Hwb mawr Band Eang Cymru
Llefydd mwyaf gwledig ac anodd eu cyrraedd i elwa o 拢56m ar gyfer band eang

-
Hyd at 拢56 miliwn ar gael i helpu i ledaenu cyflymder cyflym iawn ymhellach ledled Cymru
-
Mae dros 650,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru, a fyddai fel arall wedi cael eu gadael ar 么l, wedi cael cysylltiad erbyn hyn
-
Bydd gan 95 y cant o鈥檙 Deyrnas Unedig fynediad at gyflymderau cyflym iawn erbyn diwedd y flwyddyn
Bydd hyd at 拢56 miliwn ar gael i helpu i fynd 芒 band eang cyflym iawn i鈥檙 llefydd mwyaf gwledig ac anodd eu cyrraedd yng Nghymru, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw (9 Medi).
Mae鈥檙 arian yn rhan o gronfa鈥檙 Deyrnas Unedig sy鈥檔 cynnwys hyd at 拢645 miliwn, a gyhoeddwyd heddiw gan y Gweinidog dros faterion Digidol, Matt Hancock.
Ynghyd 芒 gwaith cyflenwi arall sydd wedi ei gynllunio, amcangyfrifir y gallai hyn arwain at fwy na 900,000 o gartrefi a busnesau ychwanegol yn y Deyrnas Unedig yn cael mynediad at gyflymder cyflym iawn ar 么l diwedd eleni, gan fynd 芒鈥檙 ddarpariaeth gyflym iawn i 98 y cant o鈥檙 genedl dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru, Guto Bebb:
Mae鈥檔 debyg mai darparu mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy yw鈥檙 peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud i ddiogelu cynaliadwyedd ein busnesau a鈥檔 cymunedau gwledig. Gwyddom fod mwy i鈥檞 wneud, ond mae cyhoeddiad heddiw am gyllid i ymestyn band eang cyflym iawn ymhellach nag erioed o鈥檙 blaen, yn nodi cynnydd sylweddol arall yn ymdrechion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod gan Gymru rwydwaith band eang sy鈥檔 addas ar gyfer yr oes ddigidol.
Mae cysylltiad gwell ar gyfer cartrefi a busnesau yn gonglfaen i ymdrechion y Llywodraeth hon i greu economi gryfach yng Nghymru. Oherwydd buddsoddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn seilwaith digidol Cymru, rydym yn sicr ar ein ffordd i sicrhau gweddnewidiad gwirioneddol anhygoel yn y ddarpariaeth band eang ledled y wlad. Rydym yn gwbl ymwybodol bod angen i hyn fod ar gyfer pob cymuned yng Nghymru, waeth pa mor wledig ydyn nhw.
Dywedodd y Gweinidog dros faterion Digidol, Matt Hancock:
Rydyn ni nawr wedi dod 芒 band eang cyflym iawn i bron i 94 y cant o gartrefi a busnesau鈥檙 Deyrnas Unedig, ac rydym yn cyrraedd miloedd yn fwy bob wythnos. Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd 95 y cant erbyn diwedd y flwyddyn, ond gwyddom fod mwy i鈥檞 wneud o hyd. Bydd yr arian sy鈥檔 cael ei ddychwelyd i鈥檙 rhaglen yn awr ar gyfer ail-fuddsoddi yn ein helpu i gyrraedd y 5 y cant olaf hwnnw, ac mae hyn i gyd yn rhan o鈥檔 hymrwymiad i sicrhau y gall 100 y cant o鈥檙 Deyrnas Unedig gael band eang fforddiadwy, cyflym a dibynadwy erbyn 2020.
Erbyn hyn, mae鈥檙 gwaith cyflwyno 芒 chymhorthdal gan y Llywodraeth wedi cyrraedd mwy na 4.5 miliwn o adeiladau ledled y Deyrnas Unedig, ac mae ffigurau newydd yn dangos bod mwy na 2 filiwn o gartrefi a busnesau wedi cofrestru ar gyfer cysylltiadau cyflym iawn mewn mannau lle mae鈥檙 Llywodraeth wedi buddsoddi mewn band eang.
Mae cymal yng nghontractau鈥檙 Llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr ailgylchu cyllid pan fydd pobl yn ymgymryd 芒 chysylltiadau cyflym iawn fel rhan o鈥檙 rhaglen. Mae鈥檙 ymchwil a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y cynnydd hwn wedi bod yn uwch na鈥檙 disgwyl, ac o ganlyniad, mae鈥檙 prif gyflenwr, BT, wedi neilltuo 拢465 miliwn i ymestyn y ddarpariaeth dros gyfnod llawn y contractau - cynnydd o鈥檙 拢292 miliwn ym mis Rhagfyr y llynedd - yng nghenhedloedd y Deyrnas Unedig a鈥檌 rhanbarthau.
Ar y cyd ag arbedion effeithlonrwydd prosiect o 拢180 miliwn o ganlyniad i reoli a chyflwyno鈥檙 rhaglen yn llwyddiannus, bydd hyd at 拢645 miliwn ar gael i awdurdodau lleol ei ail-fuddsoddi a darparu cyflymder cyflym iawn i鈥檙 cartrefi a鈥檙 busnesau hynny nad ydynt eisoes wedi eu cynnwys yn y cynlluniau presennol. O hyn, mae dros 拢200 miliwn eisoes wedi ei ymrwymo i brosiectau i ymestyn band eang cyflym iawn.
Mae cysylltiadau cyflym iawn o 24Mbps ac uwch yn galluogi teuluoedd i wylio鈥檙 teledu ar ddyfeisiau lluosog ar yr un pryd, neu alluogi plant i wneud gwaith cartref tra bydd rhieni yn bancio a siopa ar-lein. Mae鈥檙 dechnoleg yn ddelfrydol ar gyfer llawer o fusnesau bach hefyd, gan alluogi penaethiaid i redeg gwefannau a phrynu a gwerthu ar-lein.
Daw鈥檙 cyhoeddiad diweddaraf hwn yn dynn ar sodlau camau diweddar gan y Llywodraeth i wella cyflymderau band eang yn y mannau mwyaf anghysbell yn y Deyrnas Unedig. Ym mis Gorffennaf, ymrwymodd yr Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i gyflwyno Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol neu gytuno ar gynnig gwirfoddol cyfreithiol sy鈥檔 rhwymo gan BT i helpu i sicrhau bod gan bawb yn y Deyrnas Unedig y cysylltedd sydd ei angen arnynt ar gyfer yr oes ddigidol.
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae data annibynnol Thinkbroadband yn dangos bod dros 93 y cant o adeiladau鈥檙 Deyrnas Unedig yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn ar hyn o bryd, ac rydym yn disgwyl y bydd y ffigwr hwn yn cyrraedd 95 y cant erbyn diwedd y flwyddyn hon. Fodd bynnag, mae鈥檙 data Ofcom diweddaraf sydd ar gael yn dangos mai dim ond 31 y cant o adeiladau sydd wedi dewis uwchraddio i gysylltiad cyflym iawn.