Privacy note - Welsh language version
Updated 22 August 2022
Bydd eich gwybodaeth bersonol (enw, sefydliad, cyfeiriad e-bost ac unrhyw wybodaeth arall a allai ddatgelu pwy ydych chi), a ddarperir at ddibenion yr ymgynghoriad hwn, yn cael ei chadw a鈥檌 phrosesu gan y:
Swyddfa Gartref
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF
Y Swyddfa Gartref fydd rheolydd y wybodaeth hon. Mae hyn hefyd yn cynnwys pan gaiff ei chasglu neu ei phrosesu gan drydydd part茂on ar ein rhan.
Sut a pham y bydd y Swyddfa Gartref yn defnyddio eich gwybodaeth
Yn ystod y cyfnod ymgynghori, bydd y Swyddfa Gartref yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid ac unigolion allanol i gasglu safbwyntiau a fydd yn cael eu defnyddio fel sail i bolis茂au a deddfwriaeth yn y dyfodol. Bydd y Swyddfa Gartref yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol, gan gynnwys y wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymgynghoriad hwn, i鈥檞 galluogi i gyflawni ei swyddogaethau statudol a鈥檌 swyddogaethau eraill.
Dim ond pan fydd sail gyfreithlon dros wneud hynny y caniateir i鈥檙 Swyddfa Gartref brosesu eich data a dim ond at ddibenion yr ymgynghoriad hwn y
defnyddir eich gwybodaeth bersonol. Mae鈥檙 Swyddfa Gartref yn dibynnu ar sail gyfreithlon erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU, sy鈥檔 caniat谩u i ni, fel un o adrannau鈥檙 llywodraeth, brosesu data personol at ddibenion tasg gyhoeddus, fel yr ymgynghoriad hwn.
Bydd y data personol a gesglir yn ein helpu i ddeall safbwyntiau鈥檙 ymatebwyr ac yn helpu i ddatblygu polis茂au yn y dyfodol. Os bydd ymatebwyr yn rhoi cyfeiriad e-bost ac yn dweud eu bod yn fodlon i ni gysylltu 芒 nhw, efallai y byddwn yn cysylltu 芒 nhw i drafod pynciau penodol sydd wedi鈥檜 nodi yn yr ymgynghoriad. Efallai y byddwn hefyd yn egluro鈥檙 canfyddiadau drwy ddefnyddio dyfyniadau a roddwyd i鈥檙 ymgynghoriad. Byddwn yn sicrhau y caiff y dyfyniadau hyn eu gwneud yn ddienw mewn modd priodol ac na fyddant yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy.
Mae rhagor o wybodaeth am y ffyrdd y gall y Swyddfa Gartref ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys at ba ddibenion y byddwn yn ei defnyddio, y sail gyfreithlon, a phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth 芒 nhw, ar gael yma: Siarter gwybodaeth bersonol.
Sut y byddwn yn prosesu eich data personol
Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau, cyfeiriadau e-bost, cyfeiriadau IP nac unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir yn anfwriadol yn yr ymatebion. Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich gwybodaeth yn unol 芒 deddfwriaeth diogelu data a Siarter Gwybodaeth Bersonol y Swyddfa Gartref.
At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, ni fydd y Swyddfa Gartref yn rhannu eich gwybodaeth 芒 sefydliadau eraill, ar wah芒n i鈥檙 rhai sy鈥檔 prosesu data personol ar ei rhan.
Ni chaiff eich data personol eu defnyddio i wneud unrhyw benderfyniadau awtomataidd.
Mae rhagor o wybodaeth am y ffordd y bydd y Swyddfa Gartref yn gofalu am eich gwybodaeth bersonol ar gael yma: Siarter gwybodaeth bersonol.
Storio eich gwybodaeth
Caiff eich gwybodaeth bersonol ei chadw am gyfnod o hyd at 12 mis ar 么l i鈥檙 cyfnod ymgynghori ddod i ben, ac ar 么l hynny caiff ei dinistrio鈥檔 ddiogel, yn unol 芒 pholisi cadw鈥檙 Swyddfa Gartref. Mae rhagor o fanylion am y polisi hwn ar gael yma: Siarter gwybodaeth bersonol.
Gofyn am gael gweld eich data personol
Mae gennych hawl i ofyn am gael gweld y wybodaeth bersonol sydd gan y Swyddfa Gartref amdanoch. Mae manylion am sut i wneud hyn ar gael yma: Siarter gwybodaeth bersonol.
Hawliau eraill mewn perthynas 芒鈥檆h data personol
Yn unol ag Erthygl 15-22 o鈥檙 GDPR mae gennych hawl mynediad gan y testun at eich data personol, hawl i鈥檞 cywiro, i鈥檞 dileu, i gyfyngu ar eu prosesu, ac i wrthwynebu eu prosesu, yn ogystal 芒鈥檙 hawl i gludadwyedd data. Mae rhagor o fanylion ar gael yma: Siarter gwybodaeth bersonol.
Cwestiynau neu bryderon am data personol
Byddwn yn prosesu eich data personol mewn modd cyfreithlon yn unol 芒 deddfwriaeth diogelu data. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y ffordd y caiff eich gwybodaeth bersonol ei chasglu, ei defnyddio neu ei datgelu, neu os byddwch yn teimlo bod eich data鈥檔 cael eu prosesu鈥檔 groes i ddeddfwriaeth diogelu data, gallwch gysylltu 芒鈥檔 Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio鈥檙 manylion cyswllt isod.
E-bost: [email protected]
Ff么n: 020 7035 6999
Neu ysgrifennwch i:
Office of the DPO
Home Office
Peel Building
2 Marsham Street London
SW1P 4DF
Mae gennych hefyd hawl i gwyno i Swyddfa鈥檙 Comisiynydd Gwybodaeth am y ffordd y mae鈥檙 Swyddfa Gartref yn trin eich gwybodaeth bersonol. Mae manylion am sut i wneud hyn ar gael yma: Siarter gwybodaeth bersonol.