Datganiad i'r wasg

Gweinidogion cabinet yn gweld ffyniant bro ar waith yn ffatri Airbus

Y Prif Weinidog, y Canghellor ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld ag Airbus ym Mrychdyn i gwrdd 芒 phrentisiaid ac i weld y gwaith sy鈥檔 cael ei wneud i hybu swyddi.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
The Prime Minister, Chancellor and Secretary of State for Wales visit Airbus in Broughton

The Prime Minister, Chancellor and Secretary of State for Wales visit Airbus in Broughton

Mae鈥檙 Prif Weinidog, y Canghellor ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymweld 芒 ffatri Airbus yng Ngogledd Cymru, lle gwelwyd effeithiau positif y buddsoddiad mewn swyddi yn yr ardal a鈥檙 ymrwymiad i helpu teuluoedd gyda chostau byw.

Cyfarfu鈥檙 gweinidogion 芒 nifer o brentisiaid ar ddydd Gwener 12 Awst, a thrafodwyd sut mae gwella sgiliau a rhagolygon swyddi yn hanfodol i ysgogi twf economaidd a ffyniant bro ar draws y DU.

Wrth ymateb i鈥檙 ffigurau GDP diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw, sy鈥檔 dangos bod yr economi wedi crebachu 0.1% yn y tri mis hyd at fis Mehefin, fe wnaeth y Canghellor ailddatgan mai ei 鈥渂rif flaenoriaeth鈥� oedd gweithio gyda Banc Lloegr i gael chwyddiant o dan reolaeth a thyfu鈥檙 economi.

Daw鈥檙 ymweliad wrth i ystadegau ddangos bod dros 7 miliwn o gyfrifon banc ar draws y DU wedi derbyn y taliad costau byw cyntaf o 拢326, gyda 拢324 pellach i ddod yn yr hydref. Gwelodd gweithwyr ledled Cymru doriad hefyd yn eu cyfraniadau Yswiriant Gwladol fis diwethaf, sef arbedion o 拢396 miliwn mewn cartrefi eleni.

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson:

Cwmn茂au fel Airbus sy鈥檔 gyrru twf economaidd, ffyniant bro ac yn cefnogi miloedd o swyddi hynod fedrus i bobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.

Roedd hi鈥檔 wych cael ymweld 芒 safle Brychdyn yng Ngogledd Cymru 鈥� y safle cynhyrchu adenydd mwyaf yn y byd 鈥� i weld eu gwaith ac i glywed gan brentisiaid ar ddechrau eu gyrfaoedd gydag Airbus.

Byddwn yn parhau i helpu pobl ar draws y wlad i ddod o hyd i swyddi da a鈥檜 cefnogi drwy鈥檙 heriau costau byw.

Dywedodd Canghellor y Trysorlys Nadhim Zahawi:

Mae鈥檔 wych bod yma yng Nghymru i gwrdd 芒 phrentisiaid mor frwdfrydig a thalentog.

Rwy鈥檔 gwybod ei bod hi鈥檔 gyfnod heriol a bod pobl yng Nghymru yn poeni am brisiau鈥檔 codi. Dyna pam y mae鈥檙 llywodraeth yn cynnig swm digynsail o gymorth gwerth 拢37 biliwn i helpu aelwydydd, gan gynnwys disgownt o 拢400 ar filiau ynni i bob cartref yng Nghymru y gaeaf hwn.

Ond mae鈥檔 bwysig cofio bod yna bocedi o optimistiaeth 鈥� mae鈥檙 gyfradd ddiweithdra yng Nghymru ar lefel hanesyddol o isel, ac mae busnesau fel Airbus yn cyhoeddi buddsoddiadau anferthol newydd, a fydd yn hwb i ragolygon pobl yn y rhanbarth.

Fe wnaeth y DU adfer yn gyflym o鈥檙 pandemig, gyda鈥檙 twf cyflymaf yn y G7 y llynedd, ac rwy鈥檔 hyderus y gallwn hefyd oresgyn y sialensiau byd-eang sy鈥檔 ein hwynebu ar hyn o bryd.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Syr Robert Buckland:

Mewn adegau hynod o heriol, mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar dyfu鈥檙 economi a chynyddu cyfleoedd i bobl ar draws Cymru.

Ochr yn ochr 芒鈥檙 cymorth rydym yn ei roi i gartrefi yng Nghymru, mae鈥檔 wych gweld cwmni fel Airbus yn buddsoddi yn ei weithlu gyda鈥檌 gynlluniau i greu 550 o swyddi, gan adeiladu ar ei raglen brentisiaethau a rhoi hwb i鈥檞 gyfleusterau cynhyrchu ym Mrychdyn.

Dywedodd Uwch Is Lywydd Airbus a Phennaeth Safle Brychdyn, Jerome Blandin:

Roedd hi鈥檔 wych bod y Prif Weinidog, y Canghellor ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymweld 芒鈥檔 safle ym Mrychdyn heddiw ac i gwrdd 芒 rhai o鈥檔 staff arbennig.

Mae Airbus wedi buddsoddi鈥檔 helaeth yn ei weithlu a鈥檌 gyfleusterau yng Ngogledd Cymru, y De Orllewin ac o amgylch y DU, gan gyfrannu鈥檔 sylweddol at agenda ffyniant bro y llywodraeth. Rydyn ni wedi hyfforddi dros 1,100 o brentisiaid yn ystod y deng mlynedd diwethaf ac wedi gwario tua 拢250 miliwn bob blwyddyn ar Ymchwil a Datblygu yma yn y DU.

Ym mis Mai, cyhoeddodd Airbus gynnydd yng nghyfradd gynhyrchu ein hawyrennau masnachol un eil - i nifer digynsail o 75 o awyrennau A320 bob mis erbyn Tachwedd 2025. Ar gyfer y DU, mae hynny鈥檔 golygu y bydd cynnydd o 550 yn ein gweithlu yng Ngogledd Cymru a byddwn yn buddsoddi 拢100 miliwn pellach mewn cyfleusterau cynhyrchu ychwanegol erbyn 2025 i fodloni鈥檙 galw cynyddol yn fyd-eang.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Awst 2022