Cyhoeddi鈥檙 prif arweinwyr busnes ar gyfer Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 DU
Arweinwyr busnes blaenllaw yn cefnogi Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 DU 2014 yng Nghymru yr hydref hwn, a fydd yn ymchwilio i dechnolegau newydd.
Cyhoeddwyd heddiw (28 Hydref) y byddai Mark Elborne, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol GE yn y DU ac Iwerddon, Eben Upton, sylfaenydd Raspberry Pi a Tom Williams, Is-Lywydd Gweithredol Rhaglenni yn Airbus ymhlith y siaradwyr yn yr Uwchgynhadledd.
Bydd yr arbenigwyr o鈥檙 diwydiant yn ymuno 芒鈥檙 Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru a鈥檙 Arglwydd Livingston o Parkhead, y Gweinidog Gwladol dros Fasnach a Buddsoddi, yn y Celtic Manor, Casnewydd, ar 21 Tachwedd. Y gynhadledd yw鈥檙 digwyddiad mawr cyntaf yng Nghymru ar 么l Uwchgynhadledd NATO, a gynhaliwyd yn yr un lle ym mis Medi.
Dywedodd y Gweinidog Masnach, yr Arglwydd Livingston:
Bydd Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 DU 2014 yng Nghymru yn dangos sut mae cwmn茂au yn y DU yn defnyddio technolegau newydd i dyfu a denu buddsoddiad ledled y DU. Mae Cymru鈥檔 lleoliad gwych ar gyfer yr uwchgynhadledd, yn dilyn lefelau uwch nag erioed o fewnfuddsoddi yn y flwyddyn ddiwethaf a chynnydd o dros 5 y cant mewn allforion.
Mae鈥檔 galonogol gweld busnesau blaenllaw o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn cefnogi鈥檙 digwyddiad hwn, sy鈥檔 adeiladu ar waddol Uwchgynhadledd NATO ym mis Medi. Gadewch i ni ddangos i鈥檙 byd pa mor WYCH yw Cymru a gweddill y DU ar gyfer busnes.
Y llynedd, denodd Cymru fuddsoddiad mewn 79 o brosiectau, cynnydd o 12 ar y flwyddyn flaenorol, a llwyddodd i ddiogelu neu greu 10,441 o swyddi. Buddsoddiadau unigol yng Nghymru, ar gyfartaledd, gafodd yr effaith fwyaf ond un o ran creu neu ddiogelu swyddi, sef 132 fesul prosiect. Roedd hyn y tu 么l i brosiectau a oedd yn effeithio ar amryfal ranbarthau yn y DU yn unig.
Mae ffigurau鈥檔 dangos mai Gofal Iechyd a Meddygol yw鈥檙 sectorau sy鈥檔 perfformio orau, gyda naw prosiect, yna deunyddiau, gydag wyth a cherbydau a pheirianneg, y ddau gyda chwech. Y pum prif bartneriaid buddsoddi ar gyfer Cymru oedd UDA, yr Almaen, Japan, Canada a鈥檙 Eidal.
Bydd r么l technoleg a sut mae鈥檔 gweithio o fewn y sectorau hyn, ac eraill, yn cael ei hystyried a鈥檌 thrafod yn yr Uwchgynhadledd. Bydd pynciau鈥檔 cynnwys rhagweld technoleg a masnacheiddio, y potensial i fusnesau ym maes seiberddiogelwch a datblygu modelau newydd o ryngweithio鈥檔 academaidd ac o ran busnes.
Bydd yr Uwchgynhadledd yn adeiladu ar gynnydd diweddar yng Nghymru a鈥檙 DU yn ehangach, lle cofnodwyd y ffigurau uchaf erioed, sef 1,773 o brosiectau, a chr毛wyd 66,390 o swyddi y llynedd. Bydd yn fforwm i rannu arbenigedd a chyfnewid syniadau am dueddiadau buddsoddi, cyfleoedd a sut mae adeiladu ar y manteision a ddaw i ran cwmn茂au sy鈥檔 defnyddio technolegau newydd.
Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru:
Mae lefelau mewnfuddsoddi yng Nghymru鈥檔 uwch nag erioed nawr. Bydd y digwyddiad yng Nghasnewydd y mis nesaf yn gyfle gwych i adeiladu ar ein llwyddiant a hybu Cymru fel y lle ar gyfer buddsoddiadau tramor o ansawdd.
Bydd yr uwchgynhadledd yn dod 芒 dros 250 o fuddsoddwyr byd-eang, arweinwyr busnesau a gweinidogion at ei gilydd, a bydd yn adeiladu ar y sylw a gafodd Cymru yn ystod uwchgynhadledd NATO, a bydd yn ffenestr siop fyd-eang ar gyfer sgiliau ac arloesedd yng Nghymru.
Bydd busnesau o bob cwr o鈥檙 byd yn ffurfio partneriaethau masnachol rhyngwladol newydd ac yn datblygu ac yn ehangu rhwydweithiau byd-eang yn yr Uwchgynhadledd. Bydd yn cysylltu buddsoddwyr ag uwch lunwyr penderfyniadau o gwmn茂au, gan newid y ffordd rydym yn cynnal busnes.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Cymru鈥檔 gartref i rai o鈥檙 cynnyrch a鈥檙 gwasanaethau mwyaf arloesol yn y byd. Rydym yn magu enw da am ein gweithlu medrus a鈥檔 entrepreneuriaid dyfeisgar, talentog sy鈥檔 dda gyda thechnoleg.
Fel rhan o鈥檔 cynllun economaidd hirdymor i roi hwb i economi Cymru, bydd yr Uwchgynhadledd hon yn dangos i arweinwyr busnes byd-eang pam y mae Cymru鈥檔 wlad mor wych i fuddsoddi ynddi.
Bydd areithiau, sesiynau panel, astudiaethau achos a sesiynau rhwydweithio ar gael yn y gynhadledd a bydd yn helpu i ysgogi gwaddol economaidd parhaol i Gymru a thu hwnt.