Datganiad i'r wasg

Buddsoddiad o 拢1 biliwn yn sicrhau dros 300 o swyddi yn y Gogledd

Mae Llywodraeth y DU a Chymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o 拢1 biliwn i Felin Shotton yng Ngogledd Cymru.

  • Buddsoddiad mawr yng Nglannau Dyfrdwy yn diogelu 147 o swyddi a chreu 220 arall.
  • Melin Shotton fydd y gwneuthurwr papur wedi鈥檌 ailgylchu mwyaf yn y DU gan helpu鈥檙 newid i sero net yn y DU a chreu swyddi yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol.
  • Perthynas gryfach rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn rhoi hwb i鈥檙 economi leol.
  • Daw cyhoeddiad cyn yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi a fydd yn dod ag arweinwyr busnes rhyngwladol ynghyd i hybu twf.

Bydd y buddsoddiad mawr o dros 拢1 biliwn i ailddatblygu Melin Shotton yng Nglannau Dyfrdwy yn y Gogledd yn diogelu 147 o swyddi ac yn creu 220 o swyddi newydd pan fydd y datblygiad ar ei anterth, meddai llywodraethau鈥檙 DU a Chymru heddiw [dydd Iau 26 Medi].

Bydd gweinidogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ymweld 芒鈥檙 ganolfan ddiwydiannol hanesyddol i gwrdd ag aelodau Eren Holdings, a brynodd Melin Shotton yn 2021. Yno, byddant yn clywed mwy am y聽 trawsnewidiad sydd wedi digwydd i鈥檙 safle, a fydd yn ei droi i fod y ffatri bapur fwyaf yn y DU.

Daw鈥檙 cyhoeddiad cyn yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi fis nesaf a fydd yn ei gwneud yn glir bod y DU 鈥渁r agor i fusnes鈥� wrth i lywodraeth y DU bennu o鈥檙 newydd ei pherthynas 芒 phartneriaid masnachu ledled y byd a chreu amgylchedd gartref sy鈥檔 cefnogi busnes, arloesedd a swyddi o ansawdd uchel ac a fydd yn chwarae rhan allweddol i gynnal y twf di-dor mwyaf o holl wledydd y G7.

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron 拢13 miliwn o gyllid, hynny ynghyd 芒鈥檙 拢136 miliwn o gymorth y bydd UK Export Finance (UKEF), asiantaeth credyd allforio llywodraeth y DU, yn ei roi.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach, Jonathan Reynolds:

Mae hyn yn arwydd clir o鈥檔 hyder yn economi Cymru ac mae鈥檙 llywodraeth hon yn bwriadu gwneud Prydain y wlad y bydd busnesau yn dewis buddsoddi yn niwydiannau鈥檙 dyfodol ynddi. Bydd y buddsoddiad trawsnewidiol hwn nid yn unig yn cynnal swyddi crefftus lleol ond yn codi safonau byw y gymuned hefyd.

Mae鈥檙 cytundeb sy鈥檔 cael ei gyhoeddi heddiw yn dyst i鈥檙 hyn all ddod o gael llywodraethau Cymru a鈥檙 DU yn cydweithio 芒鈥檌 gilydd.

Rydym hefyd yn falch o ddathlu鈥檙 Diwrnod Gweithgynhyrchu Cenedlaethol, i gydnabod yr arloesi aruthrol sy鈥檔 digwydd ar draws y sector, yn enwedig yma ym Melin Shotton.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

Mae gan Lannau Dyfrdwy hanes hir a balch fel un o brif ardaloedd diwydiannol Cymru a bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan y ddwy lywodraeth yn sicrhau swyddi ac yn helpu i ddod 芒 dyfodol llewyrchus i鈥檙 ardal.

Rydym wedi ailbennu鈥檙 berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Drwy weithio gyda鈥檔 gilydd mewn partneriaeth agos, rydym yn darparu twf a swyddi da i bobl ledled Cymru.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

Mae hyn yn newyddion gwych i Lannau Dyfrdwy ac economi ehangach Cymru ac mae鈥檔 enghraifft dda o sut y gallwn, trwy ein hymrwymiad i economi werdd ffyniannus, ddenu buddsoddiad a chreu swyddi da a chynaliadwy. A lleihau gwastraff yr un pryd.

Unwaith y bydd y cyfan ar waith, yn hytrach na chludo papur gwastraff gannoedd neu filoedd o filltiroedd dramor i gael ei brosesu, caiff ei droi鈥檔 ddeunydd pecynnu wedi鈥檌 ailgylchu yma yng Nghymru. Bydd hynny, a chyda natur y dechnoleg, yn golygu gostyngiad net mewn allyriadau carbon sy鈥檔 cyfateb i allyriadau 190,000 o gartrefi鈥檙 flwyddyn.

Bydd ein cymorth ariannol o 拢13 miliwn yn helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd gan ddiogelu a chreu swyddi lleol a sicrhau bod y gymuned yn ganolog i lwyddiant y busnes am flynyddoedd lawer i ddod.

Mae Eren Holding o Dwrci yn gwmni cynhyrchu cynwysyddion a chardbord rhychiog ac mae鈥檔 cael ei ystyried yn un o brif gynhyrchwyr Ewrop. Bydd ei gynlluniau鈥檔 golygu mai Melin Shotton fydd ffatri bapur fwyaf y DU. Bydd hynny鈥檔 hwb i gynhyrchu papur yn y DU drwy ailgylchu papur gwastraff a fyddai fel arall yn mynd dramor neu i safleoedd tirlenwi.

Bydd bron i 100% o鈥檙 papur a gynhyrchir gan y ffatri yn bapur wedi鈥檌 ailgylchu. Mae ei fodel cynhyrchu yn un eco-gyfeillgar gan ei fod yn puro ei dd诺r gwastraff ei hun ac yn ei ailddefnyddio yn y system. Drwy hynny, bydd yn helpu i greu swyddi da sy鈥檔 talu鈥檔 dda yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol.

Gwnaeth UKEF helpu trwy roi gwarant, i HSBC a Credit Suisse allu trefnu arian i gyllido dyledion y prosiect.

Mae disgwyl i fuddsoddiad Eren hybu allforion papur Cymru a鈥檙 DU, a chynigiodd UKEF ei gefnogaeth ar yr amod y byddai Melin Shotton yn allforio 10% o鈥檌 drosiant ymhen 5 mlynedd. Disgwylir i hyn hefyd leihau dibyniaeth y DU ar fewnforion papur.

Dywedodd Hamdullah Eren, Uwch-aelod o fwrdd gr诺p Eren Holding:

Production at our new plant at Shotton Mill will be based on state-of-the-art technology, making this the most advanced paper campus in Europe. Our custom-built plant will deliver sophisticated and sustainable manufacturing solutions well into the 21st century.

Dyma brosiect cyfalaf mawr cyntaf Eren Holding y tu allan i T眉rkiye ac rydyn ni鈥檔 hapus iawn ein bod wedi dewis Glannau Dyfrdwy fel lleoliad perffaith i wireddu鈥檔 huchelgais i dyfu. Rydyn ni鈥檔 gosod gwreiddiau dwfn ar safle o arwyddoc芒d diwydiannol hanesyddol.

Rydyn ni鈥檔 credu y daw鈥檙 ffatri 芒 ffyniant a swyddi tymor hir a fydd yn destun balchder i Lannau Dyfrdwy gan ei gwneud yn arweinydd yn ein diwydiant.

Mae Gogledd-ddwyrain Cymru yn ganolfan ddiwydiannol allweddol, a Glannau Dyfrdwy yw un o鈥檙 parciau diwydiannol mwyaf yn Ewrop. Ar un adeg roedd gwaith dur Shotton yn gweithio ar y safle, ac felly mae鈥檙 felin yn Shotton wedi gweld dros 100 mlynedd o weithgarwch diwydiannol.

Mae鈥檙 buddsoddiad yn dod 芒 bywyd newydd i鈥檙 safle a sefydlogrwydd economaidd i Lannau Dyfrdwy a Gogledd Cymru wrth i鈥檙 ddwy lywodraeth geisio sicrhau twf hirdymor, cynaliadwy ym mhob rhan o鈥檙 DU.

Mae鈥檙 cyhoeddiad hefyd yn digwydd ar y Diwrnod Gweithgynhyrchu Cenedlaethol pan fydd y llywodraeth yn dathlu diwydiant gweithgynhyrchu arbennig y wlad. Bydd strategaeth ddiwydiannol fodern Llywodraeth y DU, pan ddaw, yn cefnogi gweithwyr ac yn rhoi鈥檙 hyder sydd ei angen ar fuddsoddwyr rhyngwladol i fuddsoddi ym Mhrydain, gan greu swyddi a thwf.

Mae鈥檙 DU yn parhau i fod yn lle deniadol ar gyfer buddsoddi gwyrdd a bydd y cyhoeddiad hwn yn helpu i greu swyddi, tyfu鈥檙 economi ac allforio nwyddau cynaliadwy o ansawdd uchel ledled y byd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Hydref 2024 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.