Ymgynghoriad ar y Cynllun Rheoli Pysgodfa arfaethedig ar gyfer Cregyn y Brenin
Llwytho'r canlyniad llawn i lawr
Manylion am y canlyniad
Cawsom 43 o ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymateb i鈥檙 safbwyntiau a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad.
Rydym bellach wedi cyhoeddi鈥檙 cynllun rheoli pysgodfeydd cregyn y brenin, fel sy鈥檔 ofynnol o dan Ddeddf Pysgodfeydd 2020 ac fel y nodir yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym eisiau gwybod beth yw eich barn chi am y polis茂au a鈥檙 mesurau rheoli arfaethedig a nodir yng Nghynllun Rheoli Pysgodfa (FMP) ar gyfer Cregyn y Brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Mae鈥檙 Cynllun Rheoli Pysgodfa arfaethedig wedi cael ei ddatblygu gan Defra a Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth 芒 Gweithgor Gr诺p Ymgynghori鈥檙 Diwydiant Cregyn Bylchog (SICGWG).
Mae鈥檙 FMP hwn yn nodi cynlluniau ar gyfer rheoli stociau cregyn y brenin yn gynaliadwy yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Mae hefyd yn ceisio sicrhau bod manteision pysgota Cregyn bylchog yn y tymor hir yn gallu cael eu gwireddu gan y cymunedau sy鈥檔 dibynnu arnynt.
Rydym hefyd yn gofyn am farn ar adroddiad amgylcheddol, sy鈥檔 disgrifio effeithiau amgylcheddol tebygol Cynllun Rheoli Pysgodfa ar gyfer Cregyn y Brenin.