Datganiad i'r wasg

Ymrwymiad o 拢8 miliwn i brosiect twf ac adfywio Port Talbot

Bydd cynlluniau鈥檔 cynnal mwy na 100 o swyddi ac yn y pen draw yn cynhyrchu mwy nag 拢87 miliwn i economi De Cymru.

拢8.2 million more announced for growth and regeneration project in Port Talbot.

  • Bydd y cyntaf o鈥檙 prosiectau twf ac adfywio ym Mhort Talbot yn cael 拢8.2 miliwn gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot.
  • Bydd cynlluniau鈥檔 cynnal mwy na 100 o swyddi ac yn y pen draw yn cynhyrchu mwy nag 拢87 miliwn i economi De Cymru.
  • Mae Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot bellach wedi dyrannu 拢51 miliwn i鈥檙 gymuned leol.

Mae disgwyl i fwy na 100 o swyddi gael eu creu a鈥檜 cynnal gyda chyhoeddiad Llywodraeth y DU o 拢8.2 miliwn o gyllid ar gyfer y prosiect adfywio cyntaf ym Mhort Talbot, gyda phrosiectau eraill i ddilyn.聽

Wrth gadeirio cyfarfod diweddaraf Bwrdd Pontio Tata Steel Port Talbot heddiw (6 Chwefror) bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, yn cyhoeddi buddsoddiad o 拢8.2 miliwn ar gyfer Canolfan Pontio Diwydiannol o Garbon De Cymru (SWITCH) i gynnal mwy na 100 o swyddi.聽

Bydd prosiect Canolfan Pontio Diwydiannol o Garbon De Cymru yn ailddatblygu safle pedair erw yng Nglannau鈥檙 Harbwr, Port Talbot, a fydd yn cynnwys adeiladu gofod ychwanegol a rennir, gwaith lliniaru llifogydd a darparu offer arbenigol. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sefydlu Ardal Arloesi ym Mhort Talbot.聽

Bydd hyn yn caniat谩u datblygu cyfleuster newydd sy鈥檔 anelu at gefnogi鈥檙 diwydiant dur a metel a鈥檙 gadwyn gyflenwi i leihau allyriadau carbon wrth gynhyrchu. Disgwylir i鈥檙 cyfleuster greu a chynnal mwy na 100 o swyddi ac yn y pen draw bydd yn cynhyrchu 拢87 miliwn i economi De Cymru.

Daw鈥檙 cyllid diweddaraf o gronfa 拢80 miliwn Tata Steel / Bwrdd Pontio Port Talbot Llywodraeth y DU sydd, ers mis Gorffennaf diwethaf, wedi cyhoeddi buddsoddiad o 拢51 miliwn i gefnogi gweithwyr dur unigol a busnesau yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel i ddiogelu swyddi a thyfu鈥檙 economi leol. Y cyhoeddiad diweddaraf yw鈥檙 prosiect cyntaf i gefnogi twf ac adfywio鈥檙 rhanbarth. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd hyd at 拢30 miliwn (fel rhan o鈥檙 拢80 miliwn cyflawn) yn cael ei roi i brosiectau twf ac adfywio eraill.

Mae鈥檙 cyllid hwn yn cefnogi cenhadaeth Llywodraeth y DU i sbarduno twf economaidd a bydd yn helpu i gyflawni鈥檙 uchelgais i godi safonau byw ym mhob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig fel y nodir yn ei Chynllun ar gyfer Newid.聽

Meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:聽聽

Fe ddywedon ni y byddem ni鈥檔聽cefnogi cymuned Port Talbot trwy gydol cyfnod pontio Tata Steel ac rydyn ni鈥檔 parhau i wneud yn union hynny.

Mewn chwe mis yn unig mae鈥檙 Bwrdd Pontio wedi cyhoeddi buddsoddiad o dros 拢50 miliwn i gefnogi gweithwyr dur unigol a鈥檜 teuluoedd, busnesau yn y gadwyn gyflenwi a bellach ar brosiect adfywio mawr ar gyfer y dref.

Bydd rhagor o filiynau o bunnoedd yn dilyn a聽thra bod hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i weithwyr Tata, eu teuluoedd a鈥檙 gymuned, rydym yn benderfynol o gefnogi ein cymunedau dur beth bynnag sy鈥檔 digwydd.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo鈥檔 gyflym i ddatblygu ystod o ymyriadau llesiant ac iechyd meddwl. Bydd y gwaith hwn yn blaenoriaethu darparu cymorth iechyd meddwl, yn helpu i adeiladu cydlyniant cymunedol, yn cefnogi鈥檙 gwaith o gyflawni mentrau llesiant a chymorth gan gymheiriaid yn y gymuned leol gan gynnwys yr hyn a ddarperir ar hyn o bryd drwy鈥檙 gymuned leol a grwpiau cymorth eraill. Bydd聽cyllid聽i gefnogi鈥檙 gwaith hwn yn cael ei chyhoeddi yng nghyfarfod nesaf y bwrdd pontio.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar y buddsoddiad a fydd yn cael ei ddatgloi drwy鈥檙 Porthladd Rhydd Celtaidd a buddsoddiadau ac arloesedd eraill yr ydym yn eu cefnogi ym Mhort Talbot a鈥檙 cyffiniau.

Gan weithio ochr yn ochr 芒鈥檔 partneriaid ar y Bwrdd Pontio, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu cyfleoedd ar gyfer twf lle bynnag y maent yn codi yn ogystal 芒 gwneud yn si诺r bod y cymorth a鈥檙 gefnogaeth gywir yn eu lle ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan y newidiadau yn Tata.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt:

Rydym yn croesawu鈥檙 gyfran ychwanegol hon o gyllid gan y bydd y prosiect SWITCH yn denu swyddi a buddsoddiad i Gastell-nedd Port Talbot wrth iddo ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf. Mae hefyd yn golygu y gall yr ardal hon adeiladu ar ei hanes hir yn y diwydiannau dur a metelau wrth fynd i鈥檙 afael 芒 heriau ein hoes.

聽Dywedodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe:

Bydd SWITCH yn trosoli hanes Prifysgol Abertawe o uno academia, diwydiant, awdurdodau lleol, a llywodraeth. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn gwneud arbenigedd ymchwil ac arloesi Cymru hyd yn oed yn fwy hygyrch i fusnes a diwydiant, ac yn helpu i ysgogi twf economaidd, darparu cyflogaeth hirdymor a meithrin cymuned lewyrchus.

Mae Canolfan Pontio Diwydiannol o Garbon De Cymru (SWITCH) yn cynnal gwaith ymchwil i gefnogi鈥檙 broses o bontio datgarboneiddio diwydiannol. Bydd y cyhoeddiad hwn am gyllid y Bwrdd Pontio ar gyfer prosiect Glannau鈥檙 Harbwr SWITCH yn creu prif leoliad newydd ar gyfer SWITCH. Bydd hyn yn ychwanegu at gyllid o 拢20 miliwn i鈥檙 cyfleuster o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd hefyd yn cael ei hariannu鈥檔 rhannol gan Lywodraeth y DU.聽

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Chwefror 2025