Stori newyddion

100 diwrnod i fynd i gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth ar gyfer 2017 i 2018

Ewch ati nawr i lenwi鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2017 i 2018 yn hytrach na鈥檌 gadael tan y funud olaf.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Self Assessment promotional image - "Don't let your tax return peck away at you - do it by 31st January" / "Peidiwch 芒 gadael i'ch Ffurflen Dreth eich pigo"

Gall trethdalwyr lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol mor gynnar 芒 6 Ebrill. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn aros tan ar 么l y Nadolig i鈥檞 llenwi.

Y llynedd, llenwodd dros 11 miliwn o gwsmeriaid Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2016 i 2017, a llwyddodd 10.7 miliwn ohonynt i wneud hynny mewn pryd. Cyflwynodd 4,852,744 o gwsmeriaid eu Ffurflen Dreth ym mis Ionawr 2018 (44.8% o鈥檙 cyfanswm) a 758,707 o gwsmeriaid ar 31 Ionawr.

Mae 100 diwrnod i fynd tan y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2019, ond does dim byd yn bod ar lenwi鈥檆h Ffurflen Dreth ymlaen llaw. Gallwch ddysgu faint o dreth sydd arnoch a鈥檌 thalu cyn y dyddiad cau - un peth yn llai ar eich rhestr felly dros y cyfnod prysur.

Meddai Mel Stride, yr Ysgrifennydd Ariannol i鈥檙 Trysorlys:

Y llynedd, llenwodd dros 11 miliwn o drethdalwyr eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad ac o ganlyniad i hynny, cafwyd refeniw o 拢32.7 biliwn - y swm uchaf erioed. Ac mae鈥檙 arian hwnnw鈥檔 ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Mae cyfran sylweddol o鈥檔 Ffurflenni Treth Hunanasesiad yn dod oddi wrth weithwyr hunangyflogedig a busnesau bach, ac mae鈥檙 llywodraeth yn ymrwymedig i鈥檞 helpu a lleihau eu baich gweinyddol. Gallwch gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth a rheoli鈥檆h treth ar-lein yn hawdd ac yn hwylus drwy鈥檆h Cyfrif Treth Personol.

Meddai Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

Er bod y dyddiad cau 100 diwrnod i ffwrdd, mae llawer ohonom yn ei gadael hi tan fis Ionawr i ddechrau arni. Mae amser yn hedfan dros yr 诺yl, ond eto mae鈥檙 dasg o lenwi鈥檆h Ffurflen Dreth o鈥檆h blaen o hyd.

Rydyn ni am helpu pobl i gael eu Ffurflenni Treth yn iawn. Drwy ddechrau ar y broses yn gynnar, gallwch ddod o hyd i鈥檙 holl wybodaeth fydd ei hangen arnoch i gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth yn ddiffwdan mewn pryd.

Mae treth yn cael ei didynnu鈥檔 awtomatig o鈥檙 rhan fwyaf o gyflogau, pensiynau neu gynilion trethdalwyr y DU. Ond, mae鈥檔 rhaid i Ffurflen Dreth Hunanasesiad gael ei llenwi bob blwyddyn gan bobl neu fusnesau sydd ddim yn cael treth wedi鈥檌 didynnu鈥檔 awtomatig, neu sydd o bosibl wedi ennill incwm ychwanegol heb ei drethu.

Y llynedd, cyflwynodd 93% o gwsmeriaid eu Ffurflen Dreth ar-lein - y ganran uchaf erioed - ac mae CThEM yn rhoi cryn gymorth i unigolion sydd angen llenwi鈥檜 Ffurflen Dreth. Mae ffilmiau a gweminarau ar gael sy鈥檔 dangos pob cam o鈥檙 broses, ac mae arweiniad arbennig ar gael i wahanol fathau o unigolion.

Mae help i鈥檞 gael hefyd am Hunanasesiad ar-lein ar wefan 188体育 neu gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ar 0300 200 1900.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth ar bapur yw 31 Hydref 2018, a鈥檙 dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth ar-lein, a thalu unrhyw dreth sy鈥檔 weddill, yw 31 Ionawr 2019. Gall cwsmer wynebu isafswm cosb o 拢100 am gyflwyno鈥檙 Ffurflen Dreth yn hwyr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Hydref 2018 show all updates
  1. Added Welsh language translation.

  2. First published.