Welsh language executive summary (accessible version)
Updated 9 August 2021
Crynodeb gweithredol
Mae鈥檙 Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus ar ymestyn grymoedd 鈥榮eiliau rhesymol鈥� ar gyfer stopio a chwilio dan adran 1 Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) i gwmpasu鈥檙 drosedd arfaethedig o gario sylwedd rhydol dan y Bil Arfau Ymosodol, y camddefnydd o ffyn laser i gyflawni troseddau dan Ddeddf Camddefnyddio Laser (Cerbydau) 2018 a鈥檙 camddefnydd o awyrennau dibeilot i gyflawni trosedd dan Orchymyn Llywio Awyr a Deddf Carchardai 1952.
Mae Adran 1 PACE yn rhoi grym i鈥檙 heddlu stopio a chwilio person neu gerbyd pan fydd ganddynt seiliau rhesymol dros dybio y byddant yn canfod eitemau gwaharddedig, gan gynnwys arfau ymosod (e.e. cyllyll), eitemau wedi鈥檜 dwyn, offer perthnasol i gyflawni troseddau neilltuol a th芒n gwyllt. Mae Adran 23 Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn darparu鈥檙 un grymoedd mewn perthynas 芒 chyffuriau a reolir.
Nid yw鈥檙 ddeddfwriaeth gyfredol yn darparu grym penodol i stopio a chwilio pobl mewn achosion o fod 芒 sylweddau rhydol yn eu meddiant mewn lle cyhoeddus heb reswm da, ffyn laser lle maent wedi eu defnyddio yn erbyn dulliau trafnidiaeth, neu awyrennau dibeilot ac offer awyrennau dibeilot wrth gyflawni troseddau dan Orchymyn Llywio Awyr 2016 a throsglwyddo eitemau anghyfreithlon trwy eu cludo dros ffiniau carchar. Mae鈥檙 ymgynghoriad yn hel barnau ynghylch pa mor effeithlon a chymesur fyddai ymestyn 鈥榮eiliau rhesymol鈥� stopio a chwilio i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 materion hyn.
Sylweddau rhydol
Mae鈥檙 Bil Arfau Ymosodol yn cynnwys mesurau fydd yn ei gwneud yn drosedd i werthu rhai cynhyrchion rhydol i bobl dan 18 oed a鈥檌 gwneud yn drosedd i fod ym meddiant sylweddau rhydol mewn man cyhoeddus heb reswm da. Bydd y mesurau hyn yn atgyfnerthu鈥檙 ymateb cyfiawnder troseddol i鈥檙 broblem hon, ac roedd yr ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus blaenorol yn dangos cefnogaeth eang i鈥檙 troseddau newydd hyn oddi wrth ystod o bartneriaid gan gynnwys busnesau. Bydd y drosedd o fod ym meddiant sylweddau rhydol mewn man cyhoeddus yn atgyfnerthu鈥檙 grymoedd fydd ar gael i鈥檙 heddlu i weithredu er mwyn atal ymosodiadau yn defnyddio sylweddau rhydol. Er ei bod yn bosibl ar hyn o bryd i stopio a chwilio personau y tybir eu bod ym meddiant arf ymosodol, a allai gynnwys sylwedd rhydol mewn rhai amgylchiadau, mae yna anawsterau penodol wrth geisio sefydlu bwriad treisgar. Mae鈥檙 ymgynghoriad yn gwahodd barnau ynghylch p鈥檜n a fyddai ymestyn stopio a chwilio i gwmpasu鈥檙 drosedd arfaethedig o fod ym meddiant sylwedd rhydol mewn man cyhoeddus heb reswm da yn briodol ac effeithiol.
Ffyn laser
Teclynnau bychain yw ffyn laser sy鈥檔 lledu pelydryn cul o olau ac fe鈥檜 defnyddir am nifer o resymau cyfreithiol a phroffesiynol. Maent yn gymharol rad a hawdd eu canfod yn y DU o siopau a manwerthwyr ar-lein. Dros y degawd diwethaf bu pryder cynyddol ynghylch y defnydd maleisus o ffyn laser, yn erbyn awyrennau yn benodol a鈥檙 peryglon i ddiogelwch a ddaw yn sgil hyn. Nodwyd pryderon hefyd ynghylch eu camddefnyddio yn erbyn dulliau trafnidiaeth eraill, a all arwain ar niwed difrifol neu farwolaeth aelodau o鈥檙 cyhoedd.
Roedd Deddf Camddefnyddio Laser (Cerbydau) 2018, a ddaeth i rym ar 10 Gorffennaf 2018, wedi creu trosedd newydd o gyfeirio laser at gerbyd a dallu neu dynnu sylw鈥檙 person sy鈥檔 gyrru鈥檙 cerbyd. Fodd bynnag, nid yw鈥檙 Ddeddf yn cynnwys grym i鈥檙 heddlu stopio a chwilio unigolion y tybiant sydd 芒 ffon laser yn eu meddiant sydd wedi ei defnyddio, neu sydd i gael ei defnyddio, i gyflawni鈥檙 drosedd hon. Mae鈥檙 heddlu o鈥檙 farn y byddai ymestyn grymoedd stopio a chwilio i ymdrin 芒鈥檙 drosedd hon yn gwella eu gallu i fynd i鈥檙 afael 芒 gweithgarwch troseddol o鈥檙 math hwn. Mae鈥檙 ymgynghoriad yn gwahodd barnau ynghylch p鈥檜n a fyddai ymestyn stopio a chwilio i gwmpasu鈥檙 camddefnydd o ffyn laser yn briodol ac effeithiol.
Awyrennau dibeilot ac offer dibeilot
Mae awyrennau dibeilot ar gael yn gyffredin yn y DU ac mae ganddynt ystod eang o ddefnyddiau cyfreithiol. Wrth i adroddiadau am gamddefnyddio awyrennau dibeilot gynyddu, daeth heriau i鈥檙 amlwg wrth geisio gorfodaeth ac ymchwiliad effeithlon. Mae cyflymder twf y dechnoleg a鈥檙 defnydd o awyrennau dibeilot i gyflawni troseddau yn golygu bod swyddogion yr heddlu yn methu delio鈥檔 effeithiol gydag adroddiad neu ddigwyddiad i sicrhau erlyniad.
Dan Orchymyn Llywio Awyr 2016 mae eisoes yn drosedd i awyrennau dibeilot gael eu defnyddio mewn rhai amgylchiadau. Dan Ddeddf Carchardai 1952 mae eisoes yn drosedd i ddefnyddio awyrennau dibeilot i gludo eitemau anghyfreithlon dros ffiniau carchar. Er hyn, nid yw grymoedd cyfredol stopio a chwilio yn berthnasol i鈥檙 troseddau hyn ac felly ni fedr swyddogion stopio rhywun ar sail resymol os ydynt yn tybio bod unigolyn yn berchen ar offer dibeilot sydd wedi ei ddefnyddio, neu y bwriedir ei ddefnyddio i gyflawni鈥檙 troseddau hyn.
Byddai grym newydd i stopio a chwilio yn galluogi swyddogion yr heddlu i stopio a chwilio person neu gerbyd mewn man cyhoeddus os oes gan y swyddog sail resymol dros dybio y byddant yn dod o hyd i offer dibeilot a/neu unrhyw eitem gysylltiedig ag awyren ddibeilot sydd wedi ei defnyddio, neu y bwriedir ei defnyddio i gyflawni troseddau dan Orchymyn Llywio Awyr 2016 a throseddau dan Ddeddf Carchardai 1952.
Mae鈥檙 ymgynghoriad yn gwahodd barnau ynghylch p鈥檜n a fyddai ymestyn stopio a chwilio i gwmpasu鈥檙 camddefnydd o awyrennau dibeilot yn briodol ac effeithiol. Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth y bwriad o ddatblygu Bil Drafft Awyrennau Dibeilot a fyddai鈥檔 cynnwys grymoedd ychwanegol i鈥檙 heddlu. Ar 26 Gorffennaf 2018, cyhoeddwyd ymgynghoriad ehangach ar yr hyn y dylai鈥檙 grymoedd eraill hyn fod, yn ogystal 芒 chynnwys ehangach y Bil a mesurau polisi awyrennau dibeilot eraill; mae鈥檔 agored i ymatebion hyd at 17 Medi 17 2018. Canolbwynt yr ymgynghoriad hwn yw grymoedd arfaethedig stopio a chwilio, yn enwedig yn benodol i droseddau dan Orchymyn Llywio Awyr 2016 y gellir eu cyflawni trwy ddefnyddio awyrennau dibeilot, ac yn cwmpasu troseddau dan Ddeddf Carchardai 1952 sy鈥檔 gwahardd cludo eitemau anghyfreithlon i mewn i garchar. Ar hyn o bryd nid yw grymoedd stopio a chwilio yn berthnasol i鈥檙 mathau hyn o droseddau.
Mae鈥檙 Ysgrifennydd Cartref wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad chwe wythnos yn dechrau ar 9 Awst 2018 ac yn gorffen ar 22 Hydref 2018. Cyhoeddwyd manylion llawn yr ymgynghoriad, yn ogystal 芒 fersiwn ar-lein, ar 188体育 a cheir mynediad atynt ar: www.gov.uk/government/consultations/police-stop-and-search-powers.
Dylid anfon unrhyw ymatebion papur neu electronig at [email protected] i gyrraedd cyn 22 Hydref 2018.