Llywodraeth y DU yn annog penaethiaid Prydain i fod yn barod i dalu鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol
Mae cwmn茂au yn cymryd camau syml yn awr wrth i arolwg barn ddatgelu bod 93% o benaethiaid yn cefnogi鈥檙 fenter, gyda鈥檙 mwyafrif yn credu y bydd yn rhoi hwb i gynhyrchiant ac yn fodd o gadw staff.

Mae penaethiaid Prydain yn cael eu hannog i gymryd 4 cam syml er mwyn paratoi eu hunain yn well ar gyfer cyflwyno鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol newydd (CBC) y flwyddyn nesaf (2016), ar y diwrnod y mae鈥檙 offeryn statudol yn cael ei droi鈥檔 gyfraith.
Mae busnesau yn cael eu cynghori i baratoi鈥檔 gynnar am y newidiadau ar 1 Ebrill 2016, pan fydd y cyflog newydd yn dod yn gyfraith, a sicrhau eu bod yn dilyn y 4 cam syml hyn:
- gwybod beth yw鈥檙 gyfradd gyflog gywir - 拢7.20 yr awr ar gyfer staff 25 oed neu鈥檔 h欧n
- darganfod pa staff sy鈥檔 gymwys ar gyfer y gyfradd newydd
- diweddaru cyflogres y cwmni erbyn 1 Ebrill 2016
- hysbysu鈥檙 staff yngl欧n 芒鈥檙 newidiadau cyn gynted ag sy鈥檔 bosibl
Gall cyflogwyr ddarganfod mwy drwy fynd i www.livingwage.gov.uk.
Mae鈥檙 cyngor yn cyd-fynd ag arolwg barn newydd sy鈥檔 datgelu bod 93% o benaethiaid yn cytuno bod y cyflog newydd yn syniad da, gyda 88% yn credu y bydd yn arwain at gynhyrchiant uwch a 83% yn dweud y bydd yn gwneud staff yn fwy teyrngar i鈥檞 cwmni.
Dywedodd y Gweinidog Busnes, Nick Boles:
Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn darparu hwb uniongyrchol i dros ddwy filiwn a hanner o weithwyr yn y DU 鈥� a bydd yn gwobrwyo ac yn darparu sicrwydd ar gyfer pobl sy鈥檔 gweithio.
Rydw i鈥檔 annog busnesau i baratoi eu hunain yn awr i dalu鈥檙 raddfa newydd o 拢7.20 o 1 Ebrill 2016. Gyda llai na phedwar mis yn unig ar 么l, mae rhai camau hawdd y gall cyflogwyr eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod yn barod.
Drwy gymryd y mesurau hyn, bydd cwmn茂au yn gallu gwobrwyo eu staff yn gywir ac osgoi torri鈥檙 gyfraith pan mae hwn yn dod i rym.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:
Y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyflwyno鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol a fydd yn rhoi codiad cyflog i 150,000 o bobl yng Nghymru erbyn 2020.
Rydw i eisiau busnesau fod yn barod am y raddfa newydd o 拢7.20 sy鈥檔 dod i rym ar 1 Ebrill 2016 ac osgoi鈥檙 cosbau sy鈥檔 bodoli ar gyfer cyflogwyr sy鈥檔 methu 芒 thalu.
Gwneud i waith dalu a sicrhau bod pobl sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed yn derbyn y cyflog y maen nhw鈥檔 ei haeddu yw prif flaenoriaeth Llywodraeth y DU. Mae鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol yn mynd 芒 ni un cam yn nes at fod yn gymdeithas gyda chyflog uwch, treth is a llai o fudd-daliadau.
Gofynnodd yr arolwg newydd a wnaed gan yr Adran Fusnes, Arloesi a Sgiliau i 1,000 o gyflogwyr drwy Brydain am y CBC. Pan ofynnwyd iddyn nhw a fyddai鈥檙 raddfa newydd yn dda i鈥檞 busnesau, nododd llawer o ymatebwyr amrediad o effeithiau cadarnhaol:
- 93% o鈥檙 holl benaethiaid yn cytuno bod y Cyflog Byw Cenedlaethol yn syniad da
- 88% yn dweud y byddai鈥檔 gwneud staff yn fwy cynhyrchiol
- 83% yn credu y byddai鈥檔 gwneud staff yn fwy teyrngar tuag at eu cyflogwr
- 86% yn dweud y byddai鈥檔 codi ysbryd y staff
- 82% yn credu y byddai cwsmeriaid yn debygol o ddychwelyd pe bai鈥檙 busnes yn talu鈥檙 cyfraddau cyflog cywir
Er gwaethaf y gefnogaeth boblogaidd i鈥檙 mesur, datgelodd yr arolwg barn yn ogystal nad oedd llawer o gwmn茂au wedi cymryd camau hyd yma i fod yn barod:
- oddeutu 45% yn unig a oedd wedi diweddaru鈥檙 gyflogres er mwyn ystyried staff 25 oed neu鈥檔 h欧n ar 1 Ebrill 2016
- 39% yn unig a oedd wedi hysbysu staff yngl欧n 芒鈥檙 newidiadau sydd i ddod
- 29% yn unig a oedd wedi edrych ar-lein am fwy o wybodaeth yngl欧n 芒鈥檙 hawl i Gyflog Byw Cenedlaethol
Daw hyn er bod 63% o benaethiaid yn dweud eu bod yn gwybod pwy a ddylai gael y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn eu busnes nhw.
Rhan allweddol o gynllun y llywodraeth yw鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol newydd i barhau i symud at gymdeithas gyda chyflog uwch, treth is a llai o fudd-daliadau, gan greu Prydain sy鈥檔 fwy cynhyrchiol a rhoi sicrwydd i deuluoedd o waith sy鈥檔 talu鈥檔 dda.
Nodiadau i Olygyddion
Gwnaed yr arolwg o 1,000 o gyflogwyr drwy鈥檙 DU ar gyfer yr Adran Fusnes, Arloesi a Sgiliau gan Censuswide ym mis Tachwedd 2015.
Mae鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol yn dod yn dilyn codiadau diweddar yng ngraddfeydd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i:
- 拢6.70 ar gyfer y rhai hynny sy鈥檔 21 oed neu鈥檔 h欧n
- 拢5.30 ar gyfer y rhai hynny sydd rhwng 18 a 20 oed
- 拢3.87 ar gyfer y rhai hynny sydd o dan 18 oed
- 拢3.30 ar gyfer prentisiaid (mae鈥檙 gyfradd hon yn berthnasol ar gyfer yr holl brentisiaid yn ystod blwyddyn 1 o鈥檙 brentisiaeth, ac i brentisiaid 16 i 18 oed mewn unrhyw flwyddyn o brentisiaeth)
Mae鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol a鈥檙 Isafswm Cyflog Cenedlaethol wedi cael eu cynllunio er mwyn gwarchod gweithwyr ar incwm isel a darparu rheswm i weithio, drwy sicrhau bod pob gweithiwr yn cael cyflog mor hael ag sy鈥檔 bosibl.
Yn ogystal, y mae鈥檙 cyflog yn helpu busnesau drwy sicrhau bod y graddfeydd yn fforddiadwy a bod cystadleuaeth yn seiliedig ar ansawdd y nwyddau a鈥檙 gwasanaethau sy鈥檔 cael eu darparu ac nid ar brisiau isel yn seiliedig ar raddfeydd cyflog isel.
Ar gyfer eithriadau i鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol a鈥檙 Isafswm Cyflog Cenedlaethol ewch i: Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol: Pwy sy鈥檔 Derbyn yr Isafswm Cyflog.