Datganiad i'r wasg

拢60 miliwn i chwilio am y Peppa Pig, Art Attack a Desert Island Discs nesaf

Cronfeydd gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer radio a theledu yn y DU yn awr ar agor i dderbyn ceisiadau am arian

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Cartoon image of house and transmitter

Mae鈥檙 chwilio am y rhaglen fawr nesaf ym myd radio a theledu i bobl ifanc wedi dechrau wrth i鈥檙 broses gwneud cais am si芒r o gronfa鈥檙 Llywodraeth, gwerth 拢60 miliwn, agor heddiw. Sefydlwyd y gronfa gyda鈥檙 nod o roi hwb i sector radio a theledu鈥檙 DU.

Dros y ddegawd diwethaf, mae arlwy darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU ar y teledu i blant wedi bod yn mynd ar i lawr, gyda鈥檙 gwariant wedi gostwng tua 40% o鈥檌 gymharu 芒 2006.

O ganlyniad mae swmp sylweddol o鈥檙 rhaglenni ar sianeli plant bellach yn ailddarllediadau. Nod y Gronfa Cynnwys ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc (YACF), sy鈥檔 cael ei gweinyddu gan Sefydliad Ffilm Prydain (BFI), yw helpu i wrthdroi鈥檙 tueddiad hwnnw. Hon yw鈥檙 gronfa gyntaf o鈥檌 math i ganolbwyntio鈥檔 benodol ar deledu i bobl ifanc o dan 18 oed.

Defnyddir y Gronfa Cynnwys Sain (ACF) i gynhyrchu rhaglenni radio gwasanaeth cyhoeddus unigryw sydd, yn draddodiadol, yn anos i鈥檞 cefnogi鈥檔 fasnachol. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys rhaglenni dogfen, comedi, drama ac adloniant ysgafn.

Bydd y ddwy gronfa hefyd yn rhoi hwb i raglenni yn ieithoedd cynhenid y DU fel Cymraeg a Gaeleg, gyda鈥檙 nod o fuddsoddi pump y cant o鈥檙 holl gronfa yn y rhain.

Dywedodd y Gweinidog dros y Diwydiannau Creadigol a Digidol, Margot James:

Mae pobl ifanc yn y DU yn haeddu cael cynnwys o ansawdd uchel sy鈥檔 diddanu ac yn rhoi gwybodaeth ac sydd hefyd yn adlewyrchu eu profiadau nhw o dyfu i fyny ym mhob rhan o鈥檙 wlad heddiw.

Mae sector darlledu鈥檙 DU yn cyrraedd cannoedd ar filiynau o bobl o bob oed ledled y byd ac mae鈥檔 stori llwyddiant ysgubol rydym yn falch ohoni, ac yn haeddiannol felly. Mae鈥檙 prosiect arloesol hwn yn rhan annatod o鈥檔 cefnogaeth barhaus i sector cyfryngau llewyrchus y DU, ac rydym am ei weld yn mynd o nerth i nerth.

Bydd yr YACF a鈥檙 ACF yn fuddsoddiad pendant a fydd yn rhoi hwb i鈥檞 sectorau perthnasol drwy greu llwybrau newydd i grewyr cynnwys gwreiddiol a dod 芒 lleisiau newydd i鈥檙 farchnad.

Dywedodd Sam Bailey, Rheolwr Gyfarwyddwr y Gronfa Cynnwys Sain:

Rydym yn teimlo鈥檔 gyffrous iawn ynghylch dechrau cael ceisiadau ar gyfer y Gronfa Cynnwys Sain. Bydd yn ddiddorol iawn gweld y syniadau gwych sydd gan y sector cynhyrchu sain i鈥檞 cynnig, a ble y gall y gronfa wneud gwahaniaeth ar orsafoedd radio cymunedol a masnachol y DU.

Mae鈥檔 amlwg bod yr ACF yn mynd i ddatblygu cydweithrediad creadigol rhwng rhannau o鈥檔 cymuned na fyddai fel arall, efallai, yn cael y cyfle i gydweithio. Rydym yn edrych ymlaen at glywed rhaglenni radio arloesol sy鈥檔 rhoi llwyfan i leisiau newydd ac amrywiol ym mhob rhan o鈥檙 DU.

Dywedodd Jackie Edwards, Pennaeth y Gronfa Cynnwys ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc yn BFI:

Mae鈥檔 gymaint o wefr i agor y drysau i鈥檙 Gronfa, ac yn fraint cael helpu i gefnogi鈥檙 gwaith o ddatblygu a chynhyrchu rhaglenni teledu arloesol a gwych sy鈥檔 adlewyrchu bywydau plant ym mhob rhan o鈥檙 DU mewn modd unigryw. Diolch i fuddsoddiad Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, mae gan y Gronfa hon y p诺er i greu effaith ddiwylliannol wirioneddol yn y wlad hon drwy feithrin creadigrwydd, helpu i dyfu a diogelu鈥檙 diwydiant Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ac, yn well na dim, creu cynnwys cyffrous, buddiol ac anogol y bydd y gynulleidfa yn ei drysori am byth.

Mae gwybodaeth am sut i wneud cais a beth mae鈥檙 gweinyddwyr yn chwilio amdano ar gael ar wefannau鈥檙 BFI a鈥檙 ACF .

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

  • Yn 2016, roedd 98% o鈥檙 rhaglenni i blant ar sianeli plant masnachol a 91% o鈥檙 rhaglenni ar sianeli darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ailddarllediadau.
  • Yn 2017, canfu Ofcom fod dros 40% o bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed yn teimlo nad oedd y rhaglenni roeddynt yn eu gwylio yn adlewyrchu eu bywydau.
  • Mae lefelau cynhyrchu rhaglenni newydd i blant wedi mynd i lawr dros y ddegawd diwethaf, gyda darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn gwario tua 40% yn llai nag a wnaethant yn 2006 (拢70 miliwn yn 2017 o鈥檌 gymharu 芒 拢116 miliwn yn 2006).
  • Mae 65% o oedolion yn y DU (dros 35 miliwn o bobl) yn gwrando ar radio masnachol bob wythnos.
  • Mae gorsafoedd radio masnachol yn darlledu 13 awr o raglenni gwasanaeth cyhoeddus ar gyfartaledd bob wythnos. Rhaglenni newyddion a chwaraeon, teithio, tywydd, apeliadau elusennau a digwyddiadau lleol yw鈥檙 rhain yn bennaf.
  • Nod y cynllun peilot hefyd yw ysgogi mwy o amrywiaeth yn y farchnad lle y gwelir mai鈥檙 BBC yn aml yw鈥檙 prynwr a鈥檙 darlledwr pennaf yng nghyswllt rhaglenni plant. Yn 2016, y BBC oedd yn gyfrifol am 87% o鈥檙 rhaglenni plant a wnaed yn y DU a oedd yn cael eu darlledu am y tro cyntaf gan Ddarlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2019