Datganiad i'r wasg

Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig gadarn

Fil Cymru drafft yn cael ei gyhoeddi yn y Senedd

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government
Welsh flag

Bydd Bil newydd Cymru yn creu Cymru gryfach o fewn Teyrnas Unedig gadarn. Dyna fydd Stephen Crabb yn ei ddweud heddiw wrth i Fil Cymru drafft gael ei gyhoeddi yn y Senedd.

Mae鈥檙 Bil drafft yn datgan mewn manylder sut mae鈥檙 Llywodraeth yn bwriadu cyflawni ymrwymiadau Dydd G诺yl Dewi i greu setliad datganoli cryfach, cliriach a thecach i Gymru, i wrthsefyll pob her a ddaw yn y dyfodol.

Dyma鈥檙 prif fesurau:

  • model cadw pwerau fel y bo pobl Cymru鈥檔 gwybod yn union pa bwerau sydd gan y Cynulliad a鈥檜 bod yn gallu ei ddal i gyfrif.

  • pwerau newydd pwysig i Gymru dros ynni, trafnidiaeth a llywodraeth leol ac etholiadau鈥檙 Cynulliad.

  • mwy o bwerau i鈥檙 Cynulliad dros ei faterion ei hun, gan gynnwys y gallu i newid ei enw

Bydd Bil newydd Cymru yn gwneud i ddatganoli weithio鈥檔 well dros bobl Cymru. Bydd cael mwy o eglurder yngl欧n 芒 beth sydd wedi鈥檌 ddatganoli yn golygu llai o deithiau costus i鈥檙 Goruchaf Lys a mwy o amser i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar y materion sy鈥檔 cyfrif.

Mae鈥檙 Bil drafft yn elfen allweddol o鈥檙 pecyn radical o fesurau y mae鈥檙 Llywodraeth yn ei weithredu er mwyn rhoi sylfaen gadarn a hirhoedlog i ddatganoli Cymru.

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn craffu ar y Bil drafft cyn y broses ddeddfu, ac fe鈥檌 cyflwynir i鈥檙 Senedd yn y Flwyddyn Newydd. Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i drafod 芒 Llywodraeth Cymru fanylion y model cadw pwerau ochr yn ochr 芒鈥檙 broses o graffu cyn y broses ddeddfu.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru:

Mae Cymru wedi gwrthod yn gadarn y math o genedlaetholdeb a oedd yn bygwth rhannu ein Teyrnas Unedig y llynedd. Ond fel Ysgrifennydd Gwladol, rydw i鈥檔 cydnabod bod dyhead yng Nghymru am fwy o lais ym materion Cymru o fewn setliad datganoli cadarnach.

Mae鈥檙 setliad ar hyn o bryd yn ansefydlog ac yn aneglur a鈥檙 unig bobl sy鈥檔 elwa arno yw鈥檙 cyfreithwyr. Mae鈥檔 bryd inni gael setliad datganoli cadarn sy鈥檔 gweithio dros bobl Cymru.

Mae鈥檙 Bil drafft heddiw yn rhan o becyn cynhwysfawr a fydd, ochr yn ochr 芒鈥檔 hymrwymiadau i ddiogelu cyllid Cymru, yn datganoli cyfrifoldebau newydd a phwysig a fydd yn arwain at newid sylweddol mewn datganoli yng Nghymru.

Bydd Bil newydd Cymru yn gwneud yn union beth y dywedasom y byddai鈥檔 ei wneud: sef bodloni dyhead pobl Cymru am ddatganoli a chreu Cymru gryfach o fewn Teyrnas Unedig gadarn.

Gyda鈥檙 dangosyddion economaidd i gyd yn symud i鈥檙 cyfeiriad iawn, bellach mae gan Gymru gyfle euraid i symud ymlaen a chyflawni ei photensial fel cenedl flaengar sy鈥檔 rhagori ar yr holl ddisgwyliadau yn yr economi fyd-eang. Bydd Bil newydd Cymru yn gyfle i Gynulliad Cymru ganolbwyntio ar gyrraedd y nod hwnnw drwy roi terfyn ar yr holl ddadlau am ddatganoli sydd wedi nodweddu gwleidyddiaeth Cymru am ormod o amser.

Bydd llawer o drafod yn ystod y misoedd sydd i ddod ar fanylion y Bil a byddaf yn parhau i wrando鈥檔 ofalus. Ond os ydym o ddifri am fanteisio ar y cyfle yma i yrru ein cenedl yn ein blaen, mae鈥檔 rhaid i ni gydweithio i greu Bil Cymru cadarn sy鈥檔 gweithio dros bobl Cymru.

Nodiadau i olygyddion

  • Allwch gweld y Bil ddraft yma

  • Allwch ddarllen am Cytundeb Dydd Gwyl Dewi yma

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Hydref 2015