Y lefelau gwasanaeth gofynnol os bydd streic: gwasanaethau ysbyty
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae鈥檙 Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lloegr) yn ceisio safbwyntiau i lywio penderfyniadau ar gyflwyno rheoliadau ar lefelau gwasanaeth gofynnol yng Nghymru, Lloegr, a鈥檙 Alban, er mwyn diogelu diogelwch cleifion mewn gwasanaethau ysbyty allweddol yn ystod streic.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymgynghori ar gymhwyso lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer sectorau eraill. Ym maes iechyd, rydym yn dymuno cael y cydbwysedd cywir rhwng gallu gweithwyr i streicio a diogelu bywyd ac iechyd.
Ein cynnig yw bod y rhan fwyaf o鈥檙 gwasanaethau ysbyty hanfodol ac sy鈥檔 gritigol o ran amser gael eu cwmpasu gan reoliadau lefel gwasanaeth gofynnol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch a ddylai gwasanaethau ysbyty gael eu cwmpasu ac, os felly, pa wasanaethau ysbyty, y lefelau gwasanaeth gofynnol priodol sydd eu hangen, ac a ddylid cynnwys unrhyw wasanaethau iechyd y tu allan i ysbytai.
Mae Deddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023 yn berthnasol i Gymru, Lloegr a鈥檙 Alban. Nid yw鈥檙 ddeddf yn berthnasol i Ogledd Iwerddon
Rydym yn ceisio safbwyntiau gan:
- y cyhoedd yn gyffredinol (gan gynnwys cleifion ac aelodau o鈥檙 teulu neu ofalwyr)
- undebau llafur
- cyflogwyr y GIG a鈥檙 gwasanaeth iechyd
- sefydliadau cynrychiadol a chyrff proffesiynol
- gweithwyr yn y gwasanaethau iechyd
- gweithwyr mewn unrhyw wasanaethau eraill y mae streiciau yn y GIG yn effeithio arnynt
- grwpiau cleifion
Bydd asesiad o鈥檙 effaith ar gydraddoldeb yn cael ei gyhoeddi maes o law.