Gallai 拢20m ddarparu gorsafoedd rheilffordd newydd i gymunedau yng Nghymru
Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar gryfhau cysylltiadau rheilffordd drwy fuddsoddi mewn gorsafoedd newydd ac adfer gorsafoedd gwag

Train station
- Rhan o gymhelliant 拢500m Llywodraeth y DU i adfer toriadau Beeching yn y 1960au, lle caewyd dros 2300 o orsafoedd.
- Mae dwy orsaf newydd eisoes wedi鈥檜 hagor yng Nghymru drwy鈥檙 gronfa hon - Pye Corner a agorodd ym mis Rhagfyr 2014, a Bow Street yng Ngheredigion fydd yn agor yn hwyrach eleni.
Cyhoeddodd Gweinidog Rheilffyrdd Llywodraeth y DU heddiw (28 Chwefror) y gallai trefi a dinasoedd ledled Cymru weld gorsafoedd newydd yn cael eu hadeiladu a hen gysylltiadau yn cael eu hadfer i鈥檞 hen ogoniant, diolch i gronfa 拢20m i roi hwb i gysylltiadau rheilffordd ar draws y wlad.
Dim ond un rhan o ymgyrch 拢500m Llywodraeth y DU yw hon i ailagor hen orsafoedd a hen lwybrau a gaewyd yn ystod toriadau Beeching, ac mae鈥檔 nodi ein hymrwymiad i lefelu seilwaith trafnidiaeth ar draws y wlad i wella cysylltiadau rhwng cymunedau a datgloi twf economaidd mewn trefi, dinasoedd a rhanbarthau, fel bod pawb yn gallu cael mynediad i鈥檙 cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Mae teithwyr yng Nghymru eisoes wedi elwa o gyllid i adeiladu dwy orsaf newydd, yng Nghasnewydd a Cheredigion.
Gall awdurdodau lleol wneud cais am y cyllid, gyda chymunedau ledled Cymru yn cael eu hannog i ymgeisio.
Dywedodd y Gweinidog Rheilffyrdd Chris Heaton-Harris:
Mae gorsafoedd rheilffordd gwag yn arwydd o鈥檙 trefi sydd wedi鈥檜 gadael ar 么l ers llawer rhy hir. Rydym yn benderfynol o ailgysylltu cymunedau a gwella siwrneiau, ac mae鈥檙 miloedd o deithwyr sydd eisoes yn defnyddio Pye Corner yn brawf o bwysigrwydd buddsoddi yn ein rheilffyrdd.
Bydd y cyllid newydd hwn yn adfer gorsafoedd lleol i鈥檞 hen ogoniant, ac yn adeiladu rhai newydd, gan sefydlu cysylltiadau hollbwysig i gymunedau a chryfhau cysylltiadau ar draws ein hundeb.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae buddsoddi mewn trafnidiaeth a gwella gwasanaethau i bobl yn gam allweddol ymlaen o ran cynyddu cyfleoedd ar draws Cymru ac i gysylltu pob rhan o鈥檙 wlad yn well.
Bydd adeiladu gorsafoedd newydd yng Nghymru yn rhoi hwb i dwf economaidd ym mhob cwr o鈥檙 wlad, gan hyrwyddo adfywio a chreu swyddi newydd.
Trydedd rownd y 鈥楪ronfa Gorsafoedd Newydd鈥� yw鈥檙 cyllid newydd 拢20m, ac mae鈥檔 dilyn lansiad 鈥楥ronfa Adfer Toriadau Beeching鈥�, sy鈥檔 ceisio dod 芒鈥檙 cysylltiadau rheilffordd sydd eu hangen yn 么l i lefelu mynediad at gyfleoedd a chefnogi econom茂au lleol i ffynnu.
Mae 拢40m o gyllid eisoes wedi鈥檌 fuddsoddi i adeiladu deg o orsafoedd newydd ar draws Cymru a Lloegr, gan gynnwys Pye Corner yng Nghasnewydd, a ddenodd 125,692 o deithwyr yn 2018/19. Mae cyllid hefyd wedi鈥檌 neilltuo i adeiladu gorsaf ym mhentref Bow Street yng Ngheredigion, fydd yn helpu i leihau tagfeydd traffig ar y ffordd i mewn i Aberystwyth.