Ysgrifennydd Cymru: Yr ymgyrch 'Business is GREAT' ar fin rhoi hwb i fusnesau bach mentrus yng Nghymru
Llywodraeth y DU yn lansio ymyrch i gefnogi busnesau bach ledled y wlad
Business is GREAT
Mae lansio鈥檙 ymgyrch 鈥楤usiness is Great鈥� yn dangos yn glir ymrwymiad Llywodraeth y DU i rymuso busnesau bach, yn 么l Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.
Heddiw (6 Tachwedd) mae鈥檙 Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, wedi cychwyn ton o weithgarwch wedi鈥檌 anelu at ddatblygu a gwella鈥檙 ffordd y mae鈥檙 Llywodraeth yn cefnogi busnesau bach ledled y wlad.
O heddiw ymlaen, bydd busnesau yng Nghymru yn gallu manteisio ar y canlynol:
- Cynllun mentora newydd gwerth 拢1 miliwn sy鈥檔 sector benodol a fydd yn galluogi cwmn茂au i fanteisio ar gymorth a chyngor oddi wrth bobl fusnes brofiadol yn eu maes gwaith eu hunain
- Cronfa cychwyn busnes gwerth 拢10 miliwn sydd wedi cael ei lansio gan BBSRC (Y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol) i helpu gwyddonwyr entrepreneuraidd yn y maes hwn i sefydlu鈥檜 busnes
- Rhaglen Fuddsoddi鈥檙 Banc Busnes a fydd yn rhoi hwb i fusnesau bach, gan roi cyfle iddynt gael at gyfalaf mawr ei angen ar gyfer buddsoddi a datblygu
Mae gwefan newydd yr ymgyrch wedi cael ei lansio hefyd. Yma mae鈥檙 holl gefnogaeth o bob rhan o鈥檙 Llywodraeth wedi cael ei dwyn at ei gilydd, gan ei gwneud yn hawdd i fusnesau gael mynediad i鈥檙 gwasanaethau a鈥檙 cynnyrch y mae eu hangen arnynt i ddatblygu.
Ar hyn o bryd mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn cynrychioli Llywodraeth y DU ar ymweliad pedwar diwrnod 芒 Singapore ac Indonesia, lle bydd yn chwilio am ragor o gyfleoedd i gwmn茂au鈥檙 DU ehangu ac allforio i鈥檙 rhanbarth.
Dywedodd:
Mae gan sector busnesau bach uchelgeisiol a ffyniannus r么l allweddol yn llywio鈥檙 adferiad economaidd i鈥檙 cyfeiriad iawn.
Yng Nghymru, rydym wedi gweld cwmn茂au yn dangos yn gyson nad dim ond goroesi y maent ond, yn hytrach, yn ffynnu. Yn wir, mae hyder ymysg busnesau ledled y DU ar ei uchaf erioed, ac ar ei uchaf yng Nghymru ers 2009.
Mae Village Bakery yn Wrecsam wedi cadarnhau ei statws fel y busnes bach sy鈥檔 tyfu gyflymaf yng Nghymru drwy gyhoeddi y bydd yn dyblu ei weithlu i gyd-fynd 芒 chynnydd 拢1.8 miliwn yn y farchnad cyfanwerthu.
Yn y de, mae鈥檙 cwmni glanhau domestig a masnachol, Mrs Bucket, a sefydlwyd gan Rachel Flanagan yn 2006 pan oedd yn 18 oed, wedi tyfu a hwn bellach ydy鈥檙 cwmni glanhau domestig mwyaf yn ne Cymru, gan gyflogi dros 90 o staff mewn pum lleoliad.
Mae鈥檙 sector yn cael ei wthio gan benderfyniad, creadigrwydd a doniau perchnogion busnesau bach fel y rhain. Ond, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 Llywodraeth hefyd greu鈥檙 amgylchedd iawn i helpu busnesau i ffynnu ac i symud i farchnadoedd newydd a marchnadoedd tramor.
Ym mis Rhagfyr, bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi strategaeth ar draws y Llywodraeth ar gymorth i fusnesau bach a fydd yn ystyried:
*Creu cyfleoedd drwy alluogi BBaCh i fanteisio ar gyfleoedd caffael cyhoeddus yn haws * Hybu gallu busnesau drwy wella鈥檙 cymorth busnes y mae鈥檙 Llywodraeth yn ei gynnig fel bod busnesau鈥檔 gallu canfod beth sydd ei angen arnynt i gychwyn a datblygu鈥檜 busnes. * Hybu twf mewn marchnadoedd newydd drwy wasanaethau UKTI (Masnach a Buddsoddi y DU) sy鈥檔 cynnig cymorth, cynllunio a hyfforddiant teilwredig i helpu i baratoi BBaCh ar gyfer allforio dramor. * Gwella gallu busnesau i gael at gyllid drwy helpu busnesau i gael mynediad at gyllid ecwiti a chyllid dyledion a sefydlu鈥檙 Banc Busnes. * Arbed amser i fusnesau drwy leihau biwrocratiaeth a symleiddio ein system dreth
Ychwanegodd Mr Jones:
Rhoddodd Cyllideb y Canghellor eleni ddogn da o hyder i fusnesau a defnyddwyr yma yng Nghymru.
Bydd y gostyngiad ym mhrif gyfradd y dreth gorfforaeth a lwfans cyflogaeth newydd yn hwb sylweddol i fusnesau llai a chanolig eu maint 鈥� gan annog mwy ohonynt i recriwtio. Byddant hefyd yn elwa o fesurau i wella mynediad i gyllid drwy鈥檙 Banc Busnes, y cynllun Gwarant Cyllid Menter a Benthyciadau i Gychwyn Busnes, sydd bellach wedi鈥檌 ymestyn i Gymru.
Mae UKTI hefyd yn adnodd gwerthfawr i fusnesau ledled y DU, gan gynnwys Cymru. Maent yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni cymorth masnach, gan gynnwys help gydag ymchwil marchnad a chanfod contractau dramor. Byddwn yn annog busnesau mentrus yng Nghymru i fanteisio ar yr holl gymorth sydd ar gael iddynt i helpu i roi Cymru ar sylfaen gadarn yn y ras fyd-eang.
Yr Athro Dylan Jones-Evans yw sylfaenydd Fast Growth 50 - y seremoni wobrwyo sy鈥檔 anrhydeddu鈥檙 busnesau sy鈥檔 tyfu gyflymaf yng Nghymru. Dywedodd:
Mae helpu entrepreneuriaid i gychwyn, i ddatblygu ac i adnewyddu鈥檜 busnesau yn un o鈥檙 pethau pwysicaf y gall unrhyw lywodraeth leol, ranbarthol neu genedlaethol ei wneud i helpu i greu swyddi a gwella safonau byw, yn enwedig mewn ardaloedd mwy difreintiedig.
Wrth i economi Cymru wella o effeithiau dirwasgiad byd-eang, bydd angen rhoi cefnogaeth lawn i鈥檔 cymuned o fusnesau bach yng Nghymru er mwyn iddynt barhau 芒鈥檜 cyfraniad anferthol at ein heconomi a鈥檔 cymdeithas, o greu swyddi i arloesi a datblygu cymunedau lleol cynaliadwy.
Nodiadau i Olygyddion
- Bydd y 192,745 o Fusnesau Bach a Chanolig eu Maint yn gallu manteisio ar y Banc Busnes. Bydd y sefydliad hwn yn:
- Defnyddio 拢1 biliwn o gyfalaf newydd i wella cynlluniau cyfredol a datblygu sefydliad newydd parhaus i gefnogi twf BBaCh erbyn diwedd 2014.
- Creu dwy gronfa cyfalaf menter newydd ar gyfer 拢75 miliwn.
- Cefnogi mwy o ddarparwyr benthyciadau i gynyddu鈥檙 cyllid i BBaCh drwy鈥檙 Warant Cyllid Menter - mae 895 o fenthyciadau wedi鈥檜 dyfarnu i fusnesau yng Nghymru a鈥檙 rheini鈥檔 werth 拢83.4 miliwn.