Cyhoeddi hwb o 1.2 biliwn i gyllideb Llywodraeth Cymru yng Nghyllideb yr Hydref
Bydd Llywodraeth Cymru yn cael chwistrelliad gwerth 1.2 biliwn i鈥檞 chyllideb

Yng Nghyllideb yr Hydref, mae鈥檙 Canghellor heddiw (22 Tachwedd 2017) yn nodi cynlluniau i sicrhau cynnydd o 拢1.2 biliwn i gyllideb Llywodraeth Cymru, ac i adeiladu economi sy鈥檔 addas ar gyfer y dyfodol.
Mae鈥檙 cynnydd hwn i鈥檙 gyllideb yn cynnwys hwb o 5% yng nghyllid Barnett, sy鈥檔 gyfanswm o 拢67 miliwn, fel y cytunwyd yn Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru. Mae鈥檙 Gyllideb yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu鈥檔 deg, a bydd ei grant bloc yn cynyddu mewn termau real dros Gyfnod yr Adolygiad o Wariant rhwng 2015 a 2020.
Bydd manteision go iawn i bobl Cymru. Bydd yr arian hwn yn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru yn gallu tyfu ei heconomi, denu buddsoddiadau, cynnal ei gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi pobl sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed ar hyd a lled Cymru.
O鈥檙 flwyddyn nesaf ymlaen, bydd y Dreth Stamp a鈥檙 Dreth Dirlenwi yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru, gan roi pwerau codi refeniw gwerth dros 拢250 miliwn iddi. Am y tro cyntaf yng Nghyllideb yr Hydref, bydd Llywodraeth y DU yn addasu grant bloc Llywodraeth Cymru i ystyried hyn, gan roi rhagor o gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru dros osod rhai o鈥檌 threthi.
Hefyd, mae Cyllideb yr Hydref yn cynnwys mesurau penodol a fydd o fudd uniongyrchol i Gymru. Yn ogystal 芒 pharhau i gefnogi鈥檙 Bargeinion Dinesig ar gyfer Caerdydd ac Abertawe drwy fuddsoddi 拢615 miliwn dros yr 20 mlynedd nesaf, cyhoeddodd y Canghellor heddiw bod Llywodraeth y DU yn croesawu cynigion ar gyfer Bargen Twf i Ganolbarth Cymru ac y byddai鈥檔 dechrau trafodaethau ffurfiol ar gyfer Bargen Twf i Ogledd Cymru. Ar 么l cytuno ar hynny, bydd y bargeinion yn adeiladu ar gryfderau鈥檙 ardaloedd hynny ac yn rhoi hwb i鈥檙 economi leol.
Bydd gan Orllewin Cymru gysylltiadau gwell oherwydd buddsoddiad i uwchraddio trafnidiaeth a fydd yn darparu gwasanaethau uniongyrchol o Ddoc Penfro i Lundain drwy Gaerfyrddin, a hynny ar drenau newydd modern Intercity Express. Mae鈥檙 Canghellor wedi amlinellu gwaith ar gyfer y dyfodol hefyd, i lunio cynigion ar gyfer cynlluniau rheilffyrdd posibl eraill ar hyd a lled rhwydwaith Cymru.
Bydd elusennau ledled Cymru yn elwa a bydd dros 拢660,000 o gyllid LIBOR sy鈥檔 deillio o鈥檙 dirwyon a godir ar fanciau yn cael eu dosbarthu i achosion da. Mae hyn yn cynnwys Gofal a Thrwsio Gogledd Ddwyrain Cymru Cyfyngedig, sy鈥檔 rhoi cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i gyn-filwyr.
Mae Llywodraeth y DU yn rhewi treth tanwydd am yr wythfed flwyddyn yn olynol er mwyn helpu pobl ledled y wlad. Bydd hyn yn helpu鈥檙 gyrrwr cyffredin yng Nghymru i arbed hyd at 拢9 bob tro y mae鈥檔 llenwi ei gar. O fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi o 拢7.50 i 拢7.83, gan sicrhau codiad cyflog blynyddol o 拢600 i weithiwr amser llawn yng Nghymru.
Bydd y lwfans personol 鈥� sef y swm y gallwch ei ennill cyn talu treth incwm 鈥� yn codi o 拢11,500 i 拢11,850 fis Ebrill 2018, a bydd trothwy鈥檙 gyfradd uwch o dreth incwm yn codi i 拢46,350. Yn 2018-19, bydd dros 1.4 miliwn o bobl yng Nghymru yn elwa ar y codiadau sydd wedi鈥檜 gwneud gan y llywodraeth i鈥檙 lwfans personol ac i drothwy鈥檙 gyfradd uwch o dreth incwm. Byddant wedi ennill 拢183 ar gyfartaledd, o gymharu 芒 2015-16. Hefyd, bydd 拢2.3 biliwn ychwanegol yn cael ei wario ar waith Ymchwil a Datblygu ledled y DU yn 2021/22.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae鈥檙 Canghellor heddiw wedi cyflwyno pecyn grymus o fesurau a fydd yn helpu i lunio economi Cymru fel ei bod yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mae鈥檙 ymrwymiad i ddechrau ar drafodaethau am fargen dwf i Ogledd Cymru, yn ogystal 芒 rhoi hwb i drafodaethau cynnar am raglen dwf i Ganolbarth Cymru, yn gyhoeddiadau arwyddocaol ar gyfer Cymru gyfan. Mae鈥檙 symud tuag at wella gwasanaethau rheilffyrdd ar gyfer busnesau, gweithwyr ac ymwelwyr o鈥檙 ddwy ochr i鈥檙 ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn ogystal 芒鈥檙 penderfyniad i ddiddymu Tollau Hafren, hefyd yn brawf clir o uchelgais Llywodraeth y DU i symud economi Cymru yn ei blaen yn gyflym.
Mae Llywodraeth Cymru yn galw鈥檔 rheolaidd am hwb i鈥檞 chyllidebau cyfalaf, a heddiw mae Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid eto i sicrhau newid go iawn. Yn awr, mae鈥檔 rhaid iddi fwrw ymlaen 芒鈥檙 gwaith o ddefnyddio鈥檙 pwerau sydd ganddi i wella bywydau pobl Cymru drwy adeiladu鈥檙 cartrefi sydd eu hangen ar ein gwlad, adeiladu鈥檙 rhwydwaith ffyrdd y mae Cymru鈥檔 ei haeddu a sicrhau cynnydd go iawn yn y gwaith o wella safonau ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus.
Gyda鈥檌 gilydd, does dim amheuaeth nad yw Cyllideb Llywodraeth y DU yn un sy鈥檔 sicrhau manteision i Gymru.