Y Lluoedd Arfog i gefnogi gwasanaethau ambiwlans Cymru
Bydd 184 aelod ychwanegol o鈥檙 Lluoedd Arfog ar gael i gefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o 4 Ionawr, yn cynyddu鈥檙 nifer i 313.

A member of the Armed Forces receives training from an ambulance driver in Wales in October
Bydd 184 aelod ychwanegol o鈥檙 Lluoedd Arfog ar gael i gefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, i gynyddu gwydnwch ymatebwyr brys yn ystod y gaeaf.
Mae 129 o staff milwrol wedi bod yn cefnogi鈥檙 gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru ers mis Hydref a bydd yr ychwanegiad diweddaraf o 184 o staff, a fydd yn cychwyn ar eu gwaith ar 4 Ionawr, yn cynyddu鈥檙 nifer i 313. Hefyd, mae鈥檙 dasg wedi ei hymestyn hyd ddiwedd Mawrth.
Bydd y staff milwrol - dynion a merched sydd wedi cael hyfforddiant trwyadl - yn cyfrannu at y gwasanaeth trwy weithredu fel gyrwyr ychwanegol. Bydd y gwaith hwn yn helpu i leddfu鈥檙 pwysau ar y gwasanaeth o ganlyniad i鈥檙 pandemig a sicrhau y gall yr ymddiriedolaeth ambiwlans barhau i ddarparu ei gwasanaeth hanfodol, yn cynnwys ymdrin 芒 galwadau lle mae bywydau unigolion yn y fantol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace:
Dros gyfnod yr 糯yl, bydd ein staff milwrol yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol i鈥檔 gwasanaethau brys pwrpasol ledled y DU i helpu i gadw cymunedau yn ddiogel.
Bydd cefnogaeth gan 184 aelod o staff milwrol ychwanegol yn sicrhau y gall gwasanaethau ambiwlans Cymru barhau i ddarparu gwasanaethau sy鈥檔 achub bywydau ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.
Dyma鈥檙 trydydd tro i鈥檙 Lluoedd Arfog gefnogi Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ers i鈥檙 pandemig gychwyn ym Mawrth 2020. Yn Ebrill 2020, lleolwyd 68 aelod o staff yng Nghymru ac yn Rhagfyr 2020, roedd 120 aelod o staff milwrol yn cefnogi staff Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yn cynnwys meddygon o鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn.
Meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Lluoedd Arfog y DU yn parhau i chwarae rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn Covid-19 ac rwy鈥檔 ddiolchgar iawn am eu hymroddiad a鈥檜 harbenigedd, gan eu bod unwaith eto yn cefnogi gwaith allweddol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Trwy gydol y pandemig, mae nifer mawr o staff milwrol wedi camu i鈥檙 adwy i gefnogi gwasanaethau iechyd ledled Cymru drwy ddosbarthu cyfarpar diogelu personol (PPE), gyrru ambiwlansau, cynorthwyo unedau profi cymunedol, a rhoi鈥檙 rhaglen frechu ar waith. Mae hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiwallu anghenion holl wledydd y Deyrnas Unedig.
Meddai Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:
Rydym yn ddiolchgar iawn y byddwn yn parhau i gael cefnogaeth y staff milwrol sydd eisoes wedi gwneud gwaith anhygoel yn ein cefnogi ar ddau achlysur blaenorol. Bydd cael cefnogaeth ein cydweithwyr o鈥檙 Lluoedd Arfog yn ein helpu i sicrhau bod mwy o ambiwlansau yn weithredol, fel y gallwn gyrraedd mwy o gleifion, a hynny鈥檔 gyflymach, tra bod y pwysau dwys iawn ar ein gwasanaethau yn parhau.
Y gaeaf yw ein cyfnod prysuraf a bydd cael cefnogaeth staff milwrol yn rhoi hwb i鈥檔 capasiti ac yn ein rhoi yn y sefyllfa orau bosibl i ddarparu gwasanaeth diogel i bobl Cymru.
Daw鈥檙 cynnydd diweddaraf yn y gefnogaeth filwrol wedi i 98 o staff milwrol gael eu rhyddhau i gefnogi鈥檙 rhaglen brechlynnau atgyfnerthu yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf. Bydd y Lluoedd Arfog yn gweithio i gefnogi鈥檙 Adran Iechyd a Llywodraeth Cymru i gyflymu鈥檙 rhaglen frechu Covid-19 ymysg ton o heintiau Omicron.
Bydd y staff yn ffurfio 14 t卯m o frechwyr a fydd yn rhoi hwb sylweddol i gynyddu capasiti. Byddant yn gymysgedd o weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd a pherson茅l sy鈥檔 cyflawni dyletswyddau cyffredinol. Byddant yn gweithio i gefnogi staff a gwirfoddolwyr , gan weinyddu brechlynnau a darparu arbenigedd cynllunio
Daw鈥檙 staff o unedau ledled y tri gwasanaeth 鈥� y Llynges Frenhinol, Y Fyddin Brydeinig a鈥檙 Llu Awyr Brenhinol 鈥� a byddant yn cael eu lleoli ym mhob un o鈥檙 saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru, gyda dau d卯m wedi eu neilltuo i bob Bwrdd Iechyd.
Mae rhai staff wedi bod yn cyflawni tasgau eraill yng Nghymru ers i鈥檙 pandemig gychwyn, yn cynnwys cynnal unedau profi cymunedol a dosbarthu cyfarpar diogelu personol.
Bellach mae 411 o staff milwrol ar gael i gefnogi tasgau Operation Rescript yng Nghymru, yr enw gweithredol a roddwyd i ddisgrifio gwaith y Weinyddiaeth Amddiffyn i gefnogi鈥檙 ymateb i鈥檙 pandemig ledled y DU.
Darperir y gefnogaeth trwy鈥檙 broses . Ers Mawrth 2020, mae鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ymateb i dros 440 o geisiadau MACA ledled y DU.
Mae鈥檙 Lluoedd Arfog yn barod i gefnogi awdurdodau sifil, gwledydd datganoledig a chymunedau fel sy鈥檔 ofynnol yn ystod y misoedd nesaf lle mae鈥檙 ceisiadau鈥檔 bodloni egwyddorion MACA.