Stori newyddion

Bydd 拢28 miliwn o gyllid yn helpu i gadw mannau addoli yn ddiogel

Bydd y cyllid yn helpu i ddiogelu cymunedau ffydd rhag bygythiad troseddau casineb ac ymosodiadau terfysgol.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government

Bydd mannau addoli yn cael 拢28 miliwn o gyllid i helpu i鈥檞 cadw nhw a鈥檜 mynychwyr yn ddiogel, cyhoeddodd y Gweinidog Diogelwch heddiw (21 Mehefin 2023).

Mae鈥檙 cyllid ar gael eleni drwy ddau gynllun, ac mae modd cyflwyno ceisiadau nawr.

Mae鈥檙 cyllid yn rhan o ymrwymiad y llywodraeth i sicrhau bod cymunedau ffydd yng Nghymru a Lloegr yn cael eu gwarchod rhag bygythiad troseddau casineb ac ymosodiadau terfysgol, a鈥檜 bod yn gallu ymarfer eu ffydd yn rhydd a heb ofn.

Mae鈥檙 arian ar gyfer diogelwch amddiffynnol ffisegol, fel teledu cylch cyfyng, larymau tresmaswyr a ffensys diogel i helpu i ddiogelu mosgiau, eglwysi, temlau, gwrdwaras a mannau addoli eraill. Bydd Mosgiau hefyd yn gallu cael mynediad at gynllun gwarchodaeth diogelwch newydd yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Dywedodd y Gweinidog Diogelwch, Tom Tugendhat:

Mae rhyddid cred grefyddol a鈥檙 rhyddid i addoli yn hanfodol.

Byddwn yn amddiffyn yn erbyn unrhyw fath o gasineb sy鈥檔 targedu ein cymunedau, ac rydym wedi ymrwymo i ddiogelu pob ffydd.

Rwy鈥檔 annog unrhyw fan addoli sy鈥檔 teimlo y byddai angen cymorth arnynt i wneud cais o dan y cynlluniau.

I wneud cais am gyllid, dylai ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth o ba mor agored i niwed ydynt a鈥檜 profiad o droseddau casineb. Mae鈥檙 cyfnod ymgeisio ar agor am 8 wythnos, a byddwn yn rhoi gwybod i safleoedd llwyddiannus o fis Tachwedd 2023 ymlaen.

Yn 2021/22, cafodd dau o bob pump (42%) o droseddau casineb crefyddol a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr eu targedu yn erbyn Mwslimiaid. Eleni, bydd hyd at 拢24.5 miliwn ar gael eto i amddiffyn mosgiau ac ysgolion ffydd Mwslimaidd.

Bydd y warchodaeth hon drwy gynllun newydd o鈥檙 enw 鈥楥ynllun Diogelwch Amddiffynnol i Fosgiau鈥� a chynllun ar gyfer ysgolion ffydd Mwslimaidd a lansiwyd yn uniongyrchol i athrawon ysgolion cymwys yn gynharach yn y flwyddyn. Bydd 拢3.5 miliwn o gyllid ychwanegol hefyd ar gael ar gyfer pob ffydd arall (nad yw鈥檔 Fwslimaidd nac yn Iddewig) drwy鈥檙 鈥楥ynllun Ariannu Diogelwch Amddiffynnol i Fannau Addoli鈥�.

Mae鈥檙 gymuned Iddewig yn parhau i dderbyn cyllid ar gyfer ysgolion Iddewig, synagogau a safleoedd cymunedol eraill trwy gynllun ar wah芒n o鈥檙 enw Grant Diogelwch Amddiffynnol i鈥檙 Gymuned Iddewig, a gynyddwyd 拢1 miliwn yn gynharach eleni.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Gorffennaf 2023 show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.