拢10 miliwn o gefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol i ail-ddatblygu coleg prifysgol hynaf Cymru
Guto Bebb: Mae鈥檙 arian hwn gan y Loteri Genedlaethol yn sicrhau dyfodol yr Hen Goleg.

Aberystwyth Old College
Mae dros 拢10 miliwn wedi ei neilltuo ar gyfer gwaith adfer sylweddol ar adeilad eiconig yr Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth, man geni addysg brifysgol yng Nghymru.
Mae adeilad rhestredig Gradd I yr Hen Goleg yn cael ei gysylltu ag adeiladu鈥檙 genedl Gymreig wedi iddo gael ei brynu gan Brifysgol Cymru am ddim ond 拢10,000 yn 1867 gan ddefnyddio arian a gyfrannwyd gan y gymuned leol.
Wedi iddo agor ei ddrysau i fyfyrwyr am y tro cyntaf yn 1872, am bron i ganrif gwelodd yr adeilad Gothig ar lan y m么r filoedd o fyfyrwyr yn mynd a dod, cyn i bethau ddechrau newid yn yr 1960au pan symudodd y brifysgol i gampws newydd sbon.
Erbyn hyn, bydd arian a ddaeth gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn golygu y bydd yr adeilad poblogaidd hwn yn hawlio鈥檌 le yn 么l yn ganolbwynt bywyd Aberystwyth a鈥檙 gymuned leol. Yn y lle cyntaf bydd Prifysgol Aberystwyth yn derbyn arian datblygu o 拢849,500 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, fydd yn ei galluogi i ddatblygu ei chynlluniau, gan arwain yn y pendraw at dderbyn y swm llawn o 拢10,581,800.*
Wrth ymweld a鈥檙 Hen Goleg yn Aberystwyth, dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru:
Mae鈥檙 arian hwn gan y Loteri Genedlaethol yn sicrhau dyfodol yr Hen Goleg, gan olygu y gall barhau i chwarae r么l allweddol yn nyfodol y brifysgol a鈥檙 dref ei hun. Fel cyn fyfyriwr fy hun, rwyf yn falch o weld prosiect mor werth chweil a chyffrous 芒 hwn yn cael ei gefnogi i helpu sicrhau dyfodol cynaliadwy i adeilad y mae gennyf atgofion melys iawn ohono.
Meddai John Glen AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth:
Mae Hen Goleg Aberystwyth yn adeiladu gaiff ei drysori鈥檔 lleol ac a gaiff ei gydnabod fel un o ddarnau pensaerniol Gothig mwyaf arwyddocaol y DU.
Mae鈥檙 cynllun gwych hwn yn gymaint mwy na phrosiect adfer. Diolch i gyfraniad o 拢10.5 miliwn gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol bydd yn creu cyrchfan fywiog i ymwelwyr fydd yn darparu adnoddau diwylliannol a chymunedol newydd i Aberystwyth, Gorllewin Cymru ac yn rhoi hwb i economi Cymru yn gyffredinol.
Dywedodd y Farwnes Kay Andrews, ymddiriedolydd y DG a Chadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru:
Mae鈥檙 cynlluniau cyffrous hyn i roi ail wynt i un o adeiladau hanesyddol mwyaf poblogaidd Cymru yn cynnig hwb arwyddocaol ac amserol i ddiwylliant ac economi Aberystwyth a thu hwnt.
Fel llawer o raddedigion Aberystwyth, mae gennyf atgofion melys o鈥檙 Hen Goleg. Erbyn hyn, am y tro cyntaf, bydd yr adeilad unigryw hwn 鈥� llofnod Aberystwyth 鈥� yn agored i鈥檙 gymuned gyfan ei fwynhau ac elwa ohono, gan gynnwys ymwelwyr 芒 Gorllewin Cymru. Mae hyn yn newyddion gwych i Aberystwyth ac i Gymru鈥檔 gyffredinol.
Gyda鈥檙 bwriad o gwblhau trawsnewidiad yr Hen Goleg mewn pryd ar gyfer dathliadau 150 mlwyddiant y brifysgol yn 2022, mae鈥檙 gwaith wedi cychwyn i ddatblygu cynlluniau fydd yn troi鈥檙 adeilad yn ofod perfformio ac oriel ar gyfer artistiaid, arddangosfeydd a cherddorion, canolfan i fentergarwyr a busnesau, yn ogystal 芒 chaffi ac ystafelloedd cymunedol.
Bydd yn gartref hefyd i amgueddfa鈥檙 brifysgol, fydd yn golygu y caiff rhai o鈥檙 20,000 o eitemau a gedwir dan glo fel arfer weld golau ddydd, a bydd canolfan wyddonol newydd yn cynnwys yr arddangosiadau rhyngweithiol diweddaraf ynghyd 芒 phlanedariwm a chyfleuster 4D yn amlygu cysylltiadau鈥檙 brifysgol gyda鈥檙 Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.
Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
Chwaraeodd yr Hen Goleg ran ganolog yn y gwaith o ddarparu addysg uwch yng Nghymru a鈥檙 byd ehangach. Ag yntau wedi鈥檌 adeiladu gyda cheiniogau chwedlonol y werin, mae鈥檔 gweddu rhywsut fod arian gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn chwarae rhan yr un mor ganolog yn adfywio鈥檙 adeilad ac economi鈥檙 rhan hyfryd hon o Gymru.
Ein gobaith yn awr yw y daw鈥檙 Hen Goleg yn ganolfan ar gyfer arddangos ymchwil, addysgu a thrysorau rhagorol Prifysgol Aberystwyth, tra鈥檔 darparu cyfleusterau bywiog newydd ar gyfer ymwelwyr a鈥檙 gymuned leol sy鈥檔 bartneriaid allweddol yn y fenter hon.
Yn ogystal 芒 chreu swyddi newydd, prentisiaethau, cyfleoedd profiad gwaith a chyfleoedd hyfforddiant a gwirfoddoli, bydd yr Hen Goleg ar ei newydd wedd hefyd yn annog graddedigion o鈥檙 brifysgol i aros yn y dref a sefydlu busnesau newydd.
Amcangyfrifir mai cyfanswm cost yr ailddatblygu fydd tua 拢22m, ac mae鈥檙 brifysgol yn cynllunio ffynonellau eraill o ariannu鈥檙 prosiect, gan gynnwys ymgyrch godi arian fawr.
NODIADAU I OLYGYDDION
Caiff ceisiadau Grant Treftadaeth eu hasesu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri mewn dau gylch. Rhoddir pas rownd gyntaf os yw CDL wedi cymeradwyo cynlluniau bras a chlustnodi arian. Mae pas rownd gyntaf hefyd yn gallu cynnwys swm o arian yn syth i ariannu鈥檙 gwaith o ddatblygu鈥檙 prosiect. Y cam nesaf yw bod cynlluniau manwl yn cael eu hystyried gan CDL yn yr ail rownd, ac ar yr amod fod y cynlluniau wedi datblygu鈥檔 foddhaol ac yn unol 芒鈥檙 cynllun gwreiddiol, mae dyfarniad i鈥檙 prosiect yn cael ei gadarnhau.
Mwy am Yr Hen Goleg
Mae鈥檙 Hen Goleg yn un o adeiladau mwyaf rhyfeddol Cymru. Ag yntau鈥檔 gartref i Brifysgol gyntaf Cymru, mae鈥檙 adeilad rhestredig Gradd I prin hwn o arwyddoc芒d cenedlaethol yn gyfystyr ag adeiladu鈥檙 genedl Cymreig ac fe saif ar safle amlwg ar bromen芒d Aberystwyth.
Uchelgais Prifysgol Aberystwyth yw agor cil y drws a datgelu treftadaeth gudd ac anhygyrch yr Hen Goleg a thrawsnewid yr adeilad yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol groesawgar a bywiog ar gyfer y gymuned ac yn gatalydd pwysig ar gyfer adfywio economaidd a chymdeithasol. I bobl leol, bydd yr Hen Goleg yn ffynhonnell sgiliau a chreu swyddi, ysbrydoliaeth, dysgu ac adloniant. I ymwelwyr, bydd yn gyrchfan dreftadaeth Gymreig newydd ag iddi ap锚l ryngwladol.