Caerdydd yn datblygu fel canolfan ariannol y DU, meddai鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol
Daeth dros 50 o brif arweinwyr busnes Cymru at ei gilydd heno yn Gwydyr House i nodi effaith gynyddol y diwydiant gwasanaethau ariannol.

Daeth dros 50 o brif arweinwyr busnes Cymru at ei gilydd heno (1 Rhagfyr 2015) ar gyfer derbyniad yn Gwydyr House i nodi effaith gynyddol Cymru ar y diwydiant gwasanaethau ariannol.
Dywedodd ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, wrth y gwesteion fod gan Gymru, flwyddyn ar 么l uwchgynhadledd buddsoddi鈥檙 DU yng Nghasnewydd, y ffigurau mewnfuddsoddiad gorau ers chwarter canrif.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru:
Rydyn ni wedi ymrwymo i adfer cydbwysedd twf drwy sicrhau bod manteision economi sy鈥檔 datblygu yn amlwg ledled y DU.
Rydw i eisiau gweld y sector ariannol yng Nghymru yn parhau i gynyddu.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru fod y sectorau ariannol a gwasanaethau proffesiynol yn ne Cymru yn cefnogi 96,000 o swyddi erbyn hyn.
Dywedodd yn y cyfarfod fod y Llywodraeth yn gwella cysylltiadau rheilffyrdd i sicrhau bod 鈥測 sector gwasanaethau ariannol ar y ddau ben i鈥檙 M4鈥� wedi鈥檌 gysylltu yn y modd mwyaf effeithlon posib.
Rydyn ni鈥檔 lleihau amser teithiau drwy drydanu prif lwybr y Great Western, a bydd cyflwyno Crossrail yn dod ag ardaloedd ariannol Caerdydd a Canary Wharf yn nes at ei gilydd.
Bydd y gwelliannau hyn, sydd wedi gwneud Caerdydd yn lle mwy cyfleus a haws i鈥檞 gyrraedd, yn sicrhau bod y brifddinas ar frig y rhestr wrth i gwmn茂au gwasanaethau ariannol ystyried lleoliadau i fuddsoddi ynddyn nhw.
Bydd yr orsaf Crossrail tri llawr sy鈥檔 cael ei hadeiladu yn Paddington yn lleihau鈥檙 amser mae鈥檔 gymryd i deithio ar draws Llundain o tua 20 munud o 2018 ymlaen, a rhagwelir y bydd yn cael ei defnyddio gan tua 25 miliwn o deithwyr y flwyddyn.
Cynhaliwyd y derbyniad yn Gwydyr House yn dilyn digwyddiad ym mhencadlys y Gr诺p Admiral fis diwethaf i lansio menter Canolfan Rhagoriaeth Ariannol De Cymru 鈥� sy鈥檔 cael ei gefnogi gan Swyddfa Cymru a鈥檙 Trysorlys.
Bydd Masnach a Buddsoddi鈥檙 DU (UKTI), un o gyrff y llywodraeth sy鈥檔 helpu cwmn茂au wedi鈥檜 lleoli yn y DU i lwyddo yn yr economi fyd-eang, yn cydweithio鈥檔 agos 芒 diwydiant a llywodraeth leol i roi hwb i鈥檙 sector ariannol yng Nghymru.
Hefyd, dywedodd Mr Crabb fod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Rhanbarth Prifddinas Caerdydd ar Fargen 鈥済wirioneddol drawsffurfiol鈥� i鈥檙 Ddinas.
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru: 鈥淩wy鈥檔 gwybod y bydd busnesau Caerdydd a De Cymru yn manteisio ar y cyfleoedd hyn鈥�.