Consultation outcome

Consultation document (Welsh accessible)

Updated 23 December 2022

This was published under the 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Applies to England and Wales

Am yr ymgynghoriad hwn

I:

  1. Awdurdodau penodedig a ddiffinnir yn adran 11, ac Atodlen 1, o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022: Prif Swyddogion yr heddlu, awdurdodau t芒n ac achub, Grwpiau Comisiynu Clinigol, Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau lleol, timau troseddu ieuenctid a gwasanaethau prawf,
  2. Awdurdodau addysg, carchardai a ddalfa ieuenctid fel y diffinnir yn adran 12, ac Atodlen 2, o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022.
  3. Cyrff plismona lleol.
  4. Gweinidogion Cymru
  5. Sector gwirfoddol a chymunedol
  6. Y cyhoedd

Hyd:

O 9 Mehefin i 21 Gorffennaf 2022

Ymholiadau (gan gynnwys ceisiadau am yr ymgynghoriad mewn fformat arall) i:

Ymholiadau am Ymgynghoriad Dyletswydd Trais Difrifol Uned Trais Difrifol, Y Swyddfa Gartref
5ed Llawr, Adeilad Fry 2 Stryd Marsham Llundain SW1P 4DF

E-bost: [email protected]

Sut i ymateb:

Anfonwch eich ymateb erbyn 21 Gorffennaf at:

E-bost: [email protected]

Fel arall, gallwch anfon eich ymateb at:

Ymateb Ymgynghoriad ar Ddyletswydd Trais Difrifol
Uned Trais Difrifol, Y Swyddfa Gartref
5ed Llawr, Adeilad Fry
2 Stryd Marsham
Llundain
SW1P 4DF

Papur ymateb:

Bydd ymateb i鈥檙 ymarfer ymgynghori hwn yn cael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref ar 188体育.

Rhagair gan y Gweinidogion

Mae Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a鈥檙 Llysoedd 2022 yn gwneud darpariaeth hanfodol trwy鈥檙 Ddyletswydd Trais Difrifol i sicrhau bod yr awdurdodau a鈥檙 sefydliadau iawn yn cydweithio, yn rhannu data a gwybodaeth, ac yn rhoi cynlluniau ar waith i atal a lleihau trais difrifol.Rydym wedi ymrwymo i leihau trais difrifol a rhoi diwedd ar y trychinebau sy鈥檔 achosi gofid i鈥檔 cymunedau. Mae鈥檔 bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda鈥檔 gilydd, ar draws y sectorau llywodraeth, statudol, preifat, a gwirfoddol i gyflawni鈥檙 newid hollbwysig hwn.

Mae mynd i鈥檙 afael 芒 thrais difrifol yn brif flaenoriaeth i鈥檙 Swyddfa Gartref.Yn 2018, cyhoeddodd y Llywodraeth ei Strategaeth Trais Difrifol sy鈥檔 nodi鈥檔 glir nod y Llywodraeth i wneud popeth o fewn ei gallu i atal trais difrifol. Mae鈥檙 Llywodraeth wedi sicrhau bod

拢130m ar gael yn y flwyddyn ariannol yma (22/23) i fynd i鈥檙 afael 芒 thrais difrifol, gan gynnwys llofruddiaeth a throseddau cyllyll. Mae hyn yn cynnwys 拢64m ar gyfer Unedau Lleihau Trais (VRUs) sy鈥檔 dod 芒 phartneriaid lleol at ei gilydd i fynd i鈥檙 afael 芒 ffactorau sy鈥檔 achosi trais yn eu hardal. Mae VRUs yn darparu amrywiaeth o raglenni ymyrraeth ac atal cynnar er mwyn dargyfeirio pobl oddi wrth cymryd rhan mewn troseddu.Mae鈥檙 rhaglenni wedi cyrraedd dros 260,000 o bobl ifanc sy鈥檔 agored i niwed yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig.

Yn yr ymgynghoriad hwn, rwy鈥檔 croesawu eich barn am y Canllawiau Statudol drafft diwygiedig ar y Ddyletswydd.

Rwy鈥檔 gobeithio鈥檔 fawr eich bod yn ymateb i鈥檙 ymgynghoriad hwn. Bydd eich barn yn helpu i benderfynu ar gynnwys y canllawiau statudol terfynol a chyfeiriad y gefnogaeth i鈥檞 gweithredu.

Kit Malthouse

Gweinidog Gwladol dros Droseddu, Plismona a鈥檙 Gwasanaeth Prawf

Cefndir am Ddyletswydd Trais Difrifol

Mewn ymateb i Ymgynghoriad gan y Llywodraeth yn 2019 ar ddyletswydd gyfreithiol newydd i gefnogi dull amlasiantaethol o atal a mynd i鈥檙 afael 芒 thrais difrifol, roedd consensws cyffredinol ar gyfer dull deddfwriaethol o ymdrin 芒 Dyletswydd. O ganlyniad, deddfwyd Dyletswydd Trais Difrifol (鈥榶 Ddyletswydd鈥�) fel rhan o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu, a Llysoedd 2022 (鈥楧eddf PCSC鈥�) ac mae鈥檔 rhan allweddol o ymrwymiad y Llywodraeth i leihau ac atal trais difrifol.

Mae鈥檙 Ddyletswydd yn cynnwys y gofynion a nodir ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf PCSC 2022; lle mae angen i awdurdodau penodedig, yr heddlu, awdurdodau lleol, awdurdodau t芒n ac achub, timau troseddu ieuenctid, Grwpiau Comisiynu Clinigol (CCGs) [footnote 1] yn Lloegr,Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru a gwasanaethau prawf, gydweithio i lunio dadansoddiad ar sail tystiolaeth o drais difrifol mewn ardal leol ac yna llunio a gweithredu strategaeth sy鈥檔 rhoi manylion ar sut y byddant yn ymateb i鈥檙 materion hynny.

Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn y canllawiau statudol drafft ar y Ddyletswydd Trais Difrifol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 19 Deddf PCSC 2022. Nod y canllawiau yw cefnogi awdurdodau penodedig, cyrff plismona lleol, awdurdodau addysg, carchardai a ddalfa ieuenctid, unrhyw bersonau a nodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn rheoliadau o dan adran 10 o Ddeddf PCSC 2022 wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddyletswydd fel y nodir ym Mhennod 1 o Ran 2 o鈥檙 Ddeddf.

Mae鈥檙 ymgynghoriad wedi鈥檌 anelu at y rhai sydd ag arbenigedd wrth weithio gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn troseddu a/neu ail-droseddu neu erledigaeth, y rhai sy鈥檔 ymwneud 芒 gorfodi鈥檙 gyfraith ac, yn fwy cyffredinol, y cymunedau sy鈥檔 cael eu heffeithio gan drais difrifol gan gynnwys y sector gwirfoddol a chymunedol. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol perthnasol, megis y rhai sy鈥檔 gweithio ym maes gofal cymdeithasol, addysg, gorfodi鈥檙 gyfraith, llywodraeth leol, diogelwch cymunedol, gwasanaethau ieuenctid, rheoli troseddwyr, gwasanaethau i ddioddefwyr, iechyd cyhoeddus a gofal iechyd.

Yrardal ddaearyddol ar gyfer yr ymgynghoriad yw Cymru a Lloegr.

Bydd yr ymgynghoriad hwn hefyd ar gael mewn fersiwn Gymraeg yn fuan. Cyhoeddwyd Asesiad Effaith ar gyfer y Ddyletswydd Trais Difrifol a chyhoeddwyd Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar gyfer Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a鈥檙 Llysoeddyma.

Cynigion ar gyfer gweithredu鈥檙 Ddyletswydd Trais Difrifol

Rydym yn anelu at gyhoeddi鈥檙 canllawiau statudol terfynol cyn i鈥檙 Ddyletswydd Trais Difrifol ddod i rym ar ddechrau 2023 er mwyn i bartneriaid fod yn barod i鈥檞 gweithredu. Cyn i鈥檙 uchod ddigwydd, bydd deddfwriaeth eilaidd yn cael ei chyflwyno i wneud darpariaeth bellach ar gyfer neu mewn cysylltiad 芒 chyhoeddi a lledaenu strategaethau a rhoi swyddogaethau i gyrff plismona lleol. Mae鈥檙 polisi amlinellol ar gyfer y ddeddfwriaeth eilaidd wedi鈥檌 gynnwys yn y canllawiau statudol drafft ym Mhennod 2 a 3.

Cyhoeddwyd ar 13 Mai 2021. Dyma oedd llywio鈥檙 trafodaethau yn ystod taith y Bil.Ers y cyhoediad, rydym wedi derbyn sylwadau gan amrywiaeth o randdeiliaid yn ogystal ag mewn dadleuon yn y ddau D欧 Seneddol. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu鈥檙 canllawiau ymhellach mewn perthynas 芒 diogelu ac ychwanegu cynnwys newydd ar dai a digartrefedd. Erbyn hyn mae鈥檙 canllawiau drafft yn cynnwys canllawiau i adlewyrchu gosod y ddyletswydd yng Nghymru.

Mae鈥檙 canllawiau drafft diwygiedig hefyd yn ystyried y gwelliannau canlynol a wnaed yn ystod taith Seneddol Deddf PCSC:

  • gwneud yn glir bod y diffiniad o drais at ddiben y Ddyletswydd yn cynnwys cam- drin domestig a thrais rhywiol.

  • heb gynnwys gwybodaeth am gleifion (fel y diffinnir yn adran 10 o Ddeddf PCSC 2022) o ystyried y darpariaethau rhannu data a ddarperir mewn perthynas 芒鈥檙 Ddyletswydd. Yn ogystal, ni all awdurdodau iechyd na gofal cymdeithasol (fel y diffinnir yn adran 10) rannu gwybodaeth bersonol (fel y diffinnir yn adran 10) o dan y darpariaethau rhannu data mewn perthynas 芒鈥檙 Ddyletswydd.

  • cyfyngu ar geisiadau data gan gyrff plismona lleol (PCCs, a鈥檙 Swyddfa Plismona a Throsedd y Maer yn Llundain a Chyngor Cyffredin Dinas Llundain fel awdurdod heddlu) i wybodaeth sydd eisoes gan awdurdod sydd wedi derbyn cais.

  • bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gosod copi o鈥檙 canllawiau statudol ar gyfer y Ddyletswydd Trais Difrifol yn y Senedd.

  • egluro o ganlyniad i鈥檙 ddeddfwriaeth ddod i rym, y mae鈥檔 rhaid i awdurdodau penodedig gyhoeddi strategaeth ac y bydd rheoliadau鈥檔 rhoi manylion pellach ynghylch cyhoeddi neu ledaenu strategaeth.

Ar 么l i鈥檙 Ddyletswydd Trais Difrifol a鈥檙 ddeddfwriaeth eilaidd gysylltiedig ddod i rym, bydd gofyn i bartneriaethau lleol weithio tuag at gyhoeddi a lledaenu eu strategaethau.

Rydym yn cynnig y dylai partneriaethau lleol gyhoeddi eu strategaeth gyntaf o fewn 12 mis i gychwyn y Ddyletswydd. Bydd gofyn i awdurdodau penodedig gyhoeddi eu strategaeth trais difrifol gyntaf ac unrhyw adolygiadau dilynol ar wefan sy鈥檔 agored i bawb i鈥檞 harchwilio. Rydym hefyd yn bwriadu y bydd awdurdodau penodedig yn lledaenu cynnydd ar y strategaeth drwy eu hasiantaeth unigol a phrosesau adrodd blynyddol partneriaeth yn ogystal 芒 chanlyniad unrhyw adolygiadau dilynol.

Mae fersiwn diwygiedig o鈥檙 canllawiau ar gael ar dudalen we ymgynghoriad Dyletswydd Trais Difrifol.

Rydym yn gofyn am adborth ar y canllawiau statudol yn ogystal ag astudiaethau achos ychwanegol i gefnogi dysgu pellach.Gallwch naill ai gwblhau鈥檙 arolwg ar-lein neu ddefnyddio鈥檙 ffurflen a ddarperir ar y dudalen nesaf i gofnodi eich ymatebion.

Manylion cyswllt a sut i ymateb

Anfonwch eich ymateb erbyn 21 Gorffennaf 2022 i:

E-bost: [email protected]

Fel arall, gallwch anfon eich ymateb at:

Ymateb Ymgynghoriad ar Ddyletswydd Trais Difrifol
Uned Trais Difrifol, Y Swyddfa Gartref
5ed Llawr, Adeilad Fry
2 Stryd Marsham Llundain
SW1P 4DF

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych unrhyw g诺ynion neu sylwadau am y broses ymgynghori, dylech gysylltu 芒鈥檙 Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.

Cop茂au ychwanegol

Mae modd cael cop茂au papur ychwanegol o鈥檙 ymgynghoriad hwn drwy ysgrifennu at y cyfeiriad hwn ac mae鈥檙 cop茂au hefyd ar gael ar-lein.

Gellir gofyn am fersiynau fformat amgen o鈥檙 cyhoediad hwn gan: [email protected]](mailto:[email protected])

Cyhoeddi ymateb

Bydd papur sy鈥檔 crynhoi鈥檙 ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi ar Gov.uk. Bydd y papur ymateb ar gael ar-lein yma.

Grwpiau cynrychiadol

Gofynnir i grwpiau cynrychiadol roi crynodeb o鈥檙 bobl a鈥檙 sefydliadau y maent yn eu cynrychioli pan fyddant yn ymateb.

Cyfrinachedd

Gellir cyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i鈥檙 ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn unol 芒鈥檙 cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (sydd bennaf yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), Deddf Diogelu Data 2018 (DPA), y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).

Os ydych chi am i鈥檙 wybodaeth yr ydych chi鈥檔 ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol, o dan y FOIA, bod Cod Ymarfer statudol y mae鈥檔 rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef ac sy鈥檔 delio, ymhlith pethau eraill, 芒 rhwymedigaethau cyfrinachedd. O ystyried hyn, byddai鈥檔 ddefnyddiol pe gallech egluro i ni pam eich bod yn ystyried bod y wybodaeth rydych wedi鈥檌 darparu yn gyfrinachol. Os derbyniwn gais i ddatgelu鈥檙 wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn sicrhau y gellir cynnal cyfrinachedd ym mhob achos. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG yn cael ei ystyried yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich data personol yn unol 芒鈥檙 Deddf Diogelu Data ac yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd part茂on.

Egwyddorion ymgynghori

Mae鈥檙 egwyddorion y dylai adrannau鈥檙 llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill fabwysiadu ar gyfer ymgysylltu 芒 rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth yn cael eu nodi yn yr egwyddorion ymgynghori.

Atodiad A 鈥� Canllawiau Statudol Drafft am y Ddyletswydd Trais Difrifol

Copi ar gael ar dudalen ymgynghori Dyletswydd Trais Difrifol

Atodiad B 鈥� Asesiad Effaith

Cyhoeddwyd Asesiad Effaith ar Gyfer y Ddyletswydd Trais Difrifol .

Cyhoeddwyd Asesiad Effaith Cydraddoldebau ar gyfer Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a鈥檙 Llysoedd yma.

  1. Bydd CCGs yn cael eu disodli gan Fyrddau Gofal Integredig (ICB) o 1 Gorffennaf 2022 fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2022聽鈫�