Stori newyddion

Bargen Dinas Caerdydd - darn barn gan Greg Clark a Stephen Crabb

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Gaerdydd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Os yw llwyddiant yn esgor ar lwyddiant, mae prifddinas ieuengaf Ewrop yn dechrau ar sylfaen gref.

Yn ddiweddar, enwyd Caerdydd fel dinas breswyl orau鈥檙 Deyrnas Unedig - gyda diweithdra isel, safonau byw ar gynnydd a chostau byw cymharol isel.

Ac mae鈥檙 byd ehangach yn sylwi ar hyn, hefyd. Pan feddyliwch chi am y Chwe Gwlad, Cwpan yr FA, Gemau Prawf Criced, Cyfres y Lludw, Tlws Pencampwyr yr ICC, Cwpan Rygbi鈥檙 Byd ac yn awr Cynghrair y Pencampwyr 2017, mae Caerdydd yn cael ei chydnabod fwyfwy fel lleoliad o鈥檙 radd flaenaf ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr. Pan ychwanegwch chi Gwpan Ryder ac uwchgynadleddau NATO at y cyfan, mae鈥檔 amlwg bod rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn creu argraff fawr iawn.

Ond mae gan Gaerdydd lawer iawn mwy i鈥檞 gynnig na dim ond digwyddiadau mawr. Mae鈥檔 gartref i sector diwydiannau creadigol sydd ar gynnydd, sydd wedi gweld sioeau teledu llwyddiannus fel y Gwyll / Hinterland yn cael eu gwerthu o amgylch y byd. Caerdydd yw cefndir sioeau llwyddiannus amrywiol fel Doctor Who a Pobol y Cwm. Yng Ngwynll诺g, mae Stiwdios Pinewood yn golygu bod Caerdydd i鈥檞 gweld ym mhob cwr o鈥檙 byd

Mae Caerdydd a Rhanbarth y Brifddinas yn cael eu cydnabod yn gynyddol fel canolfan flaenllaw ar gyfer buddsoddi mewn uwch-dechnoleg busnesau newydd a buddsoddwyr mawr. Fel prifddinas, y mae hefyd yn ganolfan o bwys ar gyfer gwasanaethau ariannol.

Dyma rai o鈥檙 cryfderau sydd eisoes yn gwneud Rhanbarth y Brifddinas, Caerdydd, yn unigryw.

Mae Bargen Dinas yn rhoi鈥檙 cyfle i symud Caerdydd i uwch gynghrair dinasoedd Ewrop.

Pan lansiwyd Bargeinion Dinasoedd gyntaf yn 2011, roedd arweinwyr lleol yn wyliadwrus. Mae hanes hir o lywodraethau鈥檔 dweud wrth gymunedau beth i鈥檞 wneud y tu 么l i fwgwd 鈥榣leoleiddio鈥�.

Roedd y Bargeinion, fodd bynnag, yn nodi dull newydd - y Llywodraeth yn gofyn i arweinwyr lleol osod yr agenda. Mae Bargeinion Dinasoedd yn gweithio pan ddaw arweinwyr cynghorau lleol, y sector preifat a phartneriaid pwysig eraill at ei gilydd i gyflwyno gweledigaeth o sut i redeg y rhanbarth i鈥檙 Llywodraeth ganolog. Yn aml, y cyfuniad o gyllid lleol a chyllid y Llywodraeth ganolog yw鈥檙 allwedd i ddatgloi buddsoddiad newydd mewn prosiectau cyfalaf a seilwaith mawr.

O fewn chwe mis i鈥檙 cyhoeddiad am y cysyniad o Fargeinion Dinasoedd, roedd wyth o Fargeinion wedi eu cadarnhau. Dair blynedd yn ddiweddarach, cytunwyd ar 28 o Fargeinion Dinasoedd, gyda鈥檙 dinasoedd yn amrywio o Plymouth i Glasgow.

Dywedodd arweinydd Cyngor Glasgow, a gytunodd ar Fargen Dinas gyda鈥檙 Llywodraeth y llynedd:

Ni ddylai datganoli ystyrlon fod yn fater o drosglwyddo pwerau rhwng un senedd a鈥檙 llall yn unig.

Mae Bargen Dinas Glasgow a Dyffryn Clyde wedi newid pethau o ddifrif, gan greu 29,000 o swyddi parhaol, 15,000 o swyddi adeiladu a datgloi 拢3.3 biliwn o fuddsoddiad yn y sector preifat.

Byddwn wrth fy modd yn gweld rhagor o fargeinion dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig, yn enwedig yng Nghymru a鈥檙 Alban, sydd rywfaint ar ei h么l hi yn hyn o beth.

Pwrpas datganoli i lefel dinas-ranbarthoedd yw meithrin economi mewn ffordd well, mynd i鈥檙 afael ag anghydraddoldeb a gwella diwygiadau i wasanaethau cyhoeddus mewn lleoedd penodol.

Mae鈥檙 momentwm ynghylch datganoli i ardaloedd lleol yn cynyddu ar draws y wlad. Mae cydnabyddiaeth gynyddol bod pob man yn wahanol ac na fydd yr hyn sy鈥檔 gweithio mewn un lle yn gweithio cystal yn rhywle arall o reidrwydd. Mae hyn yn ymddangos yn amlwg i unrhyw un sydd wedi ymweld 芒 dinasoedd mawr y wlad. Rhaid i Gaerdydd beidio 芒 cholli鈥檙 chwyldro hwn.

Mae Bargeinion Dinasoedd llwyddiannus yn seiliedig ar syniadau mawr i ddatgloi twf ar draws dinasoedd a鈥檜 hardaloedd economaidd ehangach. Maen nhw鈥檔 gweithio orau pan fydd pawb yn yr ardal leol, gan gynnwys arweinwyr dinesig, busnes ac addysg uwch, yn dod at ei gilydd i ddweud wrth y Llywodraeth beth sydd angen ei newid a beth ellir ei wneud yn well.

Nid oes cyllideb sefydlog nac uwchgynllun Whitehall ar gyfer Caerdydd. Yn hytrach, mae hon yn drafodaeth ddilys gyda chytundeb yn dibynnu ar gryfder y syniadau sy鈥檔 dod o鈥檙 ddinas ei hun.

Yn gynharach yn y mis hwn, cyhoeddwyd yn y Gyllideb bod y llywodraeth yn gweithio tuag at ddatganoli gyda Rhanbarth Dinas Sheffield, Rhanbarth Dinas Lerpwl, a Leeds, Gorllewin Swydd Efrog ac awdurdodau sy鈥檔 bartneriaid.

Rhaid i Gaerdydd weithredu nawr i wneud yn si诺r nad yw鈥檔 cael ei goddiweddyd gan y dinasoedd uchelgeisiol eraill hyn. Heddiw, rwyf wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i鈥檞 annog i fanteisio鈥檔 llawn ar y cyfle hwn.

Nawr yw鈥檙 adeg i weithredu. Gwnewch gynnig rhy dda i鈥檞 wrthod i鈥檙 llywodraeth, ac achubwch ar y cyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth hwn i gytuno ar Fargen Dinas ar gyfer Rhanbarth y Brifddinas, Caerdydd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Awst 2015