Newidiadau i god ymddygiad yr MCA a gweithredu鈥檙 LPS
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar newidiadau a gynigir i God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol (MCA), sy鈥檔 cynnwys canllawiau ar y system Trefniadau Diogelu Rhyddid (LPS) newydd. Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn hefyd yn gofyn am farn ar y rheoliadau LPS, a fydd yn ategu鈥檙 system newydd.
Ymgynghoriad ar y cyd yw hwn gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) a鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ).
Mae鈥檙 MCA yn berthnasol yn Lloegr ac yng Nghymru ond mae rhai agweddau o鈥檌 weithrediad yn ddatganoledig yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi hysbysu鈥檙 ymgynghoriad hwn felly.
Bydd yr LPS yn berthnasol i bobl dros 16 oed, ac mae鈥檙 Adran Addysg (DfE) wedi bod ynghlwm 芒 datblygiad y system newydd hon.
Mae鈥檙 llywodraeth yn ymgynghori ar nifer o ddogfennau.
Cod Ymarfer
Cafodd yr MCA ei weithredu ar y cyd 芒 Chod Ymarfer y mae angen ei ddiweddaru nawr am 2 reswm allweddol:
- mae angen diweddaru canllawiau鈥檙 Cod cyfredol yng ngoleuni deddfwriaeth a chyfraith achosion newydd, newidiadau o ran y sefydliad a therminoleg, a datblygiadau mewn ffyrdd o weithio ac arfer da
- mae鈥檙 system LPS newydd yn golygu bod angen ychwanegu canllawiau ychwanegol at y Cod
Rheoliadau鈥檙 LPS
Cyflwynwyd yr LPS yn Neddf Galluedd Meddyliol (Diwygiad) 2019. Mae Llywodraeth y DU nawr yn ymgynghori ar chwe set o reoliadau drafft a fydd yn ategu鈥檙 system newydd. Pan fydd yn cael ei weithredu, byddai pedair o鈥檙 setiau o reoliadau hyn yn berthnasol yn Lloegr yn unig. Byddai鈥檙 ddwy set o reoliadau sy鈥檔 weddill yn berthnasol yn Lloegr ac yng Nghymru.
Ar wah芒n, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pedair set o reoliadau a fyddai鈥檔 berthnasol yng Nghymru.
Ochr yn ochr 芒 hynny, mae Llywodraeth Cymru鈥檔 .
Os ydych chi鈥檔 gweithio yn system gofal iechyd a chymdeithasol Cymru, neu鈥檔 ymgysylltu 芒 hi, ystyriwch ymateb i ymgynghoriadau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.