Y Farwnes Randerson yn pwysleisio bod rhaid i Gymru ffrwyno ei photensial ynni unigryw ac arwain y byd mewn arloesi
Mae鈥檙 Farwnes Randerson yn cynrychioli Llywodraeth y DU heddiw (15 Rhagfyr 2014) wrth gyflwyno araith bwysig ar y polisi ynni yng Nghymru.

Bydd uwchgynhadledd y Polisi Ynni yng Nghymru, sy鈥檔 cael ei chynnal yng Ngwesty鈥檙 Angel yn Nghaerdydd, yn trafod dyfodol ynni yng Nghymru, gan gynnwys safle arfaethedig Wylfa, a chynhyrchu ynni gwynt, solar a morol.
Dywedodd y Farwnes Randerson, wrth gydnabod pwysigrwydd economaidd a chymdeithasol enfawr y sector, a鈥檙 angen am ddiogelu ei ddyfodol:
Mae ynni鈥檔 sbarduno ein heconomi a鈥檔 ffordd o fyw 鈥� os na allwn ni gadw鈥檙 golau ymlaen, y cyfrifiaduron yn rhedeg, a鈥檔 cartrefi a鈥檔 swyddfeydd yn gynnes, does fawr ddim arall yn cyfrif.
Heb gyflenwad ynni dibynadwy ar gyfer y dyfodol, bydd ein hymdrechion i gyrraedd targedau sy鈥檔 ein clymu鈥檔 gyfreithiol i roi sylw i newid hinsawdd, neu gadw costau dan reolaeth, yn dod yn llawer llai pwysig.
Tynnodd sylw at bwysigrwydd newid a鈥檙 cyfleoedd mae hyn yn eu cynnig i Gymru yn ogystal 芒鈥檙 angen am fwy o gydweithredu rhwng y Llywodraeth a鈥檙 Sector Preifat er mwyn sicrhau dyfodol cadarnhaol i鈥檙 sector yng Nghymru, gan ddweud:
O fentrau ynni adnewyddadwy cymunedol ar raddfa fechan i Wylfa Newydd a lagwnau llanwol, rydw i am i Gymru, unwaith eto, fod yn arweinydd byd am gyflenwi ynni ac am weithgynhyrchu鈥檙 dechnoleg mae hynny ei hangen.
Lle鈥檙 sector preifat yn awr 鈥� cwmn茂au fel chi sydd yma heddiw 鈥� ydi parhau i wynebu鈥檙 her, arloesi a dangos bod Cymru鈥檔 gallu arwain y byd.