Hwb i arloesi ym maes amaeth yng Nghymru gan gronfa Llywodraeth y DU
Tri sefydliad yng Nghymru鈥檔 elwa o gyfran o 拢5 miliwn gan Llywodraeth y DU.

Photograph by Christopher Guither
Bydd tri sefydliad yng Nghymru鈥檔 elwa o gyfran o 拢5 miliwn gan Llywodraeth y DU i ddatblygu syniadau i ddatrys rhai o鈥檙 sialensiau amaethyddol mwyaf yn y byd, fel diogelu鈥檙 cyflenwad bwyd, rheoli chwyn ac afiechydon da byw.
Mae tri o鈥檙 tri dyfarniad ar ddeg sy鈥檔 cael eu rhoi ledled y DU yn cael eu dyfarnu i brosiectau lle mae sefydliadau o Gymru wrth y llyw. Y rhain yw:
-
Ymchwilio i amrywiaeth miled perlog i gynhyrchu gwell cynnyrch bara ar gyfer pobl sy鈥檔 dioddef o glefyd siwgr (o dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth)
-
Lleihau gwastraff bwyd drwy reoli pryfaid ffrwythau yn Asia ac Affrica (o dan arweiniad Russell IPM Ltd. UK, Sir y Fflint)
-
Datblygu reis sy鈥檔 gallu gwrthsefyll dau afiechyd mawr i helpu i ddiogelu鈥檙 cyflenwad bwyd yn Asia (Prifysgol Bangor)
Dyma ail rownd gyllido gan Agri-Tech Catalyst, sydd werth 拢70 miliwn, a gyhoeddwyd fel rhan o Strategaeth Ddiwydiannol y DU ar gyfer Technolegau Amaethyddol ym mis Gorffennaf 2013. Mae Agri-Tech Catalyst wedi鈥檌 gynllunio i gefnogi gwaith ymchwil ar y cyd rhwng gwyddonwyr a busnesau i roi hwb i brosiectau o鈥檙 labordy i鈥檙 farchnad.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:
Mae gan Gymru draddodiad ffermio balch, ac mae鈥檔 hyfryd gweld ein bod ni鈥檔 dal i fod ar flaen y gad o ran datblygiadau amaethyddol. Mae鈥檙 tri phrosiect o Gymru sy鈥檔 elwa o gyllid Llywodraeth y DU yn rhai cyffrous, a fydd yn arwain at fanteision go iawn i bobl ledled y byd, a drwy werthu鈥檙 cynhyrchion hyn ar draws y byd, gallwn gynnal safle Cymru wrth galon arloesedd byd-eang.
Mae hyn i gyd yn rhan o鈥檔 cynllun i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach yng Nghymru.
Rydyn ni鈥檔 falch iawn o fod yn cefnogi mentrau arloesol a gwerth chweil fel hyn.
Dywedodd y Gweinidog Prifysgolion, Gwyddoniaeth a Dinasoedd, Greg Clark:
Bydd buddsoddi mewn technoleg amaethyddol heddiw鈥檔 arwain at fanteision masnachol yfory, gan arwain at gamau pwysig o鈥檙 labordy i鈥檙 farchnad. Mae hyn i gyd yn rhan o gynllun economaidd hirdymor Llywodraeth y DU i greu rhagor o swyddi a hybu twf drwy strategaeth ddiwydiannol.