Datganiad i'r wasg

拢111 miliwn wedi鈥檌 ddyfarnu i brosiectau yng Nghymru drwy'r Gronfa Ffyniant Bro

Mae saith prosiect yn derbyn grantiau yn nhrydedd rownd y Gronfa Ffyniant Bro i gefnogi adfywiad a thwf hirdymor

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government
  • Mae鈥檙 prosiectau鈥檔 cynnwys cynlluniau adfywio ym Mhort Talbot a鈥檙 Rhyl, gan greu ardal gyhoeddus fywiog yn Noc y Barri ac uwchraddio llwybrau beicio ym Mhowys
  • Y Canghellor yn cyhoeddi ei fod yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ymestyn ffenestr Parthau Buddsoddi a Porthladdoedd Rhydd i ddatgloi rhagor o fuddsoddiad

Mae adfywio canol tref Port Talbot, creu ardal gyhoeddus ar y glannau yn y Barri ac uwchraddio llwybrau beicio ym Mhowys yn rhai o鈥檙 prosiectau trawsnewidiol y dyfarnwyd cyfran ohonynt o Gronfa Ffyniant Bro flaenllaw Llywodraeth y DU.聽

Mae saith prosiect wedi cael 拢111 miliwn yng Nghymru a fydd yn helpu i greu swyddi, sbarduno twf economaidd, a lledaenu cydraddoldeb i ardaloedd sydd wedi鈥檜 hesgeuluso鈥檔 hanesyddol, yn ogystal ag adfer balchder pobl yn y mannau lle maent yn byw.聽Bydd hyn yn hybu blaenoriaeth y Prif Weinidog i dyfu鈥檙 economi drwy sicrhau ffyniant bro a darparu鈥檙 sylfeini ar gyfer adeiladu dyfodol gwell mewn cymunedau ledled y DU.

Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar fuddsoddiad blaenorol Ffyniant Bro yng Nghymru drwy gronfeydd fel Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Porthladdoedd Rhydd, a鈥檙 Cynllun Tymor Hir ar gyfer Trefi, gan fynd 芒鈥檙 cyfanswm i dros 拢1.2 biliwn o gyllid ffyniant bro 聽yn ogystal 芒 buddsoddiadau eraill mewn twf lleol, fel 拢790m

Dywedodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd Ffyniant Bro:

Mae sicrhau Ffyniant Bro yn golygu cyflawni blaenoriaethau pobl leol a sicrhau newid trawsnewidiol mewn cymunedau sydd, am ormod o amser, wedi cael eu hanwybyddu a鈥檜 tanbrisio.

Heddiw rydym yn cefnogi 55 o brosiectau ledled y DU gyda 拢1 biliwn i greu swyddi a chyfleoedd newydd, sbarduno twf economaidd, ac adfywio ardaloedd lleol.

Mae鈥檙 cyllid hwn yn cyd-fynd 芒鈥檔 cynlluniau ehangach i ledaenu twf, drwy ddatganoli mwy o arian a ph诺er o San Steffan i drefi a dinasoedd, rhoi ymyriadau pwrpasol ar waith i鈥檙 llefydd sydd ei angen fwyaf, a鈥檔 cynllun hirdymor ar gyfer trefi.

Heddiw, dyfarnwyd cyfanswm o 拢27m i Gastell-nedd Port Talbot ar 么l dau gais llwyddiannus, gan gynnwys 拢15m i adfywio canol tref Port Talbot gyda gwelliannau i鈥檙 Sgw芒r Dinesig, adnewyddu Theatr y Dywysoges Frenhinol, a gwelliannau i fannau gwyrdd yn ardal Glan yr Afon.

Mae 拢12m wedi cael ei ddyfarnu i adfer ac ailagor pont hanesyddol rhestredig Gradd II Newbridge i gerddwyr a beicwyr, a bydd Heol Newbridge a Heol Glan yr Afon hefyd yn cael eu huwchraddio

Mae 拢20m arall hefyd wedi cael ei ddyfarnu i鈥檙 glannau yn Noc y Barri i greu ardal gyhoeddus fywiog gyda chanolfan fusnes newydd a mannau bwyd a diod, ynghyd 芒 bron i 拢18m i annog ffyrdd iachach o deithio ym Mhowys, gan gynnwys adfer pontydd troed a gwella鈥檙 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol drwy roi wyneb newydd ar nifer o lwybrau a gwella cysylltedd i gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol iawn arall mewn prosiectau trawsnewidiol ledled Cymru. O adfywio canol trefi i wella seilwaith teithio, bydd y cynlluniau hyn yn cael effaith gadarnhaol am genedlaethau i ddod.聽

Mae Llywodraeth y DU yn parhau i fuddsoddi mewn cymunedau ledled Cymru wrth i ni weithio tuag at ein nodau o dyfu economi Cymru a sicrhau ffyniant bro yn y DU.

Mae Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn yn nwy rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro, gyda chyfanswm o 21 prosiect yn derbyn dros 拢329m. Mae鈥檔 golygu bod Llywodraeth y DU wedi mynd y tu hwnt i鈥檙 isafswm 5% a neilltuwyd yn wreiddiol ar gyfer Cymru ar ddechrau鈥檙 gronfa, gyda Chymru鈥檔 derbyn dros 9% ar draws y tair rownd, sef cyfanswm o 拢440m yn gyffredinol ar gyfer 28 o brosiectau.

Mae buddsoddiadau blaenorol ar draws dwy rownd gyntaf y gronfa yn cynnwys Canolfan Drafnidiaeth Porth a fydd yn adfywio gorsaf reilffordd bresennol y dref i fod yn ganolfan drafnidiaeth fodern, ganolog a hygyrch ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr. Mae hefyd yn cynnwys mannau gwefru ceir trydan, safle tacsis newydd a lle i storio beiciau, yn ogystal ag uwchraddio鈥檙 rhwydwaith teithio lleol.

Mae tyfu鈥檙 economi a gwneud y penderfyniadau tymor hir i gyflawni鈥檙 newid sydd ei angen ar y wlad yn flaenoriaeth i鈥檙 Prif Weinidog.

Heddiw, mae鈥檙 Canghellor wedi cadarnhau y bydd y rhaglen Parthau Buddsoddi yn Lloegr yn cael ei hymestyn o bump i ddeng mlynedd a bydd y ffenestr i hawlio rhyddhad treth Porthladd Rhydd yn Lloegr yn cael ei hymestyn o bum i ddeng mlynedd tan fis Medi 2031.

Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru gyda鈥檙 bwriad o ddarparu鈥檙 un estyniad i Barthau Buddsoddi a Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru.

Prosiectau y dyfarnwyd arian y Gronfa Ffyniant Bro iddynt yng Nghymru heddiw:

  • Bron i 拢18m i annog ffyrdd iachach o deithio ym Mhowys, gan gynnwys adfer pontydd troed a gwella鈥檙 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol drwy roi wyneb newydd ar nifer o lwybrau a gwella cysylltedd i gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid.
  • 拢20m i drawsnewid safle ar y glannau yn Noc y Barri yn ardal gyhoeddus fywiog, gyda chanolfan fusnes newydd, siopau bwyd a diod, a chyfleusterau hamdden a marina.
  • Dros 拢15m tuag at adnewyddu nifer o adeiladau gwag a chreu mwy o ardaloedd gwyrdd yng nghanol tref Llanelli
  • 拢20m ar gyfer prosiectau i ddatblygu a rhoi hwb i ardaloedd yn Sir Ddinbych, fel y Rhyl, a fydd yn cynnwys adfywio canol y dref, creu mwy o ganolfannau cymunedol, gwella beicio a llwybrau troed, a gwella llwybrau rhwng y dref a鈥檙 arfordir.
  • 拢12m i adfer ac ailagor pont hanesyddol rhestredig Gradd II Newbridge i gerddwyr a beicwyr, a bydd Heol Newbridge a Heol Glan yr Afon hefyd yn cael eu huwchraddio.
  • 拢15m i adfywio canol tref Port Talbot gyda gwelliannau i鈥檙 Sgw芒r Dinesig, adnewyddu Theatr y Dywysoges Frenhinol, a gwelliannau i fannau gwyrdd yn ardal Glan yr Afon.
  • Mwy na 拢10m i wella hygyrchedd cyhoeddus ar draws tref Penfro, gan ganolbwyntio ar Westgate, Eastgate a gwelliannau cyffredinol i鈥檙 amgylchedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Tachwedd 2023