Closed consultation

Crynodeb gweithredol (Executive summary)

Published 22 November 2023

Nwy ymbelydrol di-liw, diarogl yw radon a ffurfir gan ddadfeiliad ymbelydrol wraniwm a thoriwm sy鈥檔 ffurfio yn naturiol mewn creigiau a phriddoedd, ac y gallai eu canfod hefyd mewn rhai deunyddiau adeiladu a d诺r. Radon yw鈥檙 ffynhonnell unigol fwyaf o ddod i gysylltiad ag ymbelydredd mewn cartrefi a gweithleoedd i boblogaeth y DU. Mae鈥檔 bresennol yn yr holl aer mewn lleoliadau dan do ac yn yr awyr agored ac, ar 么l ysmygu tybaco, mae鈥檔 un o brif achosion canser yr ysgyfaint.

Mae gan y Deyrnas Unedig fwy na phedwar degawd o brofiad o nodweddu a rheoli radon mewn cartrefi a gweithleoedd. Gan ddefnyddio鈥檙 ddealltwriaeth wyddonol hon, sy鈥檔 cael ei llywio gan dystiolaeth, ymchwil, canllawiau a phrofiad ymarferol o fewn y DU a chyrff rhyngwladol, mae ystod y sefyllfaoedd y mae poblogaeth y DU yn dod i gysylltiad 芒 radon ynddyn nhw wedi鈥檌 bennu. Yn ogystal 芒 hyn, datblygwyd ffyrdd effeithiol a pharhaol o leihau ac atal dod i gysylltiad 芒 radon.聽

Mewn un ddogfen, mae鈥檙 adroddiad hwn yn cyflwyno鈥檙 elfennau presennol o reoli radon sy鈥檔 rhan o鈥檙 strategaeth radon genedlaethol a鈥檙 cynllun gweithredu ar radon cenedlaethol. Mae鈥檔 bodloni gofynion sy鈥檔 ymwneud 芒 radon yn (SI 2018/482) ac mae鈥檔 disodli Cynllun Gweithredu Cenedlaethol cyntaf y DU ar Radon a gyhoeddwyd yn 2018.

Mae鈥檙 adroddiad yn disgrifio: priodweddau radon a鈥檌 risgiau i iechyd; ei ddosbarthiad yn y DU a llwybrau dod i gysylltiad ag ef; sut mae dod i gysylltiad 芒 radon yn cael ei asesu a鈥檌 reoli mewn cartrefi, gweithleoedd, adeiladau newydd, cyflenwadau d诺r a deunyddiau adeiladu; a鈥檙 dulliau o gyfathrebu gyda鈥檙 grwpiau o bobl yr effeithir arnynt. Mae鈥檙 adroddiad yn adolygu blaengynllun gweithredu鈥檙 Cynllun Gweithredu ar Radon Cenedlaethol cyntaf ac yn nodi pynciau newydd i鈥檞 hystyried.聽

Paratowyd yr adroddiad hwn gan gynrychiolwyr o adrannau ac asiantaethau llywodraeth y DU a chyda mewnbwn gan randdeiliaid. Mae鈥檙 adroddiad yn destun ymgynghoriad agored.

Bydd Cynllun Gweithredu ar Radon Cenedlaethol y DU yn cael ei ddiweddaru o leiaf bob pum mlynedd.