Hwb i ddiwydiant cyfryngau Cymru gyda chyllid arloesi o 拢22.2m
Y gobaith yw y bydd 2,000 o swyddi newydd yn cael eu creu yn ardal Caerdydd gyda chyllid sylweddol fel rhan o Strategaeth Arloesi Llywodraeth y DU.

- Hwb o 拢22.2m i media.cymru i wneud prifddinas-ranbarth Caerdydd yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi a chynhyrchu ym maes y cyfryngau
- Gallai鈥檙 cyllid greu 2,000 o swyddi newydd ac ychwanegu 拢236 miliwn at yr economi leol
- Mae鈥檙 buddsoddiad yn rhan o Strategaeth Arloesi鈥檙 llywodraeth, a lansiwyd heddiw (22 Gorffennaf), gan nodi cynlluniau i wneud y DU yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi erbyn 2035
Gellid creu dwy fil o swyddi newydd ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd, gan fod llywodraeth y DU heddiw (22 Gorffennaf) wedi dyfarnu 拢22.2 miliwn i media.cymru i wneud y rhanbarth yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi a chynhyrchu yn y cyfryngau.
Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae media.cymru yn dod 芒 24 o bartneriaid ym maes cynhyrchu cyfryngau, darlledu, technoleg, prifysgol ac arweinyddiaeth leol at ei gilydd am y tro cyntaf i wella arloesedd yn y cyfryngau.
Gan adeiladu ar sylfeini llwyddiannus, bydd y rhaglen yn sbarduno twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy a 拢236 miliwn ychwanegol mewn gwerth ychwanegol gros erbyn 2026. Ar draws pum mlynedd, nod y rhaglen yw creu mwy o gwmn茂au arloesol yn y rhanbarth a bron treblu cyfradd twf cynhyrchiant y rhanbarth, gan arwain at 2,000 o swyddi newydd.
Mae gweithgareddau鈥檙 rhaglen wedi鈥檜 cynllunio i ymateb i dechnolegau newydd, cynyddu gallu busnesau bach i arloesi a mynd i鈥檙 afael ag anghenion sgiliau ar gyfer y dyfodol.
Bydd media.cymru yn datblygu atebion i heriau a chyfleoedd i sector cyfryngau Cymru mewn meysydd fel: cynaliadwyedd; cynhyrchu dwyieithog; amrywiaeth a chynhwysiant; twristiaeth a thechnoleg.
Bydd hefyd yn darparu seilwaith newydd, gan gynnwys stiwdio rithiol o safon, a phiblinell arloesi/ ymchwil a datblygu sy鈥檔 galluogi鈥檙 syniadau gorau i fod yn gynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd yn barod ar gyfer y farchnad.
Mae鈥檙 rhaglen yn cael ei hariannu gan Gronfa Cryfder mewn Lleoedd Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).
Mae media.cymru yn un o鈥檙 pum prosiect ymchwil ac arloesi mawr a gyhoeddwyd heddiw fel rhan o鈥檙 Gronfa Cryfder mewn Lleoedd. Mae pob un yn cyfuno arbenigedd diwydiant, arweinyddiaeth leol ac ymchwil ac arloesi i helpu i wneud y gorau o botensial ardal a sbarduno cynhyrchiant.
Bydd y prosiectau鈥檔 cael cyfran o 拢127m o gyllid gan y llywodraeth drwy鈥檙 Gronfa Cryfder mewn Lleoedd ac, o ganlyniad, byddant yn denu dros 拢110m gan sefydliadau ymchwil, busnesau ac arweinwyr lleol.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:
Mae ardal Caerdydd wedi hen ennill ei phlwyf fel canolfan flaenllaw ym maes cynhyrchu鈥檙 cyfryngau, arloesi a鈥檙 diwydiannau creadigol.
Bydd y gefnogaeth sylweddol hon gan Lywodraeth y DU yn helpu i ddatblygu鈥檙 rhanbarth ymhellach, gan arwain at greu swyddi a thwf mewn cyfryngau Cymraeg a Saesneg a chreu canolfan greadigol wirioneddol fyd-eang i Gymru.
Dywedodd Gweinidog Gwyddoniaeth y DU, Amanda Solloway:
Fel man geni鈥檙 gell tanwydd a鈥檙 radar, mae Cymru wastad wedi bod wrth galon arloesi. Mae鈥檙 prosiect hwn gan media.cymru, sy鈥檔 dod ag academyddion, llywodraeth leol a鈥檙 cyfryngau at ei gilydd i sbarduno arloesedd yn y cyfryngau am y tro cyntaf, yn dangos bod yr ysbryd hwn yn fyw ac rydym yn falch o鈥檌 gefnogi.
Mae鈥檙 buddsoddiad hwn o 拢22.2 miliwn yn rhan o Strategaeth Arloesi Llywodraeth y DU rydym ni wedi鈥檌 chyhoeddi heddiw, sy鈥檔 amlinellu sut rydym ni鈥檔 bwriadu rheoli sgiliau a dyfeisgarwch ym mhob cwr o鈥檙 DU er mwyn cadarnhau ein statws Gwyddoniaeth fyd-eang.
Hefyd, cyhoeddwyd heddiw brosiect gwerth 拢8.3 miliwn dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, bp, Johnson Matthey a Phrifysgol Manceinion i ddatblygu catalyddion newydd i helpu鈥檙 DU i symud tuag at ddyfodol sero-net cynaliadwy.
Bydd y catalyddion newydd hyn yn cael eu hysbrydoli gan natur a byddant yn troi biomas, gwastraff a charbon deuocsid cynaliadwy yn gynnyrch gwerthfawr fel tanwyddau ac ireidiau, gan sicrhau manteision economaidd mawr yn ogystal 芒 lleihau allyriadau carbon.
Mae鈥檙 prosiect Partneriaeth Ffyniant yn cael ei ariannu gan grant gwerth 拢2.6 miliwn gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol UKRI (EPSRC) a 拢5.7 miliwn gan bartneriaid.
Mae鈥檙 ddwy fenter yn rhan o Strategaeth Arloesi newydd uchelgeisiol Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd heddiw, sy鈥檔 cyflwyno gweledigaeth hirdymor i roi arloesedd wrth galon adeiladu鈥檔 么l yn well a lefelu鈥檙 economi.
Wedi鈥檌 gyhoeddi yn y Cynllun ar gyfer Twf fis Mawrth diwethaf, mae鈥檔 ceisio cefnogi busnesau i gynyddu eu buddsoddiad mewn arloesi. Mae hyn yn hanfodol i hybu cynhyrchiant a chreu swyddi ym mhob un o wledydd y DU.