Aston Martin yn cyhoeddi y bydd yn buddsoddi鈥檔 sylweddol yng Nghymru
Stephen Crabb: Newyddion yn atgyfnerthu sefyllfa Cymru fel gwlad sy鈥檔 arloesi ac yn arwain yn y sector cerbydau.

Heddiw, mae鈥檙 cwmni cynhyrchu ceir o Brydain, Aston Martin, wedi cadarnhau ei fod wedi dewis Sain Tathan ym Morgannwg fel lleoliad ar gyfer ei ail ffatri cynhyrchu.
Bydd cerbyd moethus DBX newydd y cwmni yn cael ei gynhyrchu ar y safle, yn dilyn buddsoddiad a fydd yn creu 750 o swyddi uniongyrchol sgiliau uwch ac yn cefnogi 1,000 yn rhagor yn y gadwyn gyflenwi.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae鈥檙 cyhoeddiad heddiw yn hwb enfawr i Sain Tathan, i Gymru ac i鈥檙 diwydiant ceir ym Mhrydain. Mae鈥檔 enghraifft go iawn o鈥檙 hyn y mae modd ei gyflawni fel un genedl, gyda Llywodraethau鈥檙 DU a Chymru yn cydweithio i ddenu鈥檙 gweithgynhyrchwr hwn sy鈥檔 fawr ei fri i Gymru.
Mae鈥檙 penderfyniad hwn wedi atgyfnerthu sefyllfa Cymru fel gwlad sy鈥檔 arloesi ac yn arwain yn y sector cerbydau. Mae hefyd yn dangos pa mor gryf a chystadleuol yw ein sector gweithgynhyrchu, a鈥檙 sylfaen sgiliau lefel uchaf sy鈥檔 gyrru ein heconomi ymlaen.
鈥淏ydd Sain Tathan yn cyflwyno llu o gyfleoedd i Aston Martin. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld Sied Fawr yr Awyrennau鈥檔 cael ei thrawsnewid yn safle gweithgynhyrchu mawr, a gweld Cymru鈥檔 tynnu sylw at ei chyfraniad pwysig o ran adfywio鈥檙 diwydiant cerbydau yn y DU.
Bydd ffatri newydd Aston Martin yn Sain Tathan yn cymryd tua 90 erw, a bydd yn ailwampio rhai o鈥檙 cyfleusterau sy鈥檔 cael eu defnyddio ar y safle ar hyn o bryd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Bydd y gwaith adeiladu鈥檔 canolbwyntio ar drawsnewid y tair sied fawr i awyrennau yn safle鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan, a bwriedir i鈥檙 gwaith adeiladu ddechrau yn 2017, gyda鈥檙 gwaith o gynhyrchu cerbydau鈥檔 dechrau yn 2020.
Sain Tathan fydd yr unig safle cynhyrchu ar gyfer cerbyd newydd Aston Martin. Cafodd car cysyniadol o鈥檙 enw 鈥楧BX鈥� ei ddangos am y tro cyntaf yn gynnar yn 2015, ac roedd yn nodi bwriad a chyfeiriad y cwmni yn y rhan hon o鈥檙 farchnad foethus sy鈥檔 tyfu鈥檔 gyflym. Gyda mwy a mwy o alw am y mathau hyn o gerbydau mewn marchnadoedd fel China a鈥檙 Unol Daleithiau, disgwylir y bydd dros 90% o鈥檙 ceir a gaiff eu cynhyrchu yn Sain Tathan yn cael eu hallforio o鈥檙 Deyrnas Unedig.
Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron:
Mae Aston Martin yn frand eiconig ym Mhrydain, ac mae鈥檙 penderfyniad i fuddsoddi yma yn dangos gwir hyder yn ein heconomi. Gyda鈥檔 cryfderau economaidd a鈥檙 mynediad hwylus i farchnadoedd Ewrop, mae sector cerbydau鈥檙 DU yn ffynnu.
Mae鈥檔 un o鈥檙 rhai mwyaf yn Ewrop - a鈥檙 mwyaf cynhyrchiol - ac mae鈥檙 ffaith fod Aston yn creu hyd at 1,000 o swyddi newydd yng Nghymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr yn newyddion da iawn.