Stori newyddion

鈥楳ae Band Eang yn elfen allweddol o lwyddiant economaidd Cymru'

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi hwb ariannol i fusnesau Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Ethernet cables

O heddiw ymlaen, bydd busnesau sydd wedi鈥檜 lleoli yn nwy ddinas 鈥榗ysylltiad cyflym鈥� Cymru yn cael budd o fynediad gwell a chynt i鈥檙 rhyngrwyd wrth i鈥檙 cynllun talebau cysylltiad band eang gael ei gyflwyno mewn 10 dinas ledled y DU.

Heddiw (7 Rhagfyr) mae Gweinidogion Swyddfa Cymru wedi nodi鈥檙 cyhoeddiad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Diwylliant, Maria Miller, a fydd yn golygu y gall busnesau yng Nghaerdydd a Chasnewydd fanteisio ar gyfran o鈥檙 拢100m sydd ar gael i鈥檞 cysylltu i fand eang cyflym o ansawdd gwell.

Mae鈥檙 cynllun yn rhan graidd o鈥檙 rhaglen i drawsnewid band eang y mae鈥檙 Llywodraeth yn ei chyflwyno ledled y wlad. Daw鈥檙 cyllid o brosiect 鈥楧inasoedd Cysylltiad Cyflym鈥� y Llywodraeth sydd werth 拢150 miliwn, ac mae鈥檔 rhan annatod o gynnig y Llywodraeth i fusnesau bach sydd hefyd yn cael ei lansio heddiw.

Bydd y cynllun talebau yn golygu y bydd busnesau鈥檔 gallu gwneud cais am grantiau o hyd at 拢3,000 yr un tuag at y gost o osod band eang gwell a chynt a chynnig gwasanaethau cynt a mwy dibynadwy i gwsmeriaid. Bydd yn dod 芒 budd i fentrau busnes bach a chanolig eu maint yn ogystal 芒 helpu dinasoedd i greu swyddi a denu buddsoddiadau newydd fel rhan o uchelgais y Llywodraeth i wneud y DU y lle gorau yn Ewrop i wneud busnes.

Ar ben hyn, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi darparu bron i 拢57 miliwn ar gyfer Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cartrefi a busnesau yn rhai o fannau mwyaf anhygyrch Cymru yn gallu cael band eang.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae band eang cyflym iawn yn elfen allweddol o lwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol. Erbyn 2015, byddwn wedi trawsnewid darpariaeth band eang yng Nghymru y tu hwnt i bob disgwyl. Bydd cynnydd dramatig mewn cyflymder a bydd band eang sefydlog a symudol cyflym iawn yn gyffredin. Byddwn yn annog busnesau yng Nghaerdydd ac yng Nghasnewydd i fanteisio i鈥檙 eithaf ar y cynllun talebau a lansiwyd heddiw.

Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed ym mis Hydref y bydd 151 tref a phentref arall yng Nghymru yn cael band eang ffibr cyflym iawn fel rhan o鈥檙 prosiect Cyflymu Cymru sy鈥檔 werth miliynau o bunnoedd. Mae鈥檔 debyg mai dyma鈥檙 peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud i ddiogelu cynaliadwyedd ein busnesau a鈥檔 cymunedau gwledig.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:

Mae lansio鈥檙 cynllun talebau yn garreg filltir hollbwysig yn ein hymgyrch i wneud Cymru鈥檔 wlad sydd gyda鈥檙 gorau yn y byd o ran cysylltedd, sy鈥檔 cynnig marchnad gref i ddefnyddwyr ac sy鈥檔 lle gwych i wneud busnes.

Mae darparu mynediad o ansawdd uchel i鈥檙 rhyngrwyd yn hollbwysig i dwf ein heconomi ac mae cyhoeddiad heddiw yn dangos bod y Llywodraeth hon yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod gan y DU y seilwaith digidol gorau bosib.

Nodyn i Olygyddion

  • Bydd y cynllun talebau cysylltiad band eang yn cael ei ymestyn i 12 dinas arall o amgylch y DU yn gynnar yn 2014.
  1. Y dinasoedd sy鈥檔 gymwys heddiw yw Belfast, Salford, Portsmouth, Caerdydd, Derby, Bryste, Caeredin, Casnewydd, Llundain a Manceinion.

  2. Yn 2011, neilltuodd y llywodraeth 拢100 miliwn ar gyfer Cronfa Band Eang Trefol er mwyn creu hyd at ddeg dinas 鈥榗ysylltiad cyflym鈥� ledled y DU. Darparwyd cronfa arall gwerth 拢50 miliwn yn 2012 ar gyfer 鈥榓il don鈥� o ddinasoedd a fydd yn elwa o鈥檙 prosiect hwn

  3. Bydd y dinasoedd cysylltiad cyflym hyn yn elwa o fand eang cynt a gwell, yn ogystal ag ardaloedd eang o fynediad diwifr i鈥檙 rhyngrwyd ar gyfer y cyhoedd (wifi)

  4. Cyhoeddwyd enwau鈥檙 dinasoedd cysylltiad cyflym mewn dwy don. Roedd y don gyntaf, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2012, yn cynnwys y dinasoedd canlynol: Manceinion, Birmingham, Bryste, Belfast, Newcastle, Leeds a Bradford (cynnig ar y cyd), Caeredin, Caerdydd a Llundain

  5. Cyhoeddodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yr ail don o ddinasoedd cysylltiad cyflym ym mis Rhagfyr 2012, sef: Aberdeen, Brighton a Hove, Caergrawnt, Coventry, Derby, Derry/Londonderry, Casnewydd, Rhydychen, Perth, Portsmouth, Salford a Chaerefrog

  6. Mae鈥檙 lansiad heddiw yn rhan o becyn ehangach o fuddion newydd ar gyfer cwmn茂au bach a chanolig eu maint a gyhoeddwyd ar Sadwrn Busnesau Bach fel rhan o gynnig newydd Llywodraeth y DU i fusnesau bach.

  7. Fel rhan o fuddsoddiad ehangach y Llywodraeth mewn band eang, mae Llywodraeth y DU, drwy Broadband Delivery UK (BDUK), wedi darparu 拢57 miliwn tuag at brosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Rhagfyr 2013 show all updates
  1. Adding Welsh translation

  2. First published.