Hwb o 拢44 miliwn i helpu prosiectau ymchwil a datblygu rhanbarthol yn ne Cymru
Bydd prosiect mawr newydd yn Ne Cymru yn sbardun i arloesi mewn sectorau allweddol o gyfathrebu i gerbydau awtonomaidd

compound semi-conductor
- Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth, ei nod yw helpu uwchsgilio busnesau gweithgynhyrchu Cymru i ddarparu technolegau yn y dyfodol
- Prosiect yn rhan o dros 拢400 miliwn o gyllid gan y llywodraeth a diwydiant ar gyfer prosiectau arloesol ymchwil a datblygu ledled y DU
Heddiw (26 Mehefin) mae prosiect mawr newydd yn ne Cymru sy鈥檔 cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd o鈥檙 enw CSconnected wedi derbyn 拢44miliwn gan Llywodraeth y DU a diwydiant.
Bydd yr arian yn cryfhau diwydiannau datblygol yn Ne Cymru gan gyflwyno datblygiadau technolegol mawr mewn meysydd fel cyfathrebu, 5G, cerbydau awtonomaidd a theclynnau meddygol.
Bydd y prosiect yn helpu i sefydlu clwstwr o ragoriaeth ym maes gweithgynhyrchu, gan gynnwys Academi Sgiliau newydd i ddarparu hyfforddiant mewn gweithgynhyrchu a thechnoleg i fusnesau cyfrwng-bach yn y rhanbarth, ac yn bartneriaeth rhwng brifysgolion Abertawe a Chaerdydd 芒 chwe chwmni gweithgynhyrchu blaenllaw yng Nghymru.
Dywedodd Alok Sharma yr Ysgrifennydd Busnes:
Mae diwydiannau ymchwil a datblygu y DU yn Ne Cymru yn allweddol i ail-danio ein heconomi.
Gyda鈥檙 buddsoddiad mawr hwn o 拢44 miliwn, rydym yn cefnogi rhai o wyddonwyr ac ymchwilwyr gorau鈥檙 rhanbarth, wrth iddynt weithio i hyrwyddo arloesedd mewn sectorau sy鈥檔 amrywio o gyfathrebu i gerbydau ymreolaethol.
Mae鈥檙 gwaith ymchwil arloesol hwn rydym yn ei gefnogi nid yn unig yn dda i ddefnyddwyr, ond bydd hefyd yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer swyddi ledled de Cymru.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Bydd ein buddsoddiad o 拢44 miliwn yn y prosiect dan arweinyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn rhoi hwb i鈥檙 ymchwil anhygoel sydd eisoes yn cael ei wneud yn y maes hwn ar draws de-ddwyrain Cymru.
Mae buddsoddi yn y dechnoleg ddatblygol hon yn ein galluogi i greu gwaddol o beiriannu a gweithgynhyrchu yng Nghymru a fydd yn parhau am amser maith, ac yn creu swyddi gyda sgiliau uchel a thwf economaidd wrth i ni ddod allan o鈥檙 argyfwng coronafeirws.
Dywedodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
Mae hyn yn gyflawniad arbennig yn wyneb cefndir o heriau economaidd sylweddol 鈥� mae鈥檔 symbol o鈥檙 gobaith a鈥檙 cyfle sydd o鈥檔 blaenau.
Mae hwn yn ddiwydiant y dyfodol ac yn arwyddocaol o ran cefnogi twf mewn telegyfathrebu, 5G, cyfathrebu, systemau egni i鈥檙 dyfodol, moduro a thechnoleg meddygol y dyfodol.
Mae鈥檙 buddsoddiad yn rhan o Gronfa flaenllaw Llywodraeth y DU ar Gryfder Mewn Llefydd (Stength in Places Fund) gyda鈥檌 hamcan o yrru ymchwil ac arloesedd sy鈥檔 cael effaith amlwg ar dwf economaidd lleol. Bydd prosiectau ledled y DU yn elwa o gyfran o鈥檙 拢186 miliwn o fuddsoddiad y llywodraeth, gyda chymorth ychwanegol o 拢230 miliwn gan gwmniau preifat ac awdurdodau lleol.
Mae鈥檙 datganiad hefyd yn dilyn Llywodraeth y DU yn dwblu ei buddsoddiad yn y Gystadleuaeth Dechrau Cyflym (Fast Start Competition) i 拢40 miliwn i gynorthwyo gyda gyrru datblygiadau technolegol ymlaen ac i gefnogi鈥檙 genhedlaeth nesaf o fusnesau arloesol yn y DU.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Bydd y prosiect gyda chlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd De Cymru gwerth 拢43.7 miliwn yn cael ei gefnogi gan 拢25.44 miliwn o gyllid gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa flaenllaw Llywodraeth y DU, Cryfder Mewn Llefydd (Stength in Places Fund).
Bydd Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda phartneriaid ar draws De Cymru gan gynnwys:
- Prifysgol Abertawe
- Cyngor Caerdydd
- Llywodraeth Cymru
- Compound Semiconductor Centre Limited
- Microsemi Semiconductor Limited
- IQE PLC
- Newport Wafer Fab Ltd
- SPTS Technologies Limited
- Compound Semiconductor Applications Catapult Limited
- Microlink Devices UK Ltd
-
Rockley Photonics Limited
- Mae鈥檙 project sy鈥檔 cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd yn un o saith prosiect sy鈥檔 derbyn cyllid 鈥� gan helpu i greu miloedd o swyddi a hybu ymchwil ac arloesedd o鈥檙 radd flaenaf ym mhob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig.
Y chwe phrosiect arall sy鈥檔 derbyn cyllid yw:
- 拢114 miliwn ar gyfer consortiwm dan arweinyddiaeth Ysgol Feddygaeth Drofannol Lerwpl sydd yn sicrhau bod cynnyrch a datrysiadau gofal iechyd newydd ac arloesol ar gyfer heintiau dynol ar gael yn gynt ac yn rhatach ar gyfer pobl yn y Gogledd Orllewin. Gall hyn helpu i wneud y gwaith diagnosis yn haws, lleihau yr angen i dynnu gwaed a lleihau y risg sy鈥檔 codi o nodwyddau wedi eu heintio.
- 拢55 miliwn ar gyfer Prifysgol Caeredin i gynorthwyo i wella bywydau pobl yn yr Alban trwy ymchwil i ddeall ymddygiadau ariannol a helpu i ymdrin gyda heriau ariannol megis cael gafael ar gredyd, perchenogaeth eiddo a chynilo arian.
- 拢46 miliwn ar gyfer consortiwm dan arweinyddiaeth Prifysgol Bryste i gefnogi dulliau digidol newydd o wneud ffilmiau yn y De Orllewin gan gynnwys profiadau newydd mewn creu ffuglen, rhaglenni nodwedd, gemau a pherfformiadau byw.
- 拢33 miliwn ar gyfer consortiwm dan arweinyddiaeth yr Institiwt Cenedlaethol ar Fotaneg Amaethyddol ar gyfer cynyddu鈥檙 buddsoddiad mewn technolegau datblygol yn y De Ddwyrain megis Deallusrwydd Artiffisial (AI), awtomatiaeth a phecynnu clyfar ar gyfer cynhyrchu bwyd i gynorthwyo gyda gwella effeithlonrwydd, lleihau gwastraff a chynhyrchu cynnyrch sy鈥檔 saff, fforddiadwy a maethlon.
- 拢91 miliwn ar gyfer consortiwm dan arweinyddiaeth Prifysgol Glasgow i gynorthwyo gyda gyrru twf economaidd yn Glasgow trwy roi ar waith ddulliau newydd mewn Meddygaeth Fanwl sy鈥檔 galluogi meddygon i ddewis triniaethau ar gyfer cleifion sy鈥檔 seiliedig ar eneteg yr afiechyd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau effeithlonrwydd barhaus a deilliannau iechyd gwell i鈥檙 cleifion, mewn meysydd megis tr茂n ymatebion andwyol i feddyginiaethau ac adnabod y cyfuniad o gyffuriau mwyaf effeithiol ar gyfer person.
- 拢63 miliwn ar gyfer consortiwm dan arweinyddiaeth Artemis Technologies Cyf i ddatblygu technolegau di-allyriadau yng Ngogledd Iwerddon i gyflwyno hybridiau gwynt-trydan ar gyfer llongau morol, gan gynnwys cynllun tacsi d诺r di-allyriadau.