Y Farwnes Randerson yn galw ar y diwydiant adeiladu i ddefnyddio ynni'n ddoeth ac yn effeithlon
Heddiw, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson, yn pwysleisio鈥檙 angen i鈥檙 diwydiant adeiladu ddefnyddio ynni鈥檔 ddoeth ac yn effeithlon.

Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod Cymru鈥檔 parhau i greu amgylchedd adeiledig gwyrddach 鈥� mewn cartrefi ac mewn gweithleoedd 鈥� er mwyn arbed arian i bobl yn y pen draw.
Dyma fydd ei phrif neges wrth iddi annerch Marchnad Adeiladu Gwyrdd Cymru heddiw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Bydd y digwyddiad, sy鈥檔 cael ei drefnu gan RenewableUK Cymru, yn gyfle i dros 100 o bobl glywed gan arbenigwyr am yr heriau a鈥檙 cyfleoedd y mae busnesau ac unigolion yn eu hwynebu o ran gwneud adeiladau鈥檔 wyrddach a sicrhau eu bod yn defnyddio ynni鈥檔 fwy effeithlon.
Bydd y materion a gaiff sylw鈥檔 cynnwys yr heriau i鈥檙 sector cyhoeddus o ran cyflawni addasiadau arbed ynni ar adeiladau ar raddfa fawr, sut mae cael gwelliannau a gwaith adnewyddu gwyrdd yn eich cartref yn iawn y tro cyntaf, a chyngor i landlordiaid am y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy.
Dywedodd y Farwnes Randerson: > > Mae ynni鈥檔 effeithio ar ein bywydau ni i gyd - mae angen ynni arnon ni i gadw鈥檔 cartrefi a鈥檔 swyddfeydd yn gynnes, ac i gael golau. > > Dyna pam mae Marchnad Adeiladu Gwyrdd Cymru mor bwysig. Mae angen i鈥檙 Llywodraeth, prifysgolion, hyrwyddwyr amgylcheddol a鈥檙 diwydiant adeiladu weithio gyda鈥檌 gilydd i sicrhau ein bod yn defnyddio ein hynni鈥檔 ddoeth ac yn effeithlon. > > Rydyn ni wedi cymryd camau breision er 2010 鈥� mae gan dros filiwn o gartrefi yn y DU banel solar ar y to erbyn hyn 鈥� ond rhaid i ni ddal ati i geisio cael amgylchedd adeiledig gwyrddach, boed hynny yn ein cartrefi neu yn ein gweithleoedd.
Dywedodd David Clubb, Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru: > > Dyma鈥檙 tro cyntaf i ni gynnal y digwyddiad hwn, ac mae鈥檔 amlwg o鈥檙 nifer o bobl sydd wedi cofrestru, fod hwn yn sector sy鈥檔 tyfu. > > Bydd yn dda clywed gan gynifer o arbenigwyr o Gymru, a fydd yn tynnu sylw at yr arbenigedd sydd gennyn ni yma. Mae鈥檔 gwneud i mi deimlo鈥檔 hyderus iawn am dwf y diwydiant yn y blynyddoedd i ddod. Gobeithio y gallwn adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad cyntaf hwn, a sicrhau digwyddiad hyn yn oed gwell y flwyddyn nesaf.