Annog busnesau Cymru i hawlio grantiau gwerth 拢3,000 i gael band eang gwell
Busnesau Caerdydd a Chasnewydd tan Mawrth 2015 i geisio am grant i fyny at 拢3,000 gan Lywodraeth y DU i sicrhau mynediad cyflymach i鈥檙 rhyngrwyd.

Mae鈥檙 cynllun yn galluogi i fusnesau wneud cais am grantiau gwerth hyd at 拢3,000 yr un i dalu costau gosod band eang cyflymach a gwell yn ei le.
Hyd yma, mae mwy na 170 o fusnesau yng Nghaerdydd ac yng Nghasnewydd wedi cael grantiau, gyda llawer mwy鈥檔 rhan o鈥檙 broses ymgeisio ar hyn o bryd.
Mae鈥檙 grant, sydd ar ffurf taleb, yn rhan o鈥檙 gwaith o drawsnewid band eang y mae鈥檙 Llywodraeth yn ei wneud ar hyd a lled y wlad.
Y nod yw helpu dinasoedd i greu a denu swyddi a buddsoddiad newydd a gwneud y DU y lle gorau yn y byd i wneud busnes.
Dywedodd Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Mae鈥檙 Llywodraeth yma鈥檔 gwybod mai busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru. Nhw ydi鈥檙 peirianwaith creu swyddi ar hyn o bryd, yn sbarduno twf ar hyd a lled Cymru.
Mae mynediad at fand eang cyflymach a gwell yn hanfodol fel bod ein busnesau鈥檔 gallu ehangu a chystadlu yn y ras fyd-eang. Dyna pam ein bod ni鈥檔 rhoi鈥檙 grant yma i fusnesau, i dalu costau sefydlu ac i鈥檞 galluogi nhw i fanteisio ar y cyfleoedd busnes y mae band eang cyflym iawn yn eu cynnig.
Ymhlith y manteision i fusnesau o ganlyniad i fand eang cyflymach a gwell mae:
- Ehangu a mynediad i farchnadoedd newydd drwy well cyfathrebu 芒 chwsmeriaid a chyflenwyr
- Gwella diogelwch drwy gefnogi data鈥檔 gyflym ac yn ddiogel
- Gwell cynhyrchiant a gwella gwasanaethau i gwsmeriaid drwy gyflymder lanlwytho a lawrlwytho llawer mwy
- Costau meddalwedd a chaledwedd is drwy elwa o opsiwn storio data a cheisiadau ar-lein
- Gwella eich dull chi o gyfathrebu a chydweithio drwy roi sylw i gydweithwyr, cleientiaid a phartneriaid ar alwadau fideo amser real, a thrwy rannu gwybodaeth ar feddalwedd cwmwl
Caiff busnesau ragor o wybodaeth am y cynnig hwn, a gwneud cais, drwy鈥檙
Mae鈥檙 rhaglen dinasoedd Cysylltiad Cyflym yn cael ei gweithredu ochr yn ochr 芒 gwaith Llywodraeth y DU yn ehangu band eang cyflym iawn i ardaloedd gwledig, sydd eisoes wedi sicrhau mynediad cyflym iawn i fwy nag 1 miliwn o gartrefi a busnesau. Erbyn 2017, bydd 95% o鈥檙 DU yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn.