Y Farwnes Randerson: 'Cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog yn hanfodol i dyfu diwydiant twristiaeth Cymru'
Mae'r diwydiant twristiaeth Cymru yn rhan hanfodol o'n economi ac mae angen y seilwaith trafnidiaeth cywir i'w gefnogi, bydd y Farwnes Randerson yn dweud heddiw.

Wrth siarad mewn digwyddiad yn Llundain i nodi lansio Wythnos Twristiaeth Cymru, dywedodd y gweinidog:
Mae gan Gymru rai o鈥檙 traethau, tirweddau, cestyll a bwydydd gorau yn y DU. Ni ellid gor-bwysleisio pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i Gymru, a bu鈥檙 bleidlais yn ei dewis fel y wlad orau yn y byd i ymweld 芒 hi gan ddarllenwyr y Rough Guide yn gymeradwyaeth aruthrol.
Rhwng Ionawr a Tachwedd 2014, gwnaed 84 miliwn o ymweliadau dydd gan drigolion Prydain i leoliadau yng Nghymru, gan gynhyrchu gwariant o 拢 2.5 biliwn. Yn 2013, roedd 121,400 yn cael eu cyflogi yn y sector twristiaeth yma, cynnydd o dros 9,000 (8%) ers 2010.
Dywedodd y gweinidog bod seilwaith trafnidiaeth ardderchog yn hanfodol i dwf y diwydiant:
Mae angen ffyrdd da a rhwydwaith rheilffyrdd cryf i鈥檙 diwydiant barhau i ffynnu. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, ond mae angen i ni weithio mewn partneriaeth 芒 busnesau yng Nghymru a鈥檙 diwydiant twristiaeth i wneud y gwelliannau sydd eu hangen i dyfu ein economi yn y dyfodol.
Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo cyllid ychwanegol i sicrhau trydanu鈥檙 brif lein i Abertawe a鈥檙 Valley Lines. Hefyd yn ddiweddar fe gyfarfu Alun Cairns ag arweinwyr busnes yng ngogledd Cymru i drafod yr achos dros drydaneiddio鈥檙 llinellau rheilffyrdd yno.
Bydd y Farwnes Randerson yn ymweld 芒 gwahanol atyniadau twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn hwyrach ar yr wythnos.