鈥楥efnogwch Brydain鈥� wrth inni nesau at Brexit, fydd geiriau Davis i arweinwyr busnesau
Mewn araith yng nghinio blynyddol CBI Cymru ddydd Iau 1 Rhagfyr, cafodd arweinwyr busnesau Cymru eu hannog gan David Davis i gefnogi鈥檙 ffordd y mae Prydain yn mynd ati i drafod y modd y bydd yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

CBI Speech
Gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd (DExEU) i fusnesau fod yn hyderus am y dyfodol, wrth i鈥檙 D.U. geisio cael 鈥榩erthynas well, nid ysgariad chwerw鈥� gyda鈥檙 U.E.
Yn ei ail ymweliad 芒 Chaerdydd ers y refferendwm ym mis Mehefin, cafodd tua 400 o arweinwyr busnesau o amrywiaeth eang o sectorau eu hannerch gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn digwyddiad a gynhelir yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol:
Wrth adael, perthynas well nid ysgariad chwerw ydym ni eisiau. Dyna uchelgais y Llywodraeth.
Felly, cais syml sydd gennyf i chi, arweinwyr diwydiant yma yng Nghymru a ledled y D.U. Helpwch ni i ysgrifennu鈥檙 bennod newydd a chyffrous yma yn hanes y wlad.
Ychwanegu:
Yr her i ni yw llywio鈥檙 cyfnod o ansicrwydd anochel heb golli ein pennau, gyda synnwyr unedig o bwrpas a hyder.
Mae awgrymu y gallai鈥檙 Deyrnas Unedig rywsut wrthdroi ei phenderfyniad nid yn unig yn gamarweiniol ond mae hefyd mewn perygl o danseilio ein sefyllfa yn y trafodaethau ac o gynyddu ansicrwydd.
A byddai ail refferendwm yn ysgogi鈥檙 rhai sydd ar yr ochr arall yn y trafodaethau i roi鈥檙 fargen waethaf bosibl inni er mwyn ceisio gorfodi pobl Prydain i newid eu meddyliau.
Rhoddodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei araith ar 么l treulio鈥檙 diwrnod yn ne Cymru lle bu鈥檔 ymweld ag SPTS, y cynhyrchwyr lled-ddargludwyr yng Nghasnewydd, a鈥檙 busnes bach ac annibynnol, Elephant and Bun.
Ymunodd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cains, i glywed sut gall Llywodraeth y D.U. barhau i gefnogi busnesau Cymru cyn y trafodaethau i adael yr U.E.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Rydym yn wynebu heriau a chyfleoedd yn dilyn Brexit. Byddwn yn darparu bargen a fydd yn sicrhau bod ein hymadawiad 芒鈥檙 U.E. yn llwyddiannus i bob rhan o鈥檙 D.U., gan gynnwys Cymru.
Mae economi Cymru mewn cyflwr da ar gyfer y ffordd o鈥檔 blaenau ac mae鈥檔 parhau鈥檔 gryf yn y b么n, yn hynod gystadleuol ac yn agored ar gyfer busnes.
Dywedodd David Jones, Gweinidog DExEU:
Bydd gadael yr U.E. yn golygu mwy o gyfleoedd yng Nghymru i鈥檔 busnesau, i鈥檔 heconomi, i鈥檔 twristiaeth ac i鈥檔 prifysgolion.
Er mwyn i Gymru a鈥檙 D.U. fod yn llwyddiannus, mae angen i bob un ohonom weithio gyda鈥檌 gilydd i fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan Brexit. Dyna pam rwyf fi yma鈥檔 gwrando ar Lywodraeth Cymru a busnesau wrth inni baratoi ar gyfer y trafodaethau.