybr Carlam 鈥� sef cynllun y Gwasanaeth Sifil i raddedigion 鈥� gydag o leiaf 50% o leoliadau鈥檔 cael eu cynnig y tu allan i Lundain.聽
Mae鈥檙 Prif Weinidog yn awyddus i wella effaith y Llywodraeth ymhellach mewn mannau ar draws y wlad, er mwyn sicrhau bod gan y Gwasanaeth Sifil bresenoldeb gweithredol mewn cymunedau, a鈥檌 fod yn cyfrannu at greu swyddi a thwf lleol.
Bydd y cynlluniau鈥檔 arwain at fwy o swyddi鈥檔 gweithio鈥檔 agosach gyda gwasanaethau rheng flaen, gan hwyluso gwell dealltwriaeth o鈥檙 materion go iawn sy鈥檔 wynebu gwasanaethau a phobl leol, a sut gall polisi llywodraeth ganolog eu cefnogi.