Gall Cymunedau Ledled Cymru Wneud Cais Am Arian Codi'r Gwastad I Achub Tafarndai, Clybiau Ac Adeiladau Hanesyddol
Ail rownd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol gwerth 拢150 miliwn yn agor i gannoedd o leoedd yng Nghymru a ledled y DU

Heddiw (11 Mehefin), gall grwpiau cymunedol ledled Cymru wneud cais am arian codi鈥檙 gwastad i reoli tafarndai, lleoliadau cerddoriaeth, cyfleusterau chwaraeon ac adeiladau hanesyddol er budd y cyhoedd.
Bydd grwpiau鈥檔 gallu gwneud cais am gyfran o Gronfa Perchnogaeth Gymunedol 拢150 miliwn Llywodraeth y DU i achub adeiladau diwylliannol yn eu hardal a allai fel arall gael eu colli am byth, wrth i鈥檙 ail gylch ariannu agor heddiw.
Mae鈥檙 cylch ariannu cyntaf eisoes wedi helpu pobl leol i drawsnewid eu cymunedau鈥檔 lle mwy dymunol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, gan gefnogi 39 o brosiectau ledled y DU, gyda thri o鈥檙 prosiectau hynny yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys ailddatblygu Ystafell Ddawnsio鈥檙 Frenhines yn Nhredegar gyda chefnogaeth 拢90,000 o gyllid codi鈥檙 gwastad Llywodraeth y DU. Bydd yr Ystafell Ddawnsio yn gartref i Academi Ffilm Blaenau Gwent 鈥� rhaglen wedi鈥檌 hariannu鈥檔 llawn sy鈥檔 rhoi cyfle i bobl ifanc 7-18 oed ddysgu rhai o鈥檙 sgiliau sylfaenol ar gyfer gweithio yn y diwydiant ffilm. Mae鈥檙 rhaglen yn dysgu ystod gyffrous o sgiliau i bobl ifanc lleol gan gynnwys cyflwyno, ffilmio ac ysgrifennu sgriptiau.
Bydd newidiadau i鈥檙 gronfa a gyhoeddwyd ddiwedd mis Mai yn sicrhau ei bod yn fwy cynhwysol a hyblyg, fel y gall mwy o gymunedau elwa a bod mwy o econom茂au lleol yn cael eu cefnogi.
Meddai Neil O鈥橞rien AS, y Gweinidog dros Godi鈥檙 Gwastad, yr Undeb a鈥檙 Cyfansoddiad:
Rydym am helpu cymunedau ledled Cymru i achub y tafarndai, clybiau chwaraeon ac adeiladau hanesyddol sydd bwysicaf iddynt, ac a fyddai fel arall mewn perygl o gael eu colli am byth.
Mae hyn yn rhan o鈥檔 cynllun i ledaenu cyfleoedd, rhoi hwb i falchder lleol a chodi鈥檙 gwastad ym mhob cwr o鈥檙 DU tra鈥檔 hybu twf economaidd i fynd i鈥檙 afael 芒 chostau byw.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae dros 170 o brosiectau yng Nghymru eisoes wedi elwa o dros 拢160 miliwn o gronfeydd codi鈥檙 gwastad newydd Llywodraeth y DU, gan gynnwys y Gronfa Berchnogaeth Gymunedol.
Mae鈥檙 arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer popeth o brosiectau adeiladu mawr fel y cynllun i adfywio glan y m么r yn Aberystwyth, i alluogi pobl leol i brynu eu tafarn hanesyddol yn Llandwrog ger Caernarfon.
Mae鈥檙 Gronfa Berchnogaeth Gymunedol yn darparu cyllid sy鈥檔 gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl, gan adnewyddu ac adfywio鈥檙 lleoedd hynny sy鈥檔 clymu ein cymunedau gyda鈥檌 gilydd. Rwy鈥檔 gobeithio gweld ceisiadau o bob rhan o Gymru ar gyfer y rownd nesaf hon o arian.
Meddai Kevin Phillips, Prif Swyddog Gweithredol a rheolwr prosiect Cymru Creations:
Mae Ystafell Ddawnsio鈥檙 Frenhines yn ased pwysig a hanesyddol i鈥檔 cymuned. Rydym wrth ein bodd yn ei hachub rhag dirywiad a鈥檌 hadfer i鈥檞 hen ogoniant.
Ein prif ffocws yw darparu hwb yn Nhredegar lle gall pawb ddod at ei gilydd, cymdeithasu a defnyddio鈥檙 lle mewn ffyrdd sydd o fudd i鈥檔 cymuned leol.
Mae鈥檙 cyllid wedi ein galluogi i ymgysylltu 芒 mwy o bobl ifanc a phobl o ardaloedd cyfagos mewn ffordd nad oedd yn bosibl o鈥檙 blaen.
Mae鈥檙 gronfa wedi鈥檌 diweddaru i ehangu鈥檙 meini prawf cymhwysedd, gan gynnwys dileu鈥檙 gofyniad bod asedau wedi cael eu defnyddio o fewn y 5 mlynedd diwethaf a bydd yn awr yn ystyried unrhyw ased sydd wedi cael ei ddefnyddio鈥檔 flaenorol gan y gymuned, gan ehangu鈥檔 aruthrol y prosiectau sy鈥檔 gymwys i wneud cais. Byddai ymgeiswyr sydd ag isafswm prydles 15 mlynedd ar ased hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid. Yn flaenorol, cyfyngwyd prydlesi i isafswm o 25 mlynedd.
Mae鈥檙 cyhoeddiad heddiw yn rhan o uchelgais y llywodraeth i godi鈥檙 gwastad mewn cymunedau lleol ledled y wlad, creu mwy o swyddi lleol, rhoi hwb i fusnesau lleol a datblygu econom茂au lleol o ganlyniad.
- Gellir gweld rhestr lawn o鈥檙 prosiectau sydd wedi eu cyllido .
- Gall ymgeiswyr fynegi diddordeb .