Datganiad i'r wasg

Adolygiad o Wariant sy鈥檔 fuddiol i Gymru

Stephen Crabb: "Mae cyhoeddiad heddiw yn cynnwys pecyn beiddgar o fesurau sy鈥檔 cyflawni ymrwymiadau ein maniffesto i gryfhau economi Cymru a chreu Llywodraeth gryfach a mwy atebol yng Nghymru"

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Heddiw, defnyddiodd y Canghellor George Osborne ei Adolygiad o Wariant a Datganiad yr Hydref i ddangos sut fydd yn darparu sicrwydd economaidd, sicrwydd cenedlaethol a chyfleoedd i deuluoedd yng Nghymru.

Mae cynllun economaidd y Llywodraeth yn parhau i weithio i bobl Cymru. Gwelwyd cynnydd o bron i 43,600 mewn cyflogaeth yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, sef y gyfradd cydradd gyflymaf yn y DU, ac mae diweithdra wedi lleihau 26% ers 2010.

Bydd grant bloc Llywodraeth Cymru yn cyrraedd bron i 拢15 biliwn erbyn 2019-20.

Cyhoeddodd yr Adolygiad o Wariant y bydd cynnydd o dros 拢900 miliwn yng nghyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru dros bum mlynedd, sef cynnydd o 16% mewn termau real, i gefnogi鈥檙 gwaith o fuddsoddi mewn prosiectau sy鈥檔 bwysig i economi Cymru.

Mae鈥檙 Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi deddfwriaeth ddrafft a fydd yn trosglwyddo Cymru i fodel datganoli newydd. Ar ddydd G诺yl Dewi eleni gwnaeth y Llywodraeth addewid pwysig, sef y byddai鈥檔 datganoli pwerau ychwanegol dros ynni, trafnidiaeth, yr amgylchedd ac etholiadau i Gynulliad Cymru.

Bydd Cymru yn elwa o fuddsoddiadau mawr mewn cytundebau datganoli a chyllidebau seilwaith, gan gynnwys:

  • Mesur cyllid canolog y pecyn Dydd G诺yl Dewi 鈥� cyflwyno 鈥楥yllid Gwaelodol鈥� newydd sydd wedi鈥檌 osod ar 115% ar gyfer y senedd hon. Mae hyn yn unol ag ystod 鈥渃yllid teg鈥� Comisiwn Holtham. O ganlyniad i鈥檙 cyllid gwaelodol, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i elwa os yw鈥檙 lefel o gyllid cymharol mae鈥檔 ei chael yn uwch na 115% y pen, a bydd yn elwa hefyd o鈥檙 sicrwydd na fydd yn disgyn o dan y lefel honno.
  • Mae Datganiad yr Hydref yn cyhoeddi y bydd y Llywodraeth yn deddfu i ddileu鈥檙 angen am refferendwm i gyflwyno cyfraddau Treth Incwm yng Nghymru, a fydd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn gallu cymryd mwy o gyfrifoldebau dros y modd mae鈥檔 codi arian a鈥檌 wario.
  • Mae鈥檙 penderfyniad i amddiffyn yr Heddlu mewn termau real yn golygu y bydd gan heddluoedd ledled Cymru yr arian sydd ei angen arnyn nhw i ddiogelu鈥檙 cyhoedd.
  • Hefyd rydyn ni鈥檔 ailddatgan y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cael benthyg hyd at 拢500 miliwn ar gyfer gwariant cyfalaf, gan ddechrau yn 2018, gyda mynediad cynnar at y pwerau benthyca hyn er mwyn cefnogi鈥檙 gwaith o gyflwyno ffordd liniaru鈥檙 M4.
  • Yn ogystal 芒 hyn, mae鈥檙 Adolygiad o Wariant yn datgan ymrwymiad mewn egwyddor y Llywodraeth i gefnogi cronfa seilwaith i Ranbarth Prifddinas Caerdydd.
  • Hefyd, bydd pobl Cymru yn elwa yn uniongyrchol o fesurau yn yr Adolygiad o Wariant hwn a Datganiad yr Hydref, a fydd yn cymryd cyfartaledd o 拢30 oddi ar filiau ynni tua miliwn o aelwydydd yng Nghymru o 2017/18 ymlaen, drwy gynllun rhwymedigaeth ar gyflenwyr domestig newydd a rhatach, a gwneud diwygiadau arfaethedig i gefnogi cynlluniau ar gyfer trydan carbon isel.

Dywedodd y Canghellor:

Heddiw, mae fy Adolygiad o Wariant yn rhoi sicrwydd yn gyntaf. Mae鈥檔 darparu sicrwydd economaidd i sicrhau nad yw Prydain yn gweithio mwy nag mae鈥檔 gallu ei fforddio, sicrwydd ariannol ar gyfer teuluoedd yng Nghymru, a sicrwydd cenedlaethol i bawb.

Rydyn ni鈥檔 cyflawni ein haddewid i gyflwyno cyllid gwaelodol yn yr Adolygiad o Wariant hwn, sy鈥檔 darparu lefel sicr o gyllid y pen yng Nghymru. Yn ogystal 芒 hyn, mae鈥檙 Adolygiad o Wariant yn cynnwys cynnydd yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru mewn termau real. Nawr, gall y ddadl symud ymlaen i drafod sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau i ddarparu gwasanaethau gwell i bobl Cymru.

Hefyd, rydw i鈥檔 cadarnhau ein cytundeb mewn egwyddor i gefnogi cronfa seilwaith i Ranbarth Prifddinas Caerdydd. Rwy鈥檔 edrych ymlaen i gael cynigion cadarn gan Gaerdydd a Llywodraeth Cymru a fydd yn helpu i sicrhau dyfodol economaidd un o ddinasoedd mawr y DU.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae鈥檙 Adolygiad o Wariant hwn yn bwysig i Gymru.

Nawr, does dim byd i atal Llywodraeth Cymru rhag bwrw ymlaen a defnyddio鈥檙 hawliau cyllidol newydd a phwysig rydyn ni wedi鈥檜 datganoli i dyfu economi Cymru a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Drwy ddileu鈥檙 angen am refferendwm ar dreth incwm bydd Cynulliad Cymru, o鈥檙 diwedd, yn cael lle ochr yn ochr 芒 deddfwrfeydd aeddfed eraill a bydd yn atebol i鈥檙 bobl mae鈥檔 eu gwasanaethu.

Drwy gyflawni ein haddewid i gyflwyno cyllid gwaelodol hanesyddol i Gymru, gan gynyddu cyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru ar yr un pryd, rydyn ni鈥檔 darparu鈥檙 adnoddau sydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru i gyflawni prosiectau pwysig yng Nghymru.

Mae cyhoeddiad heddiw yn cynnwys pecyn beiddgar o fesurau sy鈥檔 cyflawni ymrwymiadau ein maniffesto i gryfhau economi Cymru a chreu Llywodraeth gryfach a mwy atebol yng Nghymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 25 Tachwedd 2015