Ymgynghoriad Cynllun Iaith Gymraeg GLlTEM 2022
Yn berthnasol i Loegr a Northern Ireland
Llwytho'r canlyniad llawn i lawr
Manylion am y canlyniad
Ar 1af Mawrth 2023 bu i ni gyhoeddi ymateb GLlTEF i鈥檙 ymgynghoriad ar y Cynllun Iaith Gymraeg a wnaed yn 2022.聽 Cawsom nifer o awgrymiadau yn sgil yr ymgynghoriad ac rydym wedi eu cynnwys yn ein Cynllun Iaith Gymraeg.聽 Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun diwygiedig efo鈥檙 ymateb hwn.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Gweld yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg
Mae GLlTEM yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae鈥檔 gyfrifol am weinyddu鈥檙 llysoedd a鈥檙 tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr a thribiwnlysoedd sydd heb eu datganoli yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
O ran gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, mae wedi mabwysiadu鈥檙 egwyddor y byddai鈥檔 trin yr iaith Gymraeg a鈥檙 Saesneg yn gyfartal. Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn ymwneud 芒 thrydydd fersiwn y Cynllun Iaith Gymraeg. Cyhoeddwyd y cyntaf yn 2013 yn dilyn creu GLlTEM yn 2010 (roedd gan y Gwasanaeth Llysoedd a鈥檙 Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Gynlluniau Iaith Cymraeg eu hunain cyn hynny). Cyhoeddwyd yr ail ymgynghoriad ym mis Rhagfyr 2017.
Mae Cynllun Iaith Gymraeg GLlTEM yn cwmpasu gwaith ei bencadlys corfforaethol yn Llundain, Canolfannau Gwasanaethau鈥檙 Llysoedd a鈥檙 Tribiwnlysoedd a鈥檙 Canolfannau Busnes Cenedlaethol. Wrth ddarparu ei wasanaethau Cymraeg yng Nghymru, mae GLlTEM yn gweithio鈥檔 agos gyda鈥檙 Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, CAFCASS Cymru, y proffesiynau cyfreithiol, y farnwriaeth llawn amser a鈥檙 farnwriaeth leyg.