Buddsoddiad o 拢17 miliwn i wneud Cymru鈥檔 arweinydd byd-eang mewn ystadegau a data
Mae Gweinidog Swyddfa鈥檙 Cabinet, Matt Hancock, wedi datgelu cynlluniau newydd i greu canolfan gwyddoniaeth data o safon byd yng Nghymru.

Yn y gyllideb yr wythnos hon, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai鈥檔 cyfrannu 拢10 miliwn at y prosiect arloesol a fydd yn moderneiddio鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn creu ystadegau mwy arloesol, manwl ac amserol.
Bydd hyn yn rhan o fuddsoddiad gwerth 拢17 miliwn i gyd, a fydd yn cynnwys arian ychwanegol i鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Bydd y Campws Gwyddoniaeth Data a鈥檙 Ganolfan Rhagoriaeth Economeg newydd, a leolir yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd, yn creu o leiaf 30 o swyddi ar lefel uchel. Bydd yn meithrin sgiliau technoleg yn y gweithlu rhanbarthol presennol, gan yrru鈥檙 DU yn ei blaen fel arweinydd byd-eang ym maes data ac ystadegau.
Bydd y ganolfan yn canolbwyntio ar dechnegau i newid y ffordd byddwn yn rheoli ac yn defnyddio data drwy ddefnyddio technegau blaengar fel echdynnu data o鈥檙 we. Bydd hyn yn darparu monitro unigryw ac amser real ar yr economi a marchnad lafur y DU gan ffynonellau preifat a chyhoeddus yn uniongyrchol.
Bydd y Ganolfan Rhagoriaeth Economeg yn gwella鈥檙 gallu i fesur y newid yn economi ddigidol y DU, gan wthio ffiniau mesur economaidd ledled y byd.
Mae penderfyniad y llywodraeth i fuddsoddi yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru yn deillio o鈥檌 hymateb i鈥檙 Adolygiad Annibynnol o Ystadegau Economaidd y DU (IRES) gan yr Athro Syr Charles Bean.
Roedd IRES yn amlinellu cyfres o argymhellion i alluogi鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddatblygu galluoedd digidol a dadansoddol gyda鈥檙 gorau yn y byd o ran mesur economaidd, a sicrhau bod y gwaith o gynhyrchu ystadegau economaidd y DU yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol.
Roedd rhai o鈥檙 pwyntiau a wnaed yn yr IRES yn amlinellu y dylai鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol wneud y canlynol:
- gwthio鈥檙 ffiniau a datblygu ei hystadegau ymhellach
- gorfodi diwylliant sy鈥檔 canolbwyntio ar y cwsmer
- defnyddio data gweinyddol sydd eisoes gan y llywodraeth yn llawn
- cryfhau llywodraethu ystadegol yn unol ag argymhellion strategol yr Athro Syr Charles Bean
Hefyd, croesawodd y llywodraeth y syniad o greu Swyddfa Gwerthuso a Rheoleiddio Annibynnol i gefnogi llywodraethu gwell o ran ystadegau鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol. Bydd y corff newydd hwn yn gyfrifol am asesu鈥檔 gyhoeddus ansawdd yr ystadegau swyddogol a faint mae modd ymddiried ynddynt, yn ogystal ag asesu effeithiolrwydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Yn ystod ymweliad 芒鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol ddydd Iau 17 Mawrth, dywedodd Matt Hancock, Gweinidog Swyddfa鈥檙 Cabinet:
Data yw鈥檙 tanwydd sydd ei angen arnom i wneud y pederfyniadau gorau ar gyfer y cyhoedd. Caiff y polis茂au a鈥檙 gwasanaethau gorau eu datblygu ar sail gwybodaeth sy鈥檔 gyfredol, yn berthnasol ac yn hygyrch.
Mae ystadegau swyddogol yn taflu goleuni ar berfformiad yr economi, ond hefyd yn sail i benderfyniadau polisi鈥檙 llywodraeth a busnesau sy鈥檔 effeithio ar fywydau miliynau o bobl ledled y DU.
Mae fy nghyhoeddiad heddiw鈥檔 tanlinellu ein hymrwymiad i gadw鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd. Bydd y cynlluniau uchelgeisiol hyn yn helpu鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol i ymgymryd 芒 her economi sy鈥檔 mynd yn fwyfwy technolegol ac i wneud yn si诺r bod y DU yn arweinydd byd-eang.
Dywedodd Canghellor y Trysorlys, George Osborne:
Mae sicrhau bod ystadegau鈥檙 DU ar flaen y gad yn fater pwysig sydd nid yn unig yn effeithio ar y penderfyniadau rwyf yn eu gwneud fel Canghellor, ond hefyd ar fusnesau ac aelwydydd ledled y wlad.
Dyna pam y gofynnodd Matt Hancock a minnau i鈥檙 Athro Bean y llynedd ystyried sut gallem gael ystadegau o safon fyd-eang yma yn y DU. Nawr, diolch i鈥檞 ddadansoddi awdurdodol, rydyn ni mewn sefyllfa well i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 her ryngwladol o fesur economi fodern ac rwy鈥檔 falch o ddweud y bydd yr arian newydd a gyhoeddwyd yn y Gyllideb yn helpu i sicrhau y bydd ystadegau鈥檙 DU yn addas ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn bleidlais o ymddiriedaeth yn arbenigedd Casnewydd a Chymru.
Mae Cymru鈥檔 datblygu enw da yn rhyngwladol fel canolfan sy鈥檔 arloesi mewn technoleg, a bydd y ganolfan gwyddoniaeth data newydd yn ychwanegiad gwych at hynny. Mae llywodraeth y DU a Swyddfa Cymru yn benderfynol o chwarae rhan yn y gwaith o adeiladu ar y rhagoriaeth honno.