Buddsoddiad y Business Bank yn help llaw i fusnesau bach
Ysgrifennydd Cymru yn annog busnesau Cymru i fanteisio ar gefnogaeth newydd sydd ar gael

Pound coins
Mae鈥檙 buddsoddiad ychwanegol o filiynau o bunnoedd yn y British Business Bank yn dangos yn glir unwaith eto ymrwymiad Llywodraeth y DU i rymuso busnesau bach, yn 么l Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.
Heddiw mae Llywodraeth y DU wedi addo buddsoddi 拢250m ychwanegol yn y British Business Bank, mewn ymgais i helpu cwmn茂au bach a chanolig eu maint i fuddsoddi ac ehangu.
Mae鈥檙 cyllid hwn yn ychwanegol at y cyfalaf newydd o 拢1 biliwn a gafodd ei ymrwymo gan y Canghellor yn Natganiad yr Hydref y llynedd.
Bydd y cyllid yn cefnogi amrywiaeth o ymyriadau newydd arloesol, gan gynnwys cefnogaeth gyfalaf i gwmn茂au newydd yn y farchnad, cyfalaf mentro yn nes ymlaen a chyllid seiliedig ar asedau.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn annog busnesau bach a newydd Cymru i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, i rymuso鈥檙 gymuned o fusnesau bach.
Dywedodd Mr Jones:
Mae busnesau bach a chanolig wedi bod yn asgwrn cefn yr adferiad economaidd yng Nghymru ers amser maith, gan gyfrannu 36% o holl drosiant y sector preifat ac yn gyfrifol am bron i 630,000 o swyddi. Ers 2010, mae mwy na 1,000 o fusnesau bach a chanolig wedi cael eu sefydlu yng Nghymru, gan brofi bod dawn entrepreneuraidd a hyder cynyddol i鈥檞 weld yn y sector busnes.
Ond rydyn ni eisiau gwneud mwy i gefnogi busnesau bach a newydd sydd wedi ei chael yn anodd efallai i sicrhau cyllid drwy brif fanciau鈥檙 stryd fawr. Mae arnynt angen buddsoddiad i gyflogi mwy o bobl, i gymryd archebion newydd ac i brynu offer newydd.
Bydd y British Business Bank yn eu helpu i wneud hynny. Bydd yn cynnig dewis i fusnesau llai sy鈥檔 ceisio sicrhau cyllid hanfodol i helpu gyda buddsoddi, ehangu eu gweithredoedd a sbarduno twf economaidd y mae ei wir angen.
Byddwn yn annog busnesau mentrus yng Nghymru i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael iddynt i helpu i roi Cymru ar sylfaen gadarn yn y ras fyd-eang.
Yn ogystal 芒 mynediad at y buddsoddiad yn y Business Bank, mae busnesau Cymru鈥檔 gallu elwa o鈥檙 canlynol hefyd:
-
Cynllun mentora newydd gwerth 拢1 miliwn sy鈥檔 sector benodol a fydd yn galluogi cwmn茂au i fanteisio ar gefnogaeth a chyngor gan bobl fusnes brofiadol yn eu maes gwaith eu hunain.
-
Cronfa sefydlu busnes gwerth 拢10 miliwn sydd wedi cael ei lansio gan BBSRC (Y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol) i helpu gwyddonwyr entrepreneuraidd yn y maes hwn i sefydlu eu busnes
-
Benthyciadau Sefydlu 鈥� cefnogaeth hanfodol ar ffurf benthyciad i鈥檞 dalu鈥檔 么l a hefyd mentor busnes ar gyfer entrepreneuriaid ledled y wlad.
NODIADAU I OLYGYDDION
Ffeithiau Allweddol am y British Business Bank
-
Lansiwyd y British Business Bank yn ffurfiol fis Hydref a nawr mae ganddo gyfalaf o 拢1.25 biliwn ar gyfer rhaglenni newydd i gefnogi busnesau bach a chanolig. Mae hefyd wedi cymryd yr awenau gyda nifer o raglenni etifeddiaeth. Mae鈥檙 cynlluniau etifeddiaeth hyn yn cynhyrchu mwy na 拢600m o arian benthyg a buddsoddiadau newydd i fusnesau bach a chanolig y DU yn flynyddol. Dyma gynnydd o 85% ar yr un cyfnod y llynedd.
-
Mae鈥檙 British Business Bank yn gwneud cynnydd da gyda helpu i sicrhau bod cyllid yn cyrraedd y busnesau llai ac mae eisoes wedi gwneud ei ddau ymrwymiad cyntaf fel rhan o鈥檌 raglen fuddsoddi newydd 鈥� gwerth cyfanswm o 拢45 miliwn. Bydd hyn yn rhyddhau cyllid o 拢125 miliwn 鈥� oherwydd mae arian y Business Bank wedi denu 拢80m o gyllid ychwanegol gan y sector preifat.
-
Mae鈥檙 sefydliad eisoes yn gweithredu ar ffurf interim. Daw鈥檔 gwbl weithredol yn hydref 2014, unwaith y bydd cymeradwyaeth Cymorth y Wladwriaeth y Gymuned Ewropeaidd wedi鈥檌 glirio.
-
Mae鈥檔 fwriad i鈥檙 ymyriadau sy鈥檔 cael eu rhoi yn eu lle yn awr gael effaith barhaus a gwneud gwahaniaeth mawr i fenthyca i fusnesau am flynyddoedd i ddod.
-
Mae鈥檙 banc bellach yng ngofal y mynediad BIS presennol i gynlluniau cyllid a bydd yn adeiladu ar y rhain, gan sicrhau eu bod yn parhau鈥檔 hyblyg ac yn diwallu gofynion y farchnad.
-
Bydd y banc yn cael ei reoli鈥檔 broffesiynol gyda nod masnachol. Bydd yn gweithredu hyd braich oddi wrth weinidogion. Bydd yn cael mandad i sicrhau鈥檙 effaith orau posib o鈥檙 cyfalaf sydd o dan ei reolaeth, gan sicrhau nad yw鈥檔 cael ei ddefnyddio鈥檔 llwyr. Ni fydd yn sicrhau鈥檙 elw mwyaf posib 鈥� bydd unrhyw elw naill ai鈥檔 cael ei ailgylchu i fwy o gyllid i fusnesau bach a chanolig neu鈥檔 cael ei ddychwelyd i鈥檙 trysorlys.
Mae鈥檙 British Business Bank wedi gwneud cynnydd sylweddol eisoes:
-
Mae ein cynlluniau cyllido wedi arwain eisoes at gynnydd o 82 y cant yng nghyfanswm y cyllido (gan gynnwys y sector preifat) i fusnesau drwy ddatrysiadau鈥檙 Business Bank (Q2/Q3 2013 o gymharu 芒 Q2/Q3 2012).
-
Elwodd 10,000 o fusnesau llai o ddatrysiad y Business Bank yn ystod y flwyddyn hyd at fis Hydref 2013.
-
Drwy fynd i鈥檙 afael 芒 chyflenwi cyllid a thirlun cystadleuol y farchnad cyllid busnes, dylai鈥檙 British Business Bank helpu i ryddhau hyd at 拢10 biliwn pellach o gyllid ychwanegol ar gyfer busnesau llai.
-
Bydd gweithgarwch y Business Bank yn cynnwys cefnogi banciau her, cystadleuwyr newydd a darparwyr cyllid eraill.