Gwella lled band i 70,000 o gartrefi a busnesau wrth i Lywodraeth y DU addo i ddatrys yr wahanfa band eang yng Nghymru
Bydd degau o filoedd o gartrefi a busnesau yng Nghymru sy鈥檔 straffaglu i gyflawni tasgau ar-lein syml oherwydd isadeiledd band eang sydd wedi dyddio yn cael eu huwchraddio. Daw cyflymderau rhyngrwyd llawer cyflymach, wrth i Lywodraeth y DU ddatrys yr wahanfa ddigidol yng Nghymru.

- Contract cyntaf Llywodraeth y DU wedi鈥檌 lofnodi yng Nghymru mewn bargen newydd anferthol i ddatrys y sefyllfa band eang gwael yng Nghymru, wrth i Gymru gofnodi鈥檙 lefelau cysylltedd gigabit isaf
- Bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau 拢170 miliwn i ddarparu isadeiledd digidol sy鈥檔 addas i鈥檙 dyfodol ac i sicrhau bod busnesau yng nghefn gwlad Cymru yn gallu ffynnu.
- Bydd tua 70,000 o gartrefi a busnesau mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru yn elwa o鈥檙 fargen y cytunwyd arno gydag Openreach.
Bydd degau o filoedd o gartrefi a busnesau yng Nghymru sy鈥檔 straffaglu i gyflawni tasgau ar-lein syml oherwydd isadeiledd band eang sydd wedi dyddio yn cael eu huwchraddio. Daw cyflymderau rhyngrwyd llawer cyflymach, wrth i Lywodraeth y DU ddatrys yr wahanfa ddigidol yng Nghymru.
Bydd oddeutu 拢170 miliwn yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth y DU i ddarparu gwasanaeth band eang o鈥檙 radd flaenaf sy鈥檔 鈥榞allu trosglwyddo data ar lefel gigabit鈥� i 70,000 o gartrefi a busnesau anghysbell yng Nghymru, wrth i ffigyrau ddangos bod y wlad wedi cofnodi鈥檙 lefelau cysylltedd gigabit isaf ym Mhrydain Fawr.
Bydd yn berthnasol i rai o鈥檙 ardaloedd mwyaf anghysbell yn y wlad, o Gymoedd De Cymru i Ben Ll欧n 鈥� fel bod gan drigolion a busnesau fynediad at y cysylltiad cyflymaf sydd ar gael ar y farchnad. Bydd hyn yn helpu i sicrhau cynhyrchiant gwell, fel rhan o genhadaeth y llywodraeth i roi hwb i dwf economaidd.
Dyma鈥檙 contract cyntaf gan Lywodraeth y DU dan Brosiect Gigabit i wella cysylltedd yng Nghymru, gan nad oedd wedi elwa o unrhyw gymorth yn hyn o beth yn flaenorol.
Bydd y fargen, sy鈥檔 rhan o gynllun ehangach Llywodraeth y DU a fydd yn neilltuo 拢800 miliwn i ddarparu cysylltedd gigabit ledled Prydain Fawr, yn darparu bang eang cyflym iawn sy鈥檔 gallu trosglwyddo data ar lefel gigabit i gymunedau yng Nghymru y byddai鈥檔 cael eu gadael gydag isadeiledd digidol gwael fel arall. Bydd yn helpu i fodloni鈥檙 galw cynyddol am gysylltedd dibynadwy, gan ysgogi econom茂au cymunedau gwledig lleol a lleihau gwahaniaethau rhwng rhanbarthau, trwy alluogi gweithio o bell a denu busnesau newydd. 聽
Mae鈥檙 cyhoeddiad yn dilyn addewid y Llywodraeth hon i ddyblu ei hymdrechion i gyflawni darpariaeth gigabit llawn erbyn 2030 a harneisio potensial enfawr technoleg i hybu arloesi a gwella bywydau pobl.聽
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, Peter Kyle:
O fewn wythnosau o gymryd yr awenau, rydym eisoes wedi cymryd camau i ddechrau darparu band eang cyflymach i ddegau o filoedd o bobl ledled Cymru. Mae llofnodi鈥檙 contract mawr hwn gydag Openreach yn sicrhau ein bod yn 么l ar y trywydd iawn i gyflawni darpariaeth gigabit llawn erbyn 2030.
Mae isadeiledd digidol cadarn yn hanfodol ar gyfer bod yn gystadleuol, cynhyrchiant a sicrhau twf, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu鈥檙 gwasanaeth hwn i gannoedd o filoedd o gartrefi a busnesau, yn canolbwyntio鈥檔 benodol ar ardaloedd sydd wedi cael eu hesgeuluso, fel Cymru.
Meddai鈥檙 Gweinidog Dros Isadeiledd Digidol, Chris Bryant:
Bydd cymunedau ledled Cymru yn elwa o鈥檔 bargen gydag Openreach, o ddisgyblion ifanc yn ei chael yn haws i gwblhau eu gwaith cartref i forwyr ym Mro Morgannwg yn teimlo bod ganddynt gysylltiadau gwell yn bersonol ac yn broffesiynol.聽
Mae鈥檙 Llywodraeth hon yn benderfynol ei bod am fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 gwahaniaethau rhanbarthol rydym wedi鈥檜 hetifeddu ac i ddarparu鈥檙 isadeiledd angenrheidiol fel bod pob cymuned yn gallu ffynnu, gan gynnwys yr isadeiledd digidol sy鈥檔 hanfodol yn ein byd heddiw.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
Rwy鈥檔 hapus iawn y bydd cymaint o bobl mewn ardaloedd anghysbell yng Nghymru yn elwa o鈥檙 fargen hon rhwng Llywodraeth y DU ac Openreach. Rydym i gyd yn fwyfwy dibynnol ar fang eang cyflym i weithio鈥檔 effeithlon, i gael mynediad at wasanaethau hanfodol ac i fwynhau ein hamser hamdden.
Ar hyn o bryd mae gennym ormod o bobl yng Nghymru, yn enwedig yn yr ardaloedd mwy anghysbell, nad ydynt yn gallu cael mynediad at y byd ar-lein, ac rwy鈥檔 hapus iawn bod y buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth y DU yn dechrau ar y gwaith i ddatrys hynny.
Bydd Prosiect Gigabit yn sbarduno twf economaidd, gan greu a chefnogi miloedd o swyddi medrus gyda chyflogau uchel, gan rymuso diwydiannau o bob math i arloesi a chynyddu cynhyrchiant trwy ddefnyddio technoleg ddigidol. Bydd hefyd yn sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau maen nhw eu hangen nawr ac yn y dyfodol, o roi mynediad gwell i ofal iechyd i gleifion trwy apwyntiadau rhithiol a monitro iechyd o bell 鈥� i helpu pensiynwyr i beidio 芒 theimlo鈥檔 unig trwy dreulio amser gydag anwyliaid drwy alwadau fideo o ansawdd uwch. 鈥�
Ar gyfer aelwydydd, mae bang eang sy鈥檔 trosglwyddo data ar lefel gigabit聽yn darparu cyflymder uwch a bydd llai o achosion o golli cysylltiad. Yn wahanol i rwydweithiau traddodiadol sy鈥檔 seiliedig ar gopr, ni fydd cysylltiadau gigabit yn arafu yn ystod y cyfnodau prysuraf, felly ni fydd rhaid ymladd dros led band gyda鈥檙 cymdogion. Mae rhwydweithiau gigabit yn gallu cynnal cannoedd o ddyfeisiau ar yr un pryd yn hawdd, heb unrhyw fyffro, felly bydd yr holl deulu yn gallu defnyddio鈥檙 we, ffrydio a lawrlwytho pethau ar yr un pryd.
Dywedodd Clive Selley, Prif Weithredwr Openreach:
Mae ymchwil yn dangos bod ffeibr llawn yn darparu nifer o fuddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol 鈥� ac rwy鈥檔 credu mai ni yw鈥檙 gorau yn y busnes am ei ddarparu.
Rwy鈥檔 falch iawn ein bod wedi cael ein dewis, yn dilyn proses gystadleuol iawn, ac rydym eisoes yn bwrw ymlaen gyda鈥檙 gwaith.
Mae hwn yn stori o lwyddiant ym maes isadeiledd Prydeinig. Mae ein rhwydwaith eisoes yn cyrraedd dros 15 miliwn o adeiladau dinesig a gwledig a, lle bynnag yr ydym yn adeiladu, rydym yn darparu鈥檙 dewis mwyaf eang o ddarparwyr i gwsmeriaid. Rwy鈥檔 hyderus y gallwn gyrraedd cymaint 芒 30 miliwn o gartrefi erbyn diwedd y ddegawd, os yw鈥檙 amodau yn parhau i fod yn gefnogol.
Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo trwy gontractau eraill Prosiect Gigabit i adeiladu rhwydweithiau ar gyfer 910,000 o adeiladau sy鈥檔 anodd eu cyrraedd ledled Lloegr. Mae dwsinau o gontractau sy鈥檔 cynrychioli buddsoddiad o fwy na 拢1.9 biliwn bellach wedi鈥檜 llofnodi a bydd 11 o ddarparwyr yn cyflawni鈥檙 uwchraddio, gan gynnwys nifer o ddarparwyr band eang bychain, annibynnol.鈥�
Bydd Trinity House, elusen sy鈥檔 gwarchod goleudai a chymhorthion mordwyo morol yng Nghymru a Lloegr yn elwa o鈥檙 buddsoddiad hwn. Bu i鈥檙 Prif Weithredwr, yr 脭l-lyngesydd Iain Lower, groesawu鈥檙 prosiect:
Fel sefydliad sy鈥檔 gweithio ym mannau anghysbell y wlad, rydym yn cymeradwyo cyflwyniad y prosiect hwn gan Openreach a鈥檙 Llywodraeth.鈥� Bydd cyflwyno鈥檙 prosiect hwn, ymysg pethau eraill, yn helpu ein timau gweithrediadau i weithio, cysylltu a byw鈥檔 well yn ein goleudai anghysbell. Bydd hwn yn welliant amhrisiadwy iddynt pan fyddant i ffwrdd o鈥檜 cartrefi a鈥檜 teuluoedd.聽
Gan edrych ar y buddion ehangach, mae amodau gwaith gwell yn helpu i sicrhau bod ein goleudai yn gweithio鈥檔 union fel y disgwylir iddynt weithio ar gyfer degau o filoedd o forwyr yn ein dyfroedd sy鈥檔 dibynnu ar ein cymhorthion mordwyo. Mae moroedd diogelach yn sicrhau bod gwlad sy鈥檔 ynys yn fwy llewyrchus, oherwydd ein bod yn dibynnu ar longau masnach i gludo 95% o鈥檙 nwyddau rydym yn eu defnyddio鈥檔 ddyddiol.
Diwedd
Mae data a ddarparwyd gan Think Broadband yn dangos bod Cymru ar ei h么l hi o gymharu 芒 chenhedloedd eraill Prydain Fawr, gyda dim ond 74% o ehangdir Cymru yn elwa o gysylltiad sy鈥檔 gallu trosglwyddo data ar lefel gigabit. Mae hyn yn cymharu ag 84% yn Lloegr, 78% yn Yr Alban a 95% yng Ngogledd Iwerddon.
Mae鈥檙 holl ffigyrau yn seiliedig ar y data diweddaraf sydd ar gael a ddarparwyd gan Ofcom a darparwyr band eang. Mae asiantaeth gyflawni bang eang y llywodraeth, Building Digital UK, yn defnyddio鈥檙 data i gyfrifo pa adeiladau na fydd wedi鈥檜 cysylltu trwy鈥檙 cyflwyno masnachol ac felly fydd angen cymhorthdal. Gall yr holl ffigyrau newid wrth i gynlluniau cyflwyno presennol ddatblygu ac wrth i drafodaethau am gwmpas contractau yn y dyfodol barhau.聽
Mae鈥檙 etholaethau fydd yn elwa o鈥檙 contract (鈥榗all off 2鈥�) a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys:聽Arfon, De Clwyd, Dwyfor Meirionnydd, Ceredigion, Sir Drefaldwyn, Aberhonddu a Sir Faesyfed, Mynwy, Torfaen, Gorllewin Casnewydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Gogledd Caerdydd, Canol Caerdydd, Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Merthyr Tudful a Rhymni, Ogwr, Islwyn, Pontypridd, Dyffryn Cynon, Rhondda, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr聽, Castell-nedd, Aberafan, Dwyrain Abertawe, Gorllewin Abertawe, G诺yr.
Bydd y cytundeb newydd yn golygu bod hyd at 拢800 miliwn o fuddsoddiad gan y llywodraeth ar gael o gyllid a oedd eisoes wedi鈥檌 ymrwymo i Brosiect Gigabit.
O dan y cytundeb, mae Openreach bellach wedi llofnodi contractau gwerth tua 拢280 miliwn i gysylltu tua 96,000 o gartrefi a busnesau.
Mae trafodaethau鈥檔 digwydd nawr gydag Openreach i gytuno ar gontractau pellach i gysylltu ardaloedd mwy anghysbell ledled Prydain, a bydd gennym ni fwy i鈥檞 ddweud ar y rhain yn y misoedd nesaf.
DSIT media enquiries
Email [email protected]
Monday to Friday, 8:30am to 6pm 020 7215 3000