Ymgynghoriad ar gyflwyno ffioedd yswiriant a ganiateir ar gyfer landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 wedi cyflwyno amrywiaeth o fesurau i roi mwy o bwerau ac amddiffyniadau i berchnogion tai a lesddeiliaid. Fel rhan o hyn, mae鈥檙 Ddeddf wedi creu pwerau i fynd i鈥檙 afael 芒 phryderon hirsefydlog bod rhai lesddeiliaid yn gorfod talu i鈥檞 landlordiaid, rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo am drefnu a rheoli yswiriant adeiladau drwy ddulliau amwys o roi cydnabyddiaeth ariannol, nad oes modd eu cyfiawnhau ar sail y gwaith a wneir.
Ar hyn o bryd, mae landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn cael eu talu fel rheol am drefnu a rheoli yswiriant adeiladau trwy frocer yswiriant yn rhannu cyfran o鈥檜 comisiwn. 聽
Yn hytrach na hyn, mae鈥檙 Ddeddf yn caniat谩u ffi newydd ar gyfer trin yswiriant lle byddai landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn codi t芒l ar lesddeiliaid, ar wah芒n i鈥檙 premiwm yswiriant. Byddai鈥檙 ffi hon yn deg, yn dryloyw ac yn adlewyrchu鈥檙 gwaith a wneir. Bydd ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad hwn yn ein helpu i ddeall pa daliadau y dylid eu caniat谩u o fewn y ffi hon ac yn llywio鈥檙 gwaith o ysgrifennu is-ddeddfwriaeth.